{"id":1585,"date":"2016-08-25T10:25:21","date_gmt":"2016-08-25T09:25:21","guid":{"rendered":"http:\/\/www.www.ourbrightfuture.co.uk\/cy\/2016\/08\/25\/in-the-beginning-there-was-a-dead-cat-shark\/"},"modified":"2019-01-07T14:54:29","modified_gmt":"2019-01-07T14:54:29","slug":"in-the-beginning-there-was-a-dead-cat-shark","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/2016\/08\/25\/in-the-beginning-there-was-a-dead-cat-shark\/","title":{"rendered":"In the beginning, there was a dead cat shark"},"content":{"rendered":"
\"\"A dyna ble rydw i nawr, yn gweithio ar un o brosiectau Ein Dyfodol Disglair o\u2019r enw Arfordiroedd Gwyllt Cymru, yn gweithio gyda phobl ifanc ledled Gogledd Cymru i warchod eu hardaloedd lleol. Rydw i\u2019n gwybod bod y gair cadwraeth yn gallu codi ofn arnoch chi ond peidiwch \u00e2 dychryn! Mae caiacio, snorcelu, arfordiro ac amser yn yr awyr agored i gyd ar fwydlen Arfordiroedd Gwyllt Cymru. Pa well ffordd sydd o ddarganfod y llecyn rydych chi wedi byw ynddo gydol eich oes efallai na bod at eich fferau yn ei ganol?<\/h6>\n
Rydw i wedi bod yn hoff o fyd natur ers cyn cof. Pan oeddwn i\u2019n bump oed, cefais fynd i lan y m\u00f4r Llandudno ac fe ddois i o hyd i forgi marw wedi\u2019i olchi ar y lan. Yn anffodus, doedd o heb oroesi ond roeddwn i\u2019n rhyfeddu at y creadur. O ble roedd o wedi dod? Sut roedd yn bwyta\u2019i fwyd? Oedd o\u2019n ymosod ar bobl? Does bosib bod siarcod ym moroedd Gogledd Cymru? Roedd rhaid i mi gael gwybod mwy.<\/h6>\n
O hynny ymlaen, roeddwn i\u2019n gwybod mai bywyd gwyllt a chadwraeth fyddai fy ngyrfa i ac, yn y diwedd, fe es i ymlaen i wneud gradd mewn bioleg y m\u00f4r a s\u0175oleg. Tair blynedd gorau fy mywyd i, yng nghwmni pobl yr un mor frwdfrydig \u00e2 fi am fyd natur. Cwestiwn cyffredin yn ddyddiol fyddai rhywbeth fel \u2018Tybed ydi Gwichiaid yn dychryn pan mae Cregyn Moch Mwyaf yn dechrau ymosod?\u2019<\/h6>\n
Wrth i fywyd fynd yn ei flaen a minnau\u2019n gweithio at fy ngradd, a\u2019r byd go iawn yn gwmwl ar y gorwel, fe wnes i hefyd ddarganfod angerdd dros waith ieuenctid a chydraddoldeb. Flynyddoedd ynghynt, roeddwn i\u2019n aelod brwd o gyngor ieuenctid fy ysgol a chefais fy ethol yn y diwedd i fod yn gynrychiolydd sirol a chynrychiolydd cenedlaethol ar gyfer pobl ifanc ledled Cymru. Roedd hon yn siwrnai ffantastig a chefais gymryd rhan yn genedlaethol a chyfarfod pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol cwbl anhygoel. Rhoddodd hyder i mi hefyd i ymgeisio i fod yn brif fachgen yn yr ysgol uwchradd – ymgyrch y gwnes i ei hennill!<\/h6>\n
Wrth i drydedd flwyddyn fy ngradd nes\u00e1u, ac wrth i\u2019m gyrfa mewn gwaith ieuenctid ddechrau ennill momentwm, roeddwn i\u2019n wynebu penderfyniad mawr. Dilyn gyrfa mewn bioleg y m\u00f4r neu waith ieuenctid? Oherwydd hinsawdd economaidd Gogledd Cymru, fe ddewisais i waith ieuenctid a chael swydd yn syth ar \u00f4l gadael y brifysgol yn gweithio gyda phobl ifanc o dan y Ddeddf Cydraddoldeb (2010). Dyma brofiad anhygoel a chyfle i newid bywydau pobl ifanc ledled Gogledd Cymru – teimlad anodd iawn ei ddisgrifio.<\/h6>\n
Er hynny, roedd bioleg y m\u00f4r yn dal ar fy meddwl i a daeth cyfle am swydd gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ar gylchlythyr ar e-bost. Cyfle i gyfuno gwaith ieuenctid a byd natur?! Roedd y swydd yn berffaith ac roedd rhaid i mi fynd amdani. A dyma fi nawr yn gwneud yn union beth roeddwn i wedi breuddwydio amdano.<\/h6>\n
Os ewch chi ati o ddifrif i wneud rhywbeth, does dim cyfyngiad ar beth allwch chi ei gyflawni, a dyna ydi nod Arfordiroedd Gwyllt Cymru. Rydyn ni yma i hwyluso eich potensial chi fel pobl ifanc i greu newid a chodi allan i\u2019r awyr agored a dysgu sut dylai cadwraeth gael ei wneud \u2013 gyda llawer o antur a phrofiadau gwyllt ar hyd y daith. Rydw i wedi dechrau ar fy siwrnai eisoes ac rydw i\u2019n gobeithio y byddwch chi\u2019n mentro hefyd, ac yn rhoi cychwyn ar eich dyfodol disglair.<\/h6>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"

A dyna ble rydw i nawr, yn gweithio ar un o brosiectau Ein Dyfodol Disglair o\u2019r enw Arfordiroedd Gwyllt Cymru, yn gweithio gyda phobl ifanc ledled Gogledd Cymru i warchod eu hardaloedd lleol. Rydw i\u2019n gwybod bod y gair cadwraeth yn gallu codi ofn arnoch chi ond peidiwch \u00e2 dychryn! Mae caiacio, snorcelu, arfordiro ac […]<\/p>\n","protected":false},"author":15,"featured_media":4544,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[44],"tags":[54,78,307,306],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1585"}],"collection":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/15"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1585"}],"version-history":[{"count":6,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1585\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5467,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1585\/revisions\/5467"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4544"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1585"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1585"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1585"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}