{"id":10581,"date":"2023-01-04T15:15:48","date_gmt":"2023-01-04T15:15:48","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ourbrightfuture.co.uk\/?page_id=10581"},"modified":"2023-01-04T15:15:48","modified_gmt":"2023-01-04T15:15:48","slug":"stori-sam","status":"publish","type":"page","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/stori-sam\/","title":{"rendered":"Stori Sam"},"content":{"rendered":"

[vc_row][vc_column width=”2\/3″][vc_column_text]Fe gafodd Sam ei fagu drws nesaf i d\u0175r Blackpool, gan fynychu ysgol iau ac ysgol uwchradd yn Blackpool.<\/p>\n

Mae\u2019n cofio gobeithio gwneud \u201crhywbeth gyda bywyd gwyllt\u201d yn ystod ei flynyddoedd iau, ac mae ganddo atgofion melys am gwrdd ag ecolegydd o\u2019r enw Pauline a oedd yn gweithio yn Groundwork UK ac a fyddai\u2019n mynd ymlaen i gael dylanwad mawr ar fywyd cynnar Sam: \u201cFe wnes i edrych ar y swydd honno a meddwl, ‘Ydi, mae’n swnio fel fi.’\u201d Dyma pryd dechreuodd Sam wirfoddoli gyda phrosiectau’n ymwneud \u00e2 bywyd gwyllt a natur a ddatblygodd yn gyflym i fod yn angerdd: \u201cRoeddwn i\u2019n meddwl, ‘Ydw, rydw i’n caru hyn. Rydw i am wneud mwy o hyn\u2019\u201d.<\/p>\n

Yn gyffredinol, mae Sam yn cofio cael amser da yn yr ysgol er ei fod yn cael trafferth ar adegau gyda\u2019i ddyslecsia, gan nodi \u201cei bod yn anodd cael y cymorth roeddwn i ei angen hefyd pan [oedd] yn iau\u201d. Pan oedd Sam yn bedair ar ddeg oed, dechreuodd ymwneud \u00e2 phrosiect \u2018Green Leaders\u2019 Groundwork UK.<\/p>\n

\u201cRoeddwn i\u2019n blentyn eithaf swil pan oeddwn i\u2019n ifanc. Doeddwn i ddim yn siarad llawer, felly fe ddaeth \u00e2 fi allan o fy nghragen yn sicr, ac fe wnes i ddysgu trafod.”<\/strong><\/em>[\/vc_column_text][\/vc_column][vc_column width=”1\/3″][vc_single_image image=”10575″ img_size=”full” alignment=”center”][\/vc_column][\/vc_row][vc_row][vc_column][vc_column_text]Fe roddodd y prosiect le diogel a hygyrch i Sam ddatblygu ei sgiliau arwain mewn amgylchedd dysgu amgen a fyddai, yn y pen draw, yn ei weld yn ennill cymhwyster cyfatebol i TGAU. Tra oedd gyda’r Green Leaders, fe gymerodd Sam ran mewn gweithgareddau gr\u0175p gyda phobl ifanc eraill i feithrin ei sgiliau ymchwil. Dysgodd hefyd sut i drafod a siarad gyda phobl i gyfathrebu ei syniadau yn well. Fe gwblhaodd Sam lefel 1 a lefel 2 y Green Leaders, gan arwain digwyddiad i annog plant i blannu melyn Mair a mynd \u00e2 nhw adref i gefnogi amgylchedd ar gyfer gwenyn yn yr ardal leol. Roedd yn gallu dysgu\u2019r cyfranogwyr ifanc a’u gwarcheidwaid am wahanol wenyn a phymtheg o flodau maen nhw’n eu hoffi a pheryglon neonicotinoidau. Fe roddodd y profiad yma brofiad i Sam ac, yn hollbwysig, yr hyder i allu cynnal mwy o ddigwyddiadau ymgysylltu ac addysg yn y dyfodol.<\/p>\n

\u201cNawr fe allwn i gynllunio digwyddiad yn y brifysgol mae\u2019n debyg, pe bawn i eisiau, yn eithaf hawdd, gan fod gen i\u2019r profiad hwnnw.\u201d<\/strong><\/em><\/p>\n

Arweiniodd profiad cadarnhaol Sam gyda Green Leaders at fynd ymlaen i gymryd rhan mewn prosiect ieuenctid amgylcheddol arall, Future Proof Parks, gydag ef yn gwirfoddoli ar Lwybr Pyllau Gogledd Blackpool ac mae Sam yn cofio gwirfoddoli o dan y Gronfa Her Adferiad Gwyrdd, a noddwyd gan y llywodraeth i gynnal a chadw parciau.<\/p>\n

Sicrhaodd Sam le ym Mhrifysgol Nottingham Trent ac ar hyn o bryd mae\u2019n astudio ar gyfer ei radd mewn Ecoleg a Chadwraeth ac mae\u2019n aelod o\u2019r Gymdeithas Cadwraeth. Mae Sam yn teimlo bod ei brofiad gydag Our Bright Future a\u2019i wirfoddoli wedi ei alluogi i feithrin sgiliau sy\u2019n \u201cei wneud yn unigryw\u201d yn y Brifysgol ac yn y farchnad swyddi: \u201cMae wedi siapio fy nysgu i ac wedi siapio\u2019r hyn y gallaf ei wneud, ac mae wedi bod o help mawr i mi\u201d.<\/p>\n

Mae Sam yn cydnabod effaith gadarnhaol ei amser gyda\u2019r prosiect, nid yn unig ar ei sgiliau a\u2019i hyder, ond hefyd ar ei les cyffredinol, gan nodi \u201cmae wedi gwella fy sgiliau arwain i yn aruthrol. A gyda hynny, mae wedi gwella fy lles i oherwydd rydw i\u2019n gallu cyfathrebu\u2019n well nawr. Felly mae hynny’n golygu bod gen i well cyfeillgarwch, a dweud y gwir. Ffrindiau agosach. Rydw i\u2019n gallu dod ymlaen gyda phobl yn eithaf da oherwydd hynny, ac mae hyn i gyd yn cyfrannu at fy lles i.\u201d<\/p>\n

\u201cFe ddangosodd bwysigrwydd cymuned i mi mewn ffordd dda iawn a dweud y gwir.\u201d<\/strong><\/em><\/p>\n

Roedd ei brofiadau hefyd yn gyfle i Sam ddatblygu gwybodaeth am fywyd proffesiynol a heriau, a deall mwy am waith elusen a\u2019r sector amgylcheddol ei hun, gan ddatblygu a deall pwysigrwydd codi ymwybyddiaeth, ac ymgysylltu ac addysgu gwahanol gymunedau am faterion cadwraeth. Mae Sam yn angerddol am warchod mannau gwyrdd er budd bywyd gwyllt a\u2019r hil ddynol a\u2019r blaned. Mae\u2019n deall bod hon yn dasg enfawr ac mae\u2019n cael ei ysbrydoli gan y p\u0175er y gall cymunedau ei gael o gael yr adnoddau a\u2019r gefnogaeth i eiriol dros eu hamgylcheddau lleol: \u201cLlefydd gwyrdd fel arfer \u2013 dyma\u2019r llefydd cyntaf i gael toriadau. Maen nhw hefyd yn dueddol o wynebu datblygiad, oherwydd dyna lle mae’r mwyaf o arian. Sy’n golygu bod llefydd gwyrdd yn erydu … Mae cyllid yn beth gwych, ond mae arnoch chi angen pobl hefyd. Rydych chi angen pobl yn y gymuned i ddweud, \u201cO, fe af i…\u201d Hyd yn oed os yw’n awr y mis, mae cael ugain neu ddeg ar hugain o bobl sy’n angerddol am y peth ac eisiau ei wneud yn dda a dod allan yn lled-reolaidd yn well na phobl yn gwneud dim.”[\/vc_column_text][\/vc_column][\/vc_row]<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"

[vc_row][vc_column width=”2\/3″][vc_column_text]Fe gafodd Sam ei fagu drws nesaf i d\u0175r Blackpool, gan fynychu ysgol iau ac ysgol uwchradd yn Blackpool. Mae\u2019n cofio gobeithio gwneud \u201crhywbeth gyda bywyd gwyllt\u201d yn ystod ei flynyddoedd iau, ac mae ganddo atgofion melys am gwrdd ag ecolegydd o\u2019r enw Pauline a oedd yn gweithio yn Groundwork UK ac a fyddai\u2019n […]<\/p>\n","protected":false},"author":65,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":[],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/10581"}],"collection":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/65"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10581"}],"version-history":[{"count":4,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/10581\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10585,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/10581\/revisions\/10585"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10581"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}