{"id":10016,"date":"2022-05-12T22:35:38","date_gmt":"2022-05-12T21:35:38","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ourbrightfuture.co.uk\/2022\/05\/12\/outdoor-classroom-day\/"},"modified":"2022-09-27T16:09:20","modified_gmt":"2022-09-27T15:09:20","slug":"outdoor-classroom-day","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/2022\/05\/12\/outdoor-classroom-day\/","title":{"rendered":"Diwrnod Dosbarth Awyr"},"content":{"rendered":"

[vc_row][vc_column][vc_column_text]\"\"<\/p>\n

Ar y Diwrnod Dosbarth Awyr Agored eleni, ddydd Iau 19 Mai, bydd athrawon a phlant ledled y byd yn dilyn gwersi yn yr awyr agored. Mae\u2019n gyfle gwych i lawer edrych ar ddysgu yn yr awyr agored o\u2019r newydd, a sut gellir ymgorffori byd natur mewn dosbarthiadau ar gyfer unrhyw bwnc. Mae pobl ifanc Our Bright Future eisiau i hyn fod yn rhan o addysg bob dydd!<\/p>\n

 <\/p>\n

Ond oeddech chi\u2019n gwybod bod llawer o fyfyrwyr yn y DU yn treulio\u00a0llai o amser yn yr awyr agored na charcharorion mewn carchardai diogelwch eithaf?<\/strong><\/p>\n

 <\/p>\n

Mae’r dystiolaeth yn helaeth. Dangoswyd bod mynd allan a dysgu am fyd natur yn lleihau gorbryder, iselder, straen a phroblemau ymddygiad, gyda 90% o ddisgyblion yn dweud eu bod yn teimlo\u2019n hapusach ac yn iachach[1]<\/a>. Hefyd mae astudiaethau wedi dangos y gall cynyddu’r amser a dreulir yn yr awyr agored leihau achosion o glefydau heintus fel annwyd hyd at 80%[2]<\/a>. Gyda\u2019r tarfu mae Covid wedi\u2019i achosi i addysg plant yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae\u2019r achos dros ymgorffori dysgu yn yr awyr agored ym mhob rhan o\u2019r system addysg yn sicr yn gryfach nag erioed.<\/p>\n

 <\/p>\n

Ac wrth gwrs, nid dim ond y ffeithiau a’r ystadegau sy\u2019n bwysig! Mae pobl ifanc eisiau<\/em> mwy o gyfleoedd i fynd \u00e2 dosbarthiadau y tu allan, ac i ddysgu mwy am yr amgylchedd. Gyda\u2019n gilydd, rydym eisiau dangos bod galw am ddysgu seiliedig ar natur, nid yn unig gan bobl ifanc, ond gan addysgwyr, rhieni, gweithwyr ieuenctid\u2026 unrhyw un a phawb!<\/p>\n

 <\/p>\n

Does dim angen i hyn olygu cerdded i warchodfa natur bob dydd; gellir cyflwyno dysgu yn yr awyr agored drwy weithgareddau bach ar dir yr ysgol, hyd yn oed os nad oes gennych chi lawer iawn o le neu fynediad uniongyrchol i fyd natur. Yn union fel y bydd llawer o ysgolion yn ei wneud ar y Diwrnod Dosbarth Awyr Agored eleni!<\/p>\n

\"\"A pheidiwch ag anghofio am y manteision i natur hefyd. Yn ogystal \u00e2\u2019r gwelliannau mwy uniongyrchol y gall gweithgareddau dysgu awyr agored eu cyflwyno i fyd natur ar dir yr ysgol, drwy sicrhau bod plant heddiw\u2019n cael y cyfle i ymgysylltu \u00e2 byd natur, gan feithrin eu hoffter a\u2019u hymdeimlad o gyfrifoldeb dros yr amgylchedd, bydd cadwraethwyr yfory yn dod o hyd i\u2019w galwedigaeth.<\/p>\n

 <\/p>\n

Os ydych chi\u2019n mynd allan ar y Diwrnod Dosbarth Awyr Agored eleni, rhowch wybod i ni<\/a> pa weithgareddau ydych chi wedi\u2019u cynllunio! Ac os ydych chi\u2019n chwilio am syniadau, edrychwch ar y gyfres yma o fideos<\/a> gan eiriolwyr ifanc yn Ulster Wildlife.<\/p>\n

 <\/p>\n

[1]<\/a> Natural England, Natural Connections Demonstration Project, 2012-2016: Final Report, 2016<\/p>\n

[2]<\/a> Prisk, Cath a Dr Harry Cusworth, Muddy Hands, 2019[\/vc_column_text][\/vc_column][\/vc_row]<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"

[vc_row][vc_column][vc_column_text] Ar y Diwrnod Dosbarth Awyr Agored eleni, ddydd Iau 19 Mai, bydd athrawon a phlant ledled y byd yn dilyn gwersi yn yr awyr agored. Mae\u2019n gyfle gwych i lawer edrych ar ddysgu yn yr awyr agored o\u2019r newydd, a sut gellir ymgorffori byd natur mewn dosbarthiadau ar gyfer unrhyw bwnc. Mae pobl ifanc […]<\/p>\n","protected":false},"author":65,"featured_media":10011,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[44],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10016"}],"collection":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/65"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10016"}],"version-history":[{"count":3,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10016\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10181,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10016\/revisions\/10181"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/10011"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10016"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10016"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10016"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}