{"id":10560,"date":"2023-01-03T17:28:51","date_gmt":"2023-01-03T17:28:51","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ourbrightfuture.co.uk\/?page_id=10560"},"modified":"2023-01-03T17:34:36","modified_gmt":"2023-01-03T17:34:36","slug":"stori-sofia","status":"publish","type":"page","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/stori-sofia\/","title":{"rendered":"Stori Sofia"},"content":{"rendered":"

[vc_row][vc_column width=”2\/3″][vc_column_text]Fe gymerodd Sofia ran yn y rhaglen Creative Pathways gydag Impact Arts yn Glasgow. Mae\u2019r prosiect yma wedi bod yn rhan hynod ddylanwadol o\u2019i bywyd hi. Fe roddodd gyfle iddi fynegi ei phrofiadau a’i gwaith yn greadigol fel rhan o d\u00eem. Fe rannodd ei bod yn dioddef o orbryder difrifol ac roedd hyn yn gwneud yr ysgol yn anodd iawn iddi. \u201cDoeddwn i ddim yn gallu graddio mewn gwirionedd oherwydd bod fy iechyd meddwl i wedi dirywio mor wael fel nad oeddwn i\u2019n gallu gorffen, ac nid oherwydd diffyg ymdrech\u201d. Fe effeithiodd yr heriau personol yma ar y ffordd yr oedd hi\u2019n gweld y byd a’r dyfodol y gallai ei gael.<\/p>\n

“Roeddwn i bob amser yn hoffi ysgrifennu, dyna beth rydw i wrth fy modd yn ei wneud.\u201d<\/strong><\/em>[\/vc_column_text][\/vc_column][vc_column width=”1\/3″][vc_single_image image=”10555″ img_size=”full” alignment=”center”][\/vc_column][\/vc_row][vc_row][vc_column][vc_column_text]Fe newidiodd cymryd rhan yn Creative Pathways ei gweledigaeth ar gyfer ei dyfodol, meddai. \u201cRoeddwn i bob amser yn hoffi ysgrifennu, dyna beth rydw i wrth fy modd yn ei wneud, ac fe ddatblygodd y syniad yma, \u201cRydw i eisiau dysgu sut i wneud ffilmiau,\u201d math o beth, oherwydd ein bod ni wedi mynd a gwneud y prosiect ymchwil yma ac roedd hynny oherwydd bod ein prosiect terfynol ni fel arddangosfa oriel.\u201d Roedd y gefnogaeth a\u2019r sgiliau a gafodd drwy\u2019r prosiect yn gyfle iddi sylweddoli ei hangerdd a chael profiad, \u201cFe gefais i\u2019r holl gyfleoedd gwahanol yma yn deillio o\u2019r ffaith i mi wneud Creative Pathways.\u201d<\/p>\n

Roedd yr arddangosfa gelf yr oedd hi\u2019n cydweithio arni yn canolbwyntio ar y berthynas gyda\u2019r amgylchedd a defnydd dyn ohono. \u201cFe wnaethon ni fowldio plastr, ond gan ddefnyddio cwpanau papur a sbwriel oedden ni\u2019n ei daflu, a’u harddangos nhw. Roedd yn hynod, hynod ddiddorol, gwneud rhywbeth sydd mor ddrwg i\u2019r amgylchedd ac mor dros dro yn rhywbeth eithaf parhaol\u201d. Mae ei hamser ar y rhaglen wedi newid y ffordd y mae\u2019n ymgysylltu \u00e2\u2019r amgylchedd yn aruthrol ac fe roddodd \u201cfwy o werthfawrogiad iddi o \u2026 yr hyn y gall pethau bach ym myd natur ei wneud i chi\u201d. Mae bod yn ymwybodol o\u2019r amgylchedd yn parhau i effeithio ar ei bywyd bob dydd a’i harfer fel gwneuthurwr ffilmiau. Disgrifia sut mae hi nawr yn ceisio bod yn amgylcheddol ymwybodol gyda’i chelf, fel defnyddio ffyrdd ecogyfeillgar o ddatblygu ffilmiau, yn lle cemegau niweidiol.<\/p>\n

\u00a0\u201cFe gefais i\u2019r holl gyfleoedd gwahanol yma yn deillio o\u2019r ffaith i mi wneud Creative Pathways.”<\/strong><\/em><\/p>\n

Roedd profiad Sofia gyda Creative Pathways yn un hynod gadarnhaol, yn y cyfweliad fe rannodd hi \u201cmae rhyw fath o hud yn yr hyn maen nhw’n ei wneud\u201d. Drwy hyn mae’n golygu bod y sgiliau, yr hyder a’r profiad maen nhw\u2019n eu cynnig i bobl ifanc yn amhrisiadwy. Mae\u2019n disgrifio sut cafodd ei hyder a\u2019i sgiliau arwain eu gwella o gymryd rhan yn y rhaglen, \u201cmae wedi rhoi cymaint o hyder i mi, roeddwn i\u2019n gallu dechrau gwneud mwy o brosiectau gwahanol a gwthio fy hun. Mae cael y profiad hwnnw a chael y gefnogaeth honno yn bendant wedi galluogi i mi ei rannu ag eraill\u201d.<\/p>\n

\u201cMae wedi rhoi cymaint o hyder i mi, roeddwn i\u2019n gallu dechrau gwneud mwy o brosiectau gwahanol a gwthio fy hun.\u201d<\/strong><\/em><\/p>\n

Mae ganddi berthynas gref \u00e2 Creative Pathways o hyd a hi yw\u2019r aelod ieuengaf ar fwrdd Impact Arts. \u201cRydw i\u2019n rhan o Fwrdd Impact Arts nawr, fel y swyddog \u2013 rydw i\u2019n gwybod, mae\u2019n gwbl wallgof\u201d. Yn y r\u00f4l yma mae hi’n eiriol dros bobl ifanc eraill sydd ar y cyrion i ddod o hyd i fwy o gynrychiolaeth yn sector y celfyddydau a’r amgylchedd. \u201cFel rhan o\u2019r Bwrdd, rydw i\u2019n bendant yn hyrwyddo mwy o amrywiaeth\u201d. Mae\u2019r gefnogaeth gafodd hi gan y t\u00eem yn Creative Pathways wedi helpu i ennill graddau A iddi yn ei Diploma Cenedlaethol Uwch. Nawr mae hi’n astudio i fod yn wneuthurwr ffilmiau ym Mhrifysgol Napier Caeredin. \u201cMae\u2019r ffaith \u2019mod i hyd yn oed mewn prifysgol ar \u00f4l dod o\u2019r ysgol uwchradd heb ddim byd heblaw Nat 5s yn beth mawr iawn i mi\u201d[\/vc_column_text][\/vc_column][\/vc_row]<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"

[vc_row][vc_column width=”2\/3″][vc_column_text]Fe gymerodd Sofia ran yn y rhaglen Creative Pathways gydag Impact Arts yn Glasgow. Mae\u2019r prosiect yma wedi bod yn rhan hynod ddylanwadol o\u2019i bywyd hi. Fe roddodd gyfle iddi fynegi ei phrofiadau a’i gwaith yn greadigol fel rhan o d\u00eem. Fe rannodd ei bod yn dioddef o orbryder difrifol ac roedd hyn yn […]<\/p>\n","protected":false},"author":65,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":[],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/10560"}],"collection":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/65"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10560"}],"version-history":[{"count":3,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/10560\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10563,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/10560\/revisions\/10563"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10560"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}