{"id":1040,"date":"2016-03-13T21:00:40","date_gmt":"2016-03-13T21:00:40","guid":{"rendered":"http:\/\/www.www.ourbrightfuture.co.uk\/cy\/?page_id=1040"},"modified":"2022-04-23T05:21:35","modified_gmt":"2022-04-23T04:21:35","slug":"newyddion","status":"publish","type":"page","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/newyddion\/","title":{"rendered":"Newyddion"},"content":{"rendered":"

[vc_row][vc_column][vc_column_text]<\/p>\n

<\/h6>\n
Bob mis mae cylchlythyr e-bost Our Bright Future yn cynnwys cyfleoedd, a\u2019r newyddion diweddaraf am ein raglenni ag o\u2019r sector. Cliciwch yma<\/a> i gofrestru i\u2019w dderbyn os nad ydych chi wedi yn barod.<\/h6>\n

[\/vc_column_text][\/vc_column][\/vc_row][vc_row][vc_column width=”1\/2″][vc_single_image image=”9907″ img_size=”500×500″ alignment=”center”][\/vc_column][vc_column width=”1\/2″][vc_column_text]<\/p>\n

Pobl ifanc eisiau dysgu ym myd natur ac amdano!<\/strong><\/h5>\n
Lansiwyd e-weithredu dysgu gyda natur Our Bright Future ym mis Rhagfyr 2021 ac rydym angen eich help chi i rannu\u2019r cais pwysig yma mor bell ac agos \u00e2 phosibl! Nod yr ymgyrch yw ymgorffori dysgu ym myd natur ac amdano ar gyfer pob oedran ar draws y cwricwlwm. Drwy\u2019r rhaglen Our Bright Future, mae miloedd o bobl ifanc wedi bod yn gofyn i newidiadau gael eu gwneud ym mhob un o\u2019n hysgolion a\u2019n lleoliadau addysg ni, fel bod dysgu ym myd natur ac amdano, a newid yn yr hinsawdd, yn digwydd bob dydd. Mae pobl ifanc yn gwybod am y manteision y gallant eu cael o dreulio amser yn yr awyr agored, gan gynnwys rhoi hwb i hyder, sgiliau a lles, a dyma un o\u2019r rhesymau niferus pam mae\u2019r gweithredu yma mor bwysig iddynt. Gallwch gefnogi eu cais am dreulio mwy o amser yn dysgu ym myd natur ac amdano drwy ychwanegu eich enw at yr e-weithredu hollbwysig hwn yma.<\/a><\/h6>\n

[\/vc_column_text][\/vc_column][\/vc_row][vc_row][vc_column width=”1\/2″][vc_single_image image=”9195″ img_size=”500×500″ alignment=”center”][\/vc_column][vc_column width=”1\/2″][vc_column_text]<\/p>\n

Prosiect Wild Youth<\/strong><\/h5>\n
Ifanc, gwyllt ac iach, dyna’r llinell frand ar gyfer menter 4 blynedd newydd a fydd yn dechrau yn Belfast ym mis Ionawr 2022. Gyda\u2019r enw Wild Youth, mae’r rhaglen hon wedi cael ei datblygu drwy bartneriaeth rhwng y Belfast Hills Partnership<\/a> ac Ulster Wildlife<\/a>. Mae’r ddau sefydliad wedi bod yn cwblhau eu gwaith ymgysylltu \u00e2 phobl ifanc eu hunain a gefnogir drwy Our Bright Future.<\/h6>\n
Cynhaliwyd ymarferion ymgynghori gyda phobl ifanc i gael gwybod beth oedd eu hanghenion a’u syniadau ar gyfer prosiect newydd. Wedyn gwnaed cais i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Ngogledd Iwerddon o dan eu rhaglen Grymuso Pobl Ifanc. Cyfwelwyd pobl ifanc o’r ddau sefydliad partner gan staff Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol fel rhan o’r broses asesu. Mae\u2019r gwaith wedi dechrau eisoes ar recriwtio pobl ifanc i fod yn aelodau o\u2019r gr\u0175p llywio ar gyfer y prosiect.<\/h6>\n
Unwaith y bydd y prosiect wedi dechrau, bydd yn cyflwyno sesiynau lles Gwyllt gydag ysgolion a grwpiau ieuenctid yn ardal Bryniau Belfast. Bydd cymunedau difreintiedig ledled Gogledd a Gorllewin Belfast yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer cyfranogiad.<\/h6>\n
Dyma’r waddol perffaith i raglen Our Bright Future yng Ngogledd Iwerddon, gan sicrhau y bydd pobl ifanc yn parhau i gymryd rhan mewn gwaith ieuenctid amgylcheddol pwerus a thrawsnewidiol yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod.<\/h6>\n

[\/vc_column_text][\/vc_column][\/vc_row][vc_row][vc_column width=”1\/2″][vc_single_image image=”9187″ img_size=”600×300″ alignment=”center”][\/vc_column][vc_column width=”1\/2″][vc_column_text]<\/p>\n

Pam mai dim ond 0.5% o ymddiriedolwyr y DU sy’n bobl ifanc 18 i 24 oed? Gadewch i ni newid hyn!<\/strong><\/h5>\n
Oedran cyfartalog ymddiriedolwr yn y DU yw 59 oed gyda llai na 0.5% o’r ymddiriedolwyr cyfredol rhwng 18 a 24 oed. Er gwaethaf hyn, pan gynhaliwyd arolwg dywedodd 85% o bobl dan 35 oed y byddent yn ystyried bod yn ymddiriedolwr. Nawr, mae Our Bright Future a Mudiad yr Ymddiriedolwyr Ifanc yn dweud ei bod hi’n amser am newid!<\/h6>\n
Mae gwahoddiad i bobl ifanc sydd \u00e2 diddordeb mewn bod yn ymddiriedolwyr yn y sector amgylcheddol, neu sydd eisiau cael gwybod mwy, fynychu digwyddiad ar-lein gyda’r nod o oresgyn y rhwystrau sy’n eu hwynebu. Bydd Our Bright Future a Mudiad yr Ymddiriedolwyr Ifanc yn cynnal y digwyddiad awr o hyd nos Fawrth, 19 Hydref, gan ddechrau am 6.30pm.<\/h6>\n
Bydd pedwar ymddiriedolwr ifanc yn siarad am eu profiadau, yn rhannu arfer da ac yn chwalu rhai o’r mythau ynghylch bod yn ymddiriedolwr mewn ymgais i ysbrydoli a chefnogi pobl ifanc eraill i wneud yr un peth. Y siaradwyr:<\/h6>\n