{"id":10597,"date":"2023-01-04T16:37:03","date_gmt":"2023-01-04T16:37:03","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ourbrightfuture.co.uk\/?p=10597"},"modified":"2023-01-04T16:37:20","modified_gmt":"2023-01-04T16:37:20","slug":"stori-gemma","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/2023\/01\/04\/stori-gemma\/","title":{"rendered":"Stori Gemma"},"content":{"rendered":"

[vc_row][vc_column width=”2\/3″][vc_column_text]Gemma ydw i, 18 oed, ac rydw i wedi fy lleoli yng Ngogledd Sir Efrog. Rydw i’n gwneud seicoleg yn y brifysgol, a fy hoff gyfres i ar Netflix ydi\u2019r Big Bang Theory. Rydw i ar hyn o bryd yn mwynhau bywyd prifysgol ac yn ddiweddar rydw i wedi dod yn aelod o Fwrdd Cynghori Ieuenctid Bright Green Future<\/a>; mae hwn yn gr\u0175p o gyn-aelodau sy’n helpu i siapio profiad BGF.<\/p>\n

Wrth sgrolio drwy Instagram, fe welais i hysbyseb ar gyfer Bright Green Future, a oedd yn un o 31 o is-brosiectau Our Bright Future. Roedd yr algorithm ar Instagram yn iawn; roedd hon yn rhaglen berffaith; ar \u00f4l darllen yr wybodaeth ar eu gwefan nhw, roeddwn i wedi cael fy narbwyllo ac fe wnes i ddechrau gweithio ar fy nghais. Fe gefais i fy nerbyn ar y rhaglen ganol mis Medi 2020; ychydig wyddwn i bod hwn yn ddechrau ar siwrnai.<\/p>\n

Fy hoff rannau i o Bright Green Future oedd creu fy mhrosiect lleol, oedd yn cynnwys creu adnoddau addysgol am yr amgylchedd a chyfarfodydd mentora gr\u0175p rhanbarthol. Fel aelodau o\u2019r Rhaglen Bright Green Future, fe gawsom ni gyfle i wneud cais i fod yn rhan o Fforwm Ieuenctid Our Bright Future; fe benderfynais i roi cynnig arni a dod yn aelod o\u2019r Fforwm Ieuenctid ym mis Rhagfyr 2020.[\/vc_column_text][\/vc_column][vc_column width=”1\/3″][vc_single_image image=”10464″ img_size=”full”][\/vc_column][\/vc_row][vc_row][vc_column][vc_column_text]Roedd y sesiynau cychwynnol gyda’r Fforwm Ieuenctid yn arbennig o ystyrlon. Roeddwn i’n dysgu ar-lein ym mis Ionawr 2021 oherwydd y cyfnod clo, ac roedden nhw\u2019n ddihangfa rhag y newyddion a gwaith ysgol. Yn ystod y misoedd dilynol, fe wnes i ddechrau cymryd rhan yn y sesiynau wythnosol gyda’r Fforwm Ieuenctid; roedd hwn yn ofod gwych i siarad \u00e2 mwy fyth o bobl debyg i mi, a chynyddu fy hyder.<\/p>\n

Roedd y gweithgareddau mor amrywiol; roeddwn i wrth fy modd yn cymryd rhan yn y gynhadledd dd\u0175r ar-lein gydag Asiantaeth yr Amgylchedd, gan dynnu sylw at bwysigrwydd rheoli d\u0175r a helpu i greu sesiynau ar gyfer aelodau newydd y Fforwm Ieuenctid. Fe wnaethom ni gael hyfforddiant arweinyddiaeth gydag Uprising; dyma’r tro cyntaf erioed i mi ystyried y syniad o arweinyddiaeth. Fe gefais i rywfaint o fentora hefyd, lle rhoddodd un o fy nghyd-aelodau yn y Fforwm Ieuenctid oedd yn hyfforddi i fod yn fentor awgrymiadau i mi ar gyfer ysgrifennu CV a llythyr yn cyd-fynd. Yn ddiweddarach yn ystod y mis hwnnw, fe gefais i fy swydd gyntaf un.<\/p>\n

Drwy Our Bright Future, fe enillais i Gymhwyster Lefel 2 mewn Egwyddorion Gwaith Ieuenctid, a oedd yn ddiddorol iawn. Fe agorodd y cymhwyster yma fy llygaid i i fath gwahanol o swydd; fe wnes i ddysgu am r\u00f4l hanfodol gweithwyr ieuenctid yn natblygiad pobl ifanc a\u2019r gymuned. Hefyd, fe gefais i\u2019r cyfle i gymryd rhan mewn Cyfarfod Bwrdd Crwn gyda Gweinidog Cabinet y DCMS i drafod Gwarant Gwaith Ieuenctid y DU a darpariaethau gwasanaethau ieuenctid. Yn y cyfarfod, fe deimlais i\u2019r p\u0175er y gall gr\u0175p o bobl ifanc wedi\u2019u grymuso ei gael drwy gael y cyfle i siarad \u00e2\u2019r rhai sy\u2019n gwneud penderfyniadau.<\/p>\n

Ar \u00f4l cymryd rhan yn y Bwrdd Crwn a gorffen y gwaith cwrs ar gyfer Lefel 2, fe gymerais i gam yn \u00f4l o’r Fforwm Ieuenctid i ganolbwyntio ar fy arholiadau Lefel A oedd ar y gorwel. Yn ystod haf 2022, fe gefais i e-bost am gymryd rhan mewn Gr\u0175p Ymgyrchu a fyddai\u2019n mynychu Cynadleddau\u2019r Pleidiau Gwleidyddol yn ddiweddarach yn ystod y flwyddyn honno. Ddwy flynedd ynghynt, \u2019fyddwn i ddim hyd yn oed wedi ystyried y syniad, ond nawr fe wnes i neidio ar y cyfle. Fe es i i Gynhadledd y Blaid Lafur ym mis Hydref 2022 a chael cyfle i helpu gyda sesiwn Holi ac Ateb gydag AS hyd yn oed.[\/vc_column_text][\/vc_column][\/vc_row][vc_row][vc_column width=”1\/4″][vc_single_image image=”10593″ img_size=”full”][\/vc_column][vc_column width=”3\/4″][vc_column_text]Mae\u2019n anodd disgrifio faint mae Our Bright Future wedi effeithio arnaf i gyda\u2019r cyfleoedd a\u2019r gefnogaeth y mae wedi\u2019u rhoi i mi. Roeddwn i bob amser yn gwybod fy mod i\u2019n angerddol am yr amgylchedd, ac fe wnaeth Our Bright Future fy meithrin i a fy helpu i dyfu’r angerdd hwnnw i fod yn rhywbeth mwy. Fe ddysgais i am b\u0175er eiriolaeth ieuenctid a llais ieuenctid, ac mae’n rhaid i chi ei brofi i\u2019w ddeall. Y teimlad grymus hwnnw bod cymaint o bobl ifanc eraill allan yna yn poeni am yr amgylchedd a materion cymdeithasol. Er ei bod yn drist bod rhaglen Our Bright Future yn dod i ben, rydw i\u2019n gobeithio y bydd ei gwaddol yn creu gofod ar gyfer rhaglenni newydd i gefnogi pobl ifanc a\u2019r amgylchedd.[\/vc_column_text][\/vc_column][\/vc_row]<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"

[vc_row][vc_column width=”2\/3″][vc_column_text]Gemma ydw i, 18 oed, ac rydw i wedi fy lleoli yng Ngogledd Sir Efrog. Rydw i’n gwneud seicoleg yn y brifysgol, a fy hoff gyfres i ar Netflix ydi\u2019r Big Bang Theory. Rydw i ar hyn o bryd yn mwynhau bywyd prifysgol ac yn ddiweddar rydw i wedi dod yn aelod o Fwrdd […]<\/p>\n","protected":false},"author":65,"featured_media":10465,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[44],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10597"}],"collection":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/65"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10597"}],"version-history":[{"count":4,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10597\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10601,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10597\/revisions\/10601"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/10465"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10597"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10597"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10597"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}