Skip to content
Ein heffaithAnna Maggs2020-09-09T16:52:38+01:00
‘Rydw i wedi dioddef o bryder ac mae bod mewn amgylchedd mor gefnogol lle rydw i’n gwneud newid positif wedi bod o help mawr i mi dyfu a dysgu.’
– Jade, prentis gyda phrosiect Green Futures
Gwerthuso’r Rhaglen
Mae’r Ymddiriedolaethau Natur wedi gweithio gydag Economic Research Services (ERS) a Collingwood Environmental Planning (CEP) i gynnal gwerthusiad o’r rhaglen. Nod y gwerthusiad yw adnabod, dadansoddi ac asesu effaith gasgliadol y 31 o brosiectau; gwerth ychwanegol y rhaglen; a yw wedi cyflawni ei uchelgeisiau yn y tymor hir ac, yn olaf, casglu tystiolaeth o effeithiau, arfer da a gwersi a ddysgwyd. Fel rhan o gontract y gwerthusiad, cynhyrchwyd Adroddiad Sylfaen ym mis Gorffennaf 2017; cynhyrchwyd Adroddiad Canol Tymor a Chrynodeb Gweithredol ym mis Gorffennaf 2019 ac mae disgwyl adroddiad terfynol ar ddiwedd 2021.
Adroddiad Canol Tymor y Gwerthusiad
Pwrpas cam y gwerthusiad canol tymor yw adrodd ar beth sydd wedi cael ei gyflawni ers dechrau’r rhaglen ac adnabod gwersi allweddol hyd yma i sbarduno gwell perfformiad. Bwriad yr adroddiad hwn yw hybu dysgu a chefnogi darparu’r rhaglen yn y dyfodol, yn ogystal â gadael i’r rhaglen rannu canfyddiadau gydag eraill. Y gobaith yw y gall y sylfaen gasgliadol o dystiolaeth fod yn sail i raglenni tebyg yn y dyfodol a darparu gwell tystiolaeth o sut gall pobl ifanc wella eu hamgylchedd lleol, y gellir ei defnyddio fel sail i bolisïau ac arferion ehangach.
Canfyddiadau allweddol:
-
Mae’r rhaglen wedi ymwneud yn uniongyrchol ag 85,788 o bobl ifanc (70.3% yn ymwneud am hyd at un diwrnod; 19.2% yn ymwneud am hyd at dri mis; a 10.5% yn ymwneud am fwy na thri mis). Mae hyn eisoes yn llawer mwy na tharged cyffredinol y rhaglen o 60,000 o bobl ifanc yn cymryd rhan yng ngweithgareddau Our Bright Future
-
Mae pobl ifanc wedi cael gwybodaeth amrywiol a sgiliau newydd, yn benodol i bynciau amgylcheddol a sgiliau meddal a throsglwyddadwy mwy cyffredinol. Mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod agwedd rhai pobl ifanc wedi gwella hefyd, a’u cymhelliant i ddysgu, a bod hyn wedi bod o ganlyniad i fod yn yr awyr agored ac allan o amgylchedd dosbarth
-
Mae’r prosiectau wedi gwella hunanhyder, lles ac iechyd meddwl y cyfranogwyr
-
Mae rhaglen Our Bright Future yn cefnogi amrywiaeth eang o gynefinoedd ar y tir ac yn y môr, drwy amrywiaeth o dasgau cadwraeth. Mae nifer y llefydd sydd wedi’u gwella yn uwch na tharged gwreiddiol y rhaglen hyd yma. Mae’r gweithgareddau o fudd positif i lawer o ddefnyddwyr mewn gwahanol lefydd, yn enwedig ysgolion a cholegau
-
Dangosodd y dystiolaeth ansoddol ac arolwg ar 450 o gyfranogwyr ar draws y rhaglen bod y prosiectau wedi cynyddu ymwybyddiaeth y cyfranogwyr o faterion amgylcheddol a gwella eu hagweddau tuag at dreulio amser yn yr amgylchedd naturiol
-
Mae rhaglen a phrosiectau Our Bright Future yn cymryd camau positif ymlaen tuag at ddylanwadu ar bolisi ac arferion. Mae’r cyflawniadau allweddol yn y cam canol tymor yn cynnwys y canlynol:
o Digwyddiad seneddol, yn cael ei gynllunio ar y cyd gan bobl ifanc a gyda 50 AS yn bresennol ynddo
o Pobl ifanc yn creu ‘Gofynion Polisi’ cydweithredol:
-
Treulio mwy o amser yn dysgu yn yr amgylchedd naturiol ac amdano
-
Cefnogaeth i gael swyddi amgylcheddol
-
Creu gofod i bobl ifanc gael eu clywed a chwarae rhan weithredol mewn cymdeithas
Adroddiadau i’w lawrlwytho
‘Rydw i wrth fy modd yn cael bod yn yr awyr agored ac archwilio cefn gwlad hardd Sir Efrog gan gael effaith bositif arno hefyd’
Rydyn ni’n creu newid sylweddol yn ansawdd ein hamgylchedd trefol a gwledig. Mae gofod lleol yn cael ei drawsnewid i ddarparu hafan hanfodol i fywyd gwyllt yn ogystal â gwasanaethau hanfodol sy’n helpu i warchod cymunedau rhag newid hinsawdd. Rydyn ni’n gwella seilwaith lleol ac yn helpu adferiad natur.
Rydyn ni’n grymuso pobl ifanc i wneud cyfraniad cadarnhaol tuag at eu cymunedau drwy gyflwyno a dylanwadu ar eu prosiectau eu hunain sy’n gwella’r ardaloedd o’u hamgylch. Rydyn ni’n buddsoddi mewn cyfleoedd i sicrhau eu bod yn meithrin sgiliau, profiad a chyflogaeth i ddatblygu eu hunain fel arweinwyr amgylcheddol.
Rydyn ni’n ysbrydoli pobl o bob oedran, diwylliant a chefndir i ddod at ei gilydd a chyfrannu at amrywiaeth eang o weithgareddau gydag effaith cadarnhaol ac arhosol. Mae mentrau cymunedol lleol llwyddiannus yn cael eu sefydlu ar hyd a lled y DU ac mae pobl leol yn cael cyfoeth o fanteision i wella llefydd lleol.
Gan ddefnyddio ein model o raglen arferion gorau, rydyn ni’n dangos y cyfleoedd a’r manteision a gynigir gan economi ‘werdd’ gynaliadwy sy’n gwneud defnydd effeithlon o adnoddau. Trwy wneud hynny, ein nod ni yw newid sut rydyn ni’n buddsoddi yn ein cymdeithas a gwneud yr economi werdd yn economi a ffafrir fel llwybr cyflogaeth ac addysg gan bobl ifanc.