{"id":10610,"date":"2023-01-17T10:38:24","date_gmt":"2023-01-17T10:38:24","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ourbrightfuture.co.uk\/?page_id=10610"},"modified":"2023-01-17T10:38:24","modified_gmt":"2023-01-17T10:38:24","slug":"stori-thomas","status":"publish","type":"page","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/stori-thomas\/","title":{"rendered":"Stori Thomas"},"content":{"rendered":"

\u201cDydw i byth yn mynd i anghofio\u2019r prosiect a beth mae wedi ei wneud i mi.\u201d\"\"<\/strong><\/em><\/p>\n

Cefndir<\/strong><\/p>\n

Cafodd Thomas ei fagu yn Hull yn Nwyrain Sir Efrog. Mae\u2019n cofio ei fagwraeth fel un deuluol hapus, roedd yn aelod o\u2019r Boys Brigade lleol ac, yn ystod ei arddegau, roedd eisiau astudio i fod yn bensaer. Er gwaethaf ei fywyd braf gartref, mae Tom yn nodi bod y ffaith bod ganddo\u2019r cyflwr niwrowahanol wedi gwneud ei brofiad yn yr ysgol yn anodd. Mae Tom yn cofio teimlo nad oedd yn cael cefnogaeth yn yr ysgol, a oedd yn golygu ei fod yn cael trafferth gwneud ffrindiau a rhyngweithio \u00e2\u2019i gr\u0175p o gyfoedion, gan nodi \u201cDydw i erioed wedi bod mor annibynnol \u00e2 phlant eraill fy oedran i mewn gwirionedd\u201d.<\/p>\n

Cymerodd Tom ran yn y prosiect \u2018Youth in Nature\u2019 a ariannwyd gan Our Bright Future dan arweiniad Ymddiriedolaeth Natur Sir Efrog a\u2019r sefydliad ieuenctid Child Dynamix. Ochr yn ochr \u00e2 phobl ifanc eraill, roedd Tom yn gallu cymryd rhan mewn sesiynau ymarferol wyneb yn wyneb, gan gynnwys trin rhandir cymunedol, plannu blodau gwyllt, ymgysylltu \u00e2\u2019r cyhoedd a chymryd rhan mewn digwyddiadau glanhau traeth. Nododd Tom fod y prosiect wedi cefnogi ei ddatblygiad wrth baratoi ar gyfer byd gwaith a\u2019r byd ehangach, gan gofio am ei gyfnod ar y prosiect fel amser a roddodd \u201cgyfle iddo gymdeithasu \u00e2 phobl eraill yr un oed \u00e2 fi ac yr oeddwn yn cyd-dynnu\u2019n dda \u00e2 nhw.\u201d Roedd y rhyngweithio hwn \u00e2 gwahanol bobl, ei gyfoedion a chydgysylltwyr y prosiect, yn hwb enfawr i\u2019w hyder a\u2019i sgiliau rhyngbersonol mewn amrywiaeth o amgylcheddau gwahanol. Yn benodol, mae\u2019n cofio mynd i un o gynadleddau Our Bright Future, gan nodi ei fod yn \u201cwahanol i bethau [roedd ef] wedi\u2019u gwneud o\u2019r blaen oherwydd ei fod yn amgylchedd proffesiynol iawn. Ond roedd hynny\u2019n bendant yn ddiddorol ac oherwydd faint o bobl oedd yno fe roddodd hwb mawr i fy hyder\u201d. Yn y pen draw, arweiniodd yr hyder newydd yma at Tom yn dod yn rhan o Gr\u0175p Llywio\u2019r prosiect ochr yn ochr \u00e2 phobl ifanc eraill o bob rhan o is-grwpiau prosiectau.<\/p>\n

\u201cFe roddodd hwb mawr i fy hyder i achos fe wnes i gwrdd \u00e2 llawer o bobl newydd.\u201d<\/strong><\/em><\/p>\n

Beth wnaeth Tom wedyn<\/strong><\/p>\n

Roedd siwrnai Tom gyda\u2019r prosiect yn drawsnewidiol \u2013 fe ddechreuodd y prosiect fel rhywbeth ychwanegol i lenwi ei amser, ond gadawodd y prosiect wedi gwireddu\u2019r angerdd a\u2019r cymhelliant oedd ganddo dros y byd naturiol: \u201cpan ddechreuais i doeddwn i ddim wedi ystyried dyfodol ym maes yr amgylchedd a dim ond ar \u00f4l gwneud y cwrs Youth in Nature wnes i ddechrau ystyried hynny \u201c. Yn sgil yr angerdd yma, yn ogystal \u00e2 magu mwy o hyder, ei sgiliau a\u2019i hapusrwydd, fe benderfynodd Tom wneud cais i\u2019r coleg i ddilyn y diddordeb yr oedd wedi\u2019i ddatblygu ym myd natur a\u2019r amgylchedd gyda chwrs rheoli cefn gwlad.<\/p>\n

Mae Tom wedi parhau i hyrwyddo\u2019r amgylchedd mewn grwpiau a chymunedau eraill y mae wedi dod yn rhan ohonynt, gan gynnwys trafod newid hinsawdd ac effaith llygredd d\u0175r ar ei ddinas mewn grwpiau ieuenctid eraill ar draws Hull. Mae\u2019n parhau i ymgymryd \u00e2 chyfleoedd i ddatblygu ei hyder, gan nodi \u201cFe fyddwn i wrth fy modd yn gallu gwneud rhyw newid ystyrlon, go iawn\u2026 rhywbeth sy\u2019n ysbrydoli pobl eraill.\u201d<\/p>\n

\u201cRoeddwn i wedi penderfynu mynd i\u2019r coleg a dilyn y diddordeb yma ym myd natur go iawn. A dyna beth sydd wedi fy arwain i at lle rydw i nawr.\u201d<\/strong><\/em><\/p>\n

Yr Amgylchedd<\/strong><\/p>\n

Mae Tom yn s\u00f4n am ei amser gyda Youth in Nature fel yr hyn wnaeth ganiat\u00e1u iddo ddeall yr amgylchedd a materion gwahanol o\u2019i gwmpas yn iawn. Fe roddodd y prosiect gyfle iddo archwilio ei berthynas \u00e2 byd natur a sylweddoli\u2019r arwyddoc\u00e2d yr oedd am iddo ei gael yn ei fywyd a\u2019i yrfa ei hun. Mae Tom wedi datblygu diddordebau penodol o fewn y sector gwyrdd, fel angerdd dros gynefinoedd anifeiliaid a choetiroedd yn arbennig. Ar \u00f4l cwblhau ei gwrs coleg yn llwyddiannus, fe ddechreuodd Tom astudio ar gyfer ei Radd Sylfaen mewn Rheoli Bywyd Gwyllt a Chadwraeth yn ddiweddar. Mae\u2019n edrych ymlaen at y dyfodol ac yn gobeithio gweld ei hun yn gweithio yn y sector amgylcheddol lleol, gan rannu \u201cRydw i wir eisiau gweithio i Ymddiriedolaeth Natur Sir Efrog neu\u2019r RSPB neu rywle felly.\u201d<\/p>\n

Mae Tom bellach yn teimlo bod ganddo\u2019r grym i adeiladu dyfodol lle gall rannu ei wybodaeth a\u2019i angerdd am yr amgylchedd mewn ffordd a allai ysbrydoli pobl eraill, \u201cnaill ai drwy weithio\u2019n uniongyrchol gyda rhywogaethau neu efallai drwy addysgu grwpiau ysgol ac ati\u201d.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"

\u201cDydw i byth yn mynd i anghofio\u2019r prosiect a beth mae wedi ei wneud i mi.\u201d Cefndir Cafodd Thomas ei fagu yn Hull yn Nwyrain Sir Efrog. Mae\u2019n cofio ei fagwraeth fel un deuluol hapus, roedd yn aelod o\u2019r Boys Brigade lleol ac, yn ystod ei arddegau, roedd eisiau astudio i fod yn bensaer. Er […]<\/p>\n","protected":false},"author":65,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":[],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/10610"}],"collection":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/65"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10610"}],"version-history":[{"count":1,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/10610\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10611,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/10610\/revisions\/10611"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10610"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}