{"id":10225,"date":"2022-10-10T19:28:54","date_gmt":"2022-10-10T18:28:54","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ourbrightfuture.co.uk\/?page_id=10225"},"modified":"2022-10-10T19:28:54","modified_gmt":"2022-10-10T18:28:54","slug":"jack-yn-our-bright-future-yn-fife","status":"publish","type":"page","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/jack-yn-our-bright-future-yn-fife\/","title":{"rendered":"Jack yn Our Bright Future yn Fife"},"content":{"rendered":"

\"\"\u201cDoedd yr ysgol ddim i mi, roeddwn i\u2019n ei chael hi\u2019n anodd dysgu yn yr ystafell ddosbarth ac roeddwn i eisiau bod y tu allan yn gwneud pethau ymarferol, felly fe wnes i adael ond heb wybod beth i\u2019w wneud nesaf mewn gwirionedd.\u201d<\/em><\/p>\n

Dyna lle roedd rhaglen Our Bright Future yn Fife yn gallu helpu. Roedd y rhaglen yn cynnig amrywiaeth o Brentisiaethau Modern mewn Sgiliau Gwledig, Garddwriaeth a Choed a Phren o’i safleoedd Partner ar draws Fife.<\/p>\n

\u201cFe wnes i gais a chael fy nerbyn ar y rhaglen ac rydw i wedi ei mwynhau\u2019n fawr, yn enwedig gweithio gyda\u2019r llifau cadwyn. Bellach mae gen i fy nhocyn cynnal a chadw llif gadwyn NTPC, trawsdorri a chwympo (hyd at 380mm) yn ogystal ag achub o’r awyr a defnyddio llif gadwyn ar ben coeden, sy’n gadael i mi ddefnyddio llif gadwyn ar y ddaear ac ar uchder. Fy hoff ran i yw pan fyddwch chi’n gwneud toriad neis iawn ac rydych chi’n clywed y crac wrth i’r goeden ddisgyn heb fachu ar unrhyw beth ar y ffordd i lawr! Rydw i hefyd wedi synnu fy hun gan fod ochr gwaith papur y brentisiaeth wedi bod yn iawn, yn bendant dyma\u2019r ffordd ymlaen.\u201d<\/em><\/p>\n

Mae Jack wedi gwneud mor dda fel ei fod wedi\u2019i enwebu yn rownd derfynol Gwobrau Dysgwr y Flwyddyn Diwydiannau\u2019r Tir a Dyframaethu Lantra Scotland yn y categori Coed a Phren, gan ddod yn ail o drwch y blewyn. Mae\u2019r hyfforddiant a\u2019r profiad y mae wedi\u2019u cael wedi galluogi iddo fynd i mewn i\u2019r sector gwledig fel gweithiwr proffesiynol medrus yn y maes o\u2019i ddewis.<\/p>\n

Gallwch weld fideo byr gan Jack o’i brofiad fel Prentis Modern mewn Coed a Phren ar Stad Falkland:<\/p>\n