Cymunedau a ffordd o fyw
Mae ein cymunedau lleol yn datblygu i fod yn fwy a mwy gwasgarog. Mae ein seilwaith lleol a’r llefydd rydyn ni’n eu rhannu’n cael eu herydu ac nid yw pobl ifanc yn rhan o brosesau gwneud penderfyniadau.
-
Er bod pobl ifanc yn poeni am faterion amgylcheddol, mae astudiaethau’n dangos nad ydynt yn teimlo’n rymus i arwain neu greu newid ac mae teimlad o anobaith yn gysylltiedig â phroblemau newid yn yr hinsawdd (1)
-
Yn hanesyddol, mae tua 1 o bob 10 plentyn a pherson ifanc yn cael eu heffeithio gan broblemau iechyd meddwl (2)
-
Dywedir bod lles meddyliol pobl ifanc ar y lefel isaf a gofnodwyd erioed (3)
-
Y rhai 16 i 24 oed yw’r grŵp oedran mwyaf gweithredol ar gyfryngau cymdeithasol (91%). Gwnaed cyswllt rhwng defnydd o gyfryngau cymdeithasol ac iselder a phryder mewn pobl ifanc (4)
-
Mae gordewdra’n broblem iechyd gynyddol gyffredin ymhlith plant a phobl ifanc (5)