{"id":1192,"date":"2016-03-15T12:07:59","date_gmt":"2016-03-15T12:07:59","guid":{"rendered":"http:\/\/www.www.ourbrightfuture.co.uk\/cy\/?p=1192"},"modified":"2019-01-23T16:29:24","modified_gmt":"2019-01-23T16:29:24","slug":"buddsoddi-33-miliwn-yn-y-genhedlaeth-nesaf-o-arweinwyr-amgylcheddol","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/2016\/03\/15\/buddsoddi-33-miliwn-yn-y-genhedlaeth-nesaf-o-arweinwyr-amgylcheddol\/","title":{"rendered":"Buddsoddi \u00a333 miliwn yn y genhedlaeth nesaf o arweinwyr amgylcheddol"},"content":{"rendered":"

Dri mis wedi cytundeb newid hinsawdd Paris, mae mwy na 30 o sefydliadau\u2019n defnyddio \u00a333 miliwn o Gronfa\u2019r Loteri Fawr i helpu pobl ifanc i gamu i\u2019r adwy a chreu\u2019r hyn y mae ganddynt hawl iddo: planed iach, economi ffyniannus a dyfodol mwy disglair. Gyda mwy na 50,000 o bobl ifanc yn gynulleidfa i\u2019r rhaglen, mae Ein Dyfodol Disglair<\/em> yn creu\u2019r genhedlaeth nesaf o arweinwyr amgylcheddol.\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0 <\/strong><\/p>\n

Nod Ein Dyfodol Disglair<\/strong> yw mynd i\u2019r afael \u00e2 thair her fawr sy\u2019n wynebu cymdeithas heddiw – diffyg cydlyniant cymdeithasol, diffyg cyfleoedd i bobl ifanc a breguster yn wyneb newid hinsawdd. Mae tri deg un o brosiectau ieuenctid ledled y DU yn derbyn oddeutu \u00a31m yr un o arian y Loteri Genedlaethol i feithrin sgiliau a gwybodaeth pobl ifanc i wella eu hamgylcheddau lleol – o leihau llygredd yn y m\u00f4r i leihau gwastraff bwyd. Trwy wneud hynny, bydd pobl ifanc yn datblygu hyder a chadernid i fod yn arweinwyr amgylcheddol a dylanwadu ar benderfyniadau ar lefel leol a chenedlaethol. Mae\u2019r mudiad ifanc, uchelgeisiol a medrus hwn yn sicrhau bod llais y genhedlaeth hon yn cael ei glywed yn y trafodaethau presennol ar welliannau amgylcheddol ac economi sy\u2019n gwneud defnydd effeithlon o adnoddau.<\/p>\n

Mae un prosiect sy\u2019n cael ei weithredu gan Down To Earth yn mynd i\u2019r afael \u00e2 newid hinsawdd gyda\u2019r bobl a fydd yn cael eu heffeithio fwyaf ganddo: y bobl ifanc dlotaf ar y cyrion, gan gynnwys troseddwyr ifanc. Dros gyfnod o bum mlynedd, bydd y prosiect yn ne Cymru\u2019n cynnig cyfleoedd i o leiaf 1,100 o bobl ifanc eu datblygu eu hunain a\u2019u cymunedau lleol drwy adeiladu cynaliadwy. Bydd y bobl ifanc hyn yn derbyn hyfforddiant wedi\u2019i achredu ac yn elwa o fwy o hunanhyder a lles drwy gyfrwng gweithgareddau ymarferol ac uniongyrchol yn yr awyr agored. Hefyd, bydd pum adeilad cymunedol \u2018dim carbon\u2019 neu \u2018eco-adfer\u2019 yn cael eu creu gan ddefnyddio\u2019r dulliau adeiladu mwyaf cynaliadwy a lleol yn unig.<\/p>\n

Fel rhan o\u2019r prosiect Arfordir Gwyllt Cymru sy\u2019n cael ei gynnal gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, bydd mwy na 1,400 o bobl ifanc Cymraeg eu hiaith yn bennaf yng Ngogledd Cymru\u2019n dod i ddeall gwerth eu hamgylchedd arfordirol ac yn dysgu sgiliau galwedigaethol er mwyn cyfrannu at ei gadwraeth. Bydd y gweithgareddau\u2019n amrywio o adfer twyni a glanhau traethau i blannu coed a datblygu gerddi cymunedol. Bydd cyflwr amgylcheddol 30 o safleoedd penodol ar hyd arfordir Gogledd Cymru\u2019n cael ei wella, diolch i ymyriad y bobl ifanc.<\/p>\n

Ond mae Ein Dyfodol Disglair<\/strong> yn mynd ymhellach o lawer na\u2019r effeithiau trawiadol y mae\u2019r prosiectau unigol hyn wedi\u2019u gweld. Mae\u2019r rhaglen yn casglu tystiolaeth gadarn am sut gallwn ni gefnogi datblygiad yr amgylchedd a phobl ifanc drwy ddefnyddio economi \u2018werdd\u2019 gynaliadwy a gwneud defnydd effeithlon o adnoddau. Mae mwy na chant o sefydliadau\u2019n cyfrannu tuag at fudiad ehangach Ein Dyfodol Disglair <\/strong>drwy rannu tystiolaeth, gwybodaeth a dysg a fydd, yn fuan iawn, yn sail i\u2019r dewisiadau a wneir ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol yn y DU.<\/p>\n

Cyllidir Ein Dyfodol Disglair<\/strong> gan y Gronfa Loteri Fawr a\u2019i weithredu gan gonsortiwm o wyth sefydliad o dan arweiniad yr Ymddiriedolaethau Natur. Mae gan y bartneriaeth fwy na 40 mlynedd o brofiad ar y cyd o reoli rhaglenni grant cymdeithasol ac amgylcheddol, yn werth cyfanswm o bron i \u00a3300 miliwn, ac mae ganddi enw da am rymuso a gweithio gyda phobl ifanc mewn cymunedau gydag amgylchiadau cymdeithasol amrywiol.<\/p>\n

Dywedodd Stephanie Hilborne OBE, Prif Weithredwr yr Ymddiriedolaethau Natur: <\/strong><\/p>\n

\u201cMae Ein Dyfodol Disglair<\/strong> yn fudiad arloesol dros newid. Mae\u2019n wych bod y Gronfa Loteri Fawr wedi cydnabod bod heriau cymdeithasol ac amgylcheddol yn ddwy ochr i\u2019r un geiniog. Mae\u2019r rhaglen yn cefnogi pobl ifanc i ddatblygu\u2019r sgiliau sydd eu hangen i ffynnu yn y gweithle ac mae\u2019n gwneud hynny drwy gyfrwng yr amgylchedd. Rydyn ni eisiau gweld cenhedlaeth o arweinwyr dewr a doeth yn cael eu grymuso i newid ein byd er gwell.\u201d<\/em><\/p>\n

Dywedodd Peter Ainsworth, Cadeirydd y DU, y Gronfa Loteri Fawr:<\/strong><\/p>\n

\u201cYn yr amgylchedd rydyn ni\u2019n byw. Nod Ein Dyfodol Disglair<\/strong>\u00a0yw rhoi rhyddid i uchelgais pobl ifanc ledled y DU i wneud cyfraniad personol a chasgliadol at greu amgylchedd sy\u2019n lle brafiach, hapusach a chadarnach yn wyneb bygythiadau fel newid hinsawdd a gwastraffu cyfoeth naturiol.\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0 <\/em><\/p>\n

\u201cNod y fenter hon yn ystod y saith mlynedd nesaf yw uno\u2019r manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol a geir yn sgil galluogi pobl ifanc i ddylanwadu ar eu dyfodol eu hunain a dyfodol eraill a fydd yn eu dilyn nhw.\u201d<\/em><\/p>\n

Gyda mwy na 30 o brosiectau ledled y DU a sefydliadau fel St Mungo\u2019s, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Gweithredu dros Bobl Ddall, y Ganolfan ar gyfer Ynni Cynaliadwy, Cyfeillion y Ddaear ac UpRising yn cymryd rhan, mae\u2019r dyfodol yn un disglair iawn yn wir.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"

Dri mis wedi cytundeb newid hinsawdd Paris, mae mwy na 30 o sefydliadau\u2019n defnyddio \u00a333 miliwn o Gronfa\u2019r Loteri Fawr i helpu pobl ifanc i gamu i\u2019r adwy a chreu\u2019r hyn y mae ganddynt hawl iddo: planed iach, economi ffyniannus a dyfodol mwy disglair. Gyda mwy na 50,000 o bobl ifanc yn gynulleidfa i\u2019r rhaglen, […]<\/p>\n","protected":false},"author":15,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[44],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1192"}],"collection":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/15"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1192"}],"version-history":[{"count":1,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1192\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1193,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1192\/revisions\/1193"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1192"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1192"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1192"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}