{"id":204,"date":"2016-01-12T12:05:59","date_gmt":"2016-01-12T12:05:59","guid":{"rendered":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/?page_id=204"},"modified":"2022-12-15T02:57:53","modified_gmt":"2022-12-15T02:57:53","slug":"amdanom-ni","status":"publish","type":"page","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/amdanom-ni\/","title":{"rendered":"Amdanom ni"},"content":{"rendered":"

[vc_row][vc_column][vc_column_text]<\/p>\n

Mae Our Bright Future wedi grymuso pobl ifanc i fod yn ddinasyddion medrus a chyfranogol.<\/h6>\n
Buom yn gweithio gyda phobl ifanc dalentog o gefndiroedd amrywiol. Roedd rhai yn dod o gymunedau ar y cyrion, roedd gan rai anabledd ac roedd rhai mewn perygl o fod yn ddigartref. Roedd gan yr holl bobl ifanc a gymerodd ran yn Our Bright Future un peth yn gyffredin: eu parodrwydd i dorchi eu llewys a gwella eu bywyd eu hunain a hefyd creu newid cadarnhaol i\u2019r amgylchedd.<\/h6>\n
Nid yn unig y cafodd bywydau ifanc eu gwella ond daeth cymunedau lleol yn fwy cydlynol a bywiog. Yn ogystal, daeth amgylcheddau lleol yn gyfoethocach o ran bywyd gwyllt ac yn wytnach.<\/h6>\n
Yn ogystal, daeth y 31 o brosiectau at ei gilydd wyneb yn wyneb neu ar-lein, i ddysgu oddi wrth ei gilydd a rhannu arfer gorau. Fe wnaeth y model unigryw yma o Rannu Dysgu Gwella helpu i gryfhau pob prosiect ac arwain at effaith fwy ledled y DU. Gallwch gael gwybod mwy am yr ethos gweithio mewn partneriaeth yma yn ein canllaw arfer da Tyfu Gyda\u2019n Gilydd.<\/u><\/a><\/h6>\n
Casglwyd tystiolaeth gadarn gennym ni am y ffordd rydyn ni\u2019n cefnogi datblygiad ein hamgylchedd a phobl ifanc. Nod ein hadroddiadau gwerthuso<\/u><\/a> yw rhannu\u2019r hyn a ddysgwyd ar gyfer llunwyr polis\u00efau a sefydliadau sy\u2019n cyflwyno prosiectau ar gyfer pobl ifanc a\u2019r amgylchedd. Fe wnaethom hefyd greu llawer iawn o adnoddau a chanllawiau arfer da \u2013 sydd ar gael yma<\/u><\/a> i gyd.<\/h6>\n
Mae Our Bright Future yn dod \u00e2\u2019r sectorau ieuenctid a\u2019r amgylchedd at ei gilydd ar draws y Deyrnas Unedig. Fe wnaethom ddatblygu perthnasoedd rhwng sefydliadau a dangos sut mae cyflawni gweithio traws-sector.<\/h6>\n
\u201cY pwynt gwerthu unigryw mwyaf arbennig ar gyfer y rhaglen yma yw\u2019r cysylltiad rhwng sector yr amgylchedd a\u2019r sector ieuenctid. Mae’r meysydd hyn [wedi bod] yn dod at ei gilydd i gyflwyno prosiect mewn llawer o wahanol ffyrdd. [Rydw i\u2019n] meddwl bod hynny\u2019n rhywbeth y dylen ni bob amser geisio ei gadw gyda\u2019i gilydd, y rhwydwaith rydyn ni wedi\u2019i greu rhwng y ddau. Mae gan y sector ieuenctid brinder adnoddau felly os gall y ddau faes gydweithio, fe fyddai hynny o fudd.\u201d <\/em>Rhanddeiliad mewnol<\/h6>\n

 <\/p>\n

\n
Hyd yma, mae\u2019r rhaglen wedi denu mwy na 128,495<\/strong>\u00a0o bobl ifanc.<\/h6>\n
Mae pobl ifanc wedi ennill mwy na 8,674\u00a0o gymwysterau<\/strong> fel e.e. OCN, NVQ, John Muir, Dyfarniad DofE, AQA.<\/h6>\n
Mae mwy na 1,627<\/strong>\u00a0o bobl ifanc wedi cael interniaethau, profiad gwaith, lleoliadau gwaith neu brentisiaethau.<\/h6>\n
Mae bron i 203<\/strong>\u00a0o bobl ifanc wedi dechrau ar brosiectau entrepreneuraidd fel rhan o\u2019r rhaglen.<\/h6>\n
Mae mwy na 3,400 <\/strong>o lefydd wedi cael eu creu neu eu gwella, fel parciau, perllannau cymunedol a gwarchodfeydd natur.<\/h6>\n<\/blockquote>\n
<\/h6>\n

[\/vc_column_text][\/vc_column][\/vc_row][vc_row][vc_column][vc_video link=”https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=ftpyVcspqMk”][\/vc_column][\/vc_row][vc_row][vc_column width=”1\/3″]