{"id":1822,"date":"2016-10-26T16:18:01","date_gmt":"2016-10-26T15:18:01","guid":{"rendered":"http:\/\/www.www.ourbrightfuture.co.uk\/cy\/2016\/10\/26\/life-better-than-all-the-textbooks-combined\/"},"modified":"2019-01-07T14:45:19","modified_gmt":"2019-01-07T14:45:19","slug":"life-better-than-all-the-textbooks-combined","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/2016\/10\/26\/life-better-than-all-the-textbooks-combined\/","title":{"rendered":"Bywyd: gwell na\u2019r holl werslyfrau yn y byd"},"content":{"rendered":"
\"\"<\/strong><\/h6>\n
Blog gwadd gan Swyddog Cefnogi Cyfathrebu\u2019r Ymddiriedolaethau Natur, Beth Rowland<\/h6>\n
Fe ddywedodd Mark Twain, \u201cI have never let my schooling interfere with my education\u201d. Mae hynny\u2019n ddryslyd dydi? Efallai bod rhai pobl yn meddwl mai ystyr addysg ydi ysgol neu brifysgol, ond mae\u2019r Collins English Dictionary yn diffinio addysg fel \u201cthe act or process of acquiring knowledge\u201d \u2013 does dim s\u00f4n am ystafelloedd dosbarth, gwerslyfrau nac arholiadau.<\/h6>\n
Rydw i wrth fy modd gyda byd natur a bywyd gwyllt ac fe fyddwn i\u2019n hoffi pe bai mwy o bobl ifanc yn cael mwynhau ein cefn gwlad hardd ni er mwyn iddyn nhw ei hoffi hefyd. Yn rhy aml, mae pobl ifanc yn eu harddegau\u2019n cael eu labelu fel pobl ddiog a difater, ond rydw i\u2019n gwybod nad ydi hynny\u2019n wir. Y realiti ydi mai ychydig iawn o bobl ifanc yn 2016 sy\u2019n cael cyfle i syrthio mewn cariad \u00e2\u2019u hamgylchedd, am nad ydi\u2019r math o angerdd sy\u2019n arwain at weithredu\u2019n cael ei ddysgu fel rhan o\u2019r cwricwlwm traddodiadol.<\/h6>\n
Mae Prince Ea, gwneuthurwr ffilmiau, bardd a siaradwr ysbrydoledig, wedi gwneud ffilm yn ddiweddar<\/a><\/u>\u00a0ac ynddi roedd yn erlyn y system ysgolion, gan ei chyhuddo o ladd creadigrwydd a pharatoi pobl ifanc ar gyfer y gorffennol \u2013 nid y dyfodol. Mae\u2019n neges bwerus sydd wedi fy herio i i feddwl o\u2019r newydd am bwysigrwydd fy ngraddau yn yr ysgol a\u2019m gradd yn y brifysgol.<\/h6>\n
Rydw i wedi astudio\u2019r Tuduriaid, yr elfennau cemegol ac amser amodol y ferf mewn Ffrangeg (a dydw i dal ddim yn ei ddeall!), ond codi allan i ganol byd natur sy\u2019n mynd \u00e2 fy mryd i. Rydw i\u2019n ei chael yn llawer haws cofio enwau rhywogaethau o l\u00f6ynnod byw na dyfyniadau o nofelau, a\u2019r rheswm am hynny ydi am fod dysgu go iawn yn deillio o ddiddordeb, gwerthfawrogiad a rhyfeddod, nid o eistedd mewn llinell syth daclus ac adrodd darnau allan o werslyfr.<\/h6>\n
Dydi dysgu mewn ystafell ddosbarth ddim yn gweddu i bob person ifanc ac mae\u2019n bwysig bod addysg yn cynnwys dysgu am beth rydych chi\u2019n ei hoffi, darganfod hob\u00efau a datblygu sgiliau personol fel hyder, hunan-barch, angerdd ac uchelgais.<\/h6>\n
Dyma lle mae Our Bright Future yn bwysig. Mae\u2019n gweithio i hyrwyddo pobl ifanc a rhoi addysg iddyn nhw sy\u2019n mynd ymhellach na gwerslyfr: mae\u2019n brofiad o fywyd go iawn. Mae\u2019r prosiectau sy\u2019n cael eu cynnal gan Our Bright Future yn meithrin yn eu cyfranogwyr wybodaeth, sgiliau arweinyddiaeth, rhwydweithiau a chysylltiadau, gan felly greu cyfleoedd nad ydi\u2019r bobl ifanc yma wedi\u2019u cael.<\/h6>\n
Fel person ifanc fy hun, rydw i\u2019n falch ac yn cael fy nghalonogi gan y gwaith sydd wedi\u2019i wneud gan Our Bright Future, oherwydd mae\u2019n rhoi gobaith am y dyfodol i mi. Gyda\u2019i gilydd, mae\u2019r genhedlaeth nesaf yn gwella ansawdd ein hamgylcheddau adeiledig a naturiol ni, heb ystyried ein graddau yn yr ysgol neu a wnaethon ni lwyddo mewn algebra ai peidio.<\/h6>\n
Heb fod ymhell iawn yn \u00f4l, fe fyddwn i wedi dychryn pe bai rhywun wedi dweud wrtha\u2019 i nad oedd fy ngraddau i\u2019n hanfodol ar gyfer fy llwyddiant yn y dyfodol; ac wrth gwrs maen nhw\u2019n bwysig ac mae\u2019r ysgol yn dysgu llawer o bethau gwych i chi. Ond os nad ydych chi wedi dod o hyd i rywbeth sy\u2019n eich ysbrydoli chi ac yn eich cymell chi yn yr ystafell ddosbarth, edrychwch y tu allan i\u2019r waliau ac i\u2019r amgylchedd. Doedd rhai o bobl enwocaf y byd ddim ar frig y dosbarth. Fe fethodd Albert Einstein arholiad mynediad Sefydliad Technoleg Ffederal nodedig y Swistir ar ei ymgais gyntaf. Fe gafodd y biliwnydd Richard Branson amser anodd iawn yn yr ysgol oherwydd ei dyslecsia, a methodd y Dywysoges Diana bob un o\u2019i harholiadau Lefel O \u2013 sy\u2019n cyfateb i TGAU heddiw.<\/h6>\n
Yn aml, angerdd, penderfyniad a dyfalbarhad sydd bwysicaf i alluogi llwyddiant. Mae Our Bright Future yn darparu cefnogaeth a seilwaith i bobl ifanc sydd heb y sgiliau, y profiad neu\u2019r cysylltiadau priodol i newid y byd. Os ydych chi\u2019n mwynhau cadwraeth ymarferol, arweinyddiaeth, adeiladu neu ymgyrchu, gall Our Bright Future eich helpu chi i gymryd y cam cyntaf at ddylanwadu ar eich byd a\u2019i siapio. Mae\u2019n amser meddwl o\u2019r newydd am eich addysg a phenderfynu drosoch chi eich hun beth ydych chi eisiau ei ddysgu.<\/h6>\n
Gwyliwch ffilm Prince Ea yma \u2013 sut fedrwch chi beidio cael eich ysbrydoli?!<\/a><\/u><\/h6>\n
<\/h6>\n
\u00a0<\/strong><\/h6>\n
<\/h6>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"

Blog gwadd gan Swyddog Cefnogi Cyfathrebu\u2019r Ymddiriedolaethau Natur, Beth Rowland Fe ddywedodd Mark Twain, \u201cI have never let my schooling interfere with my education\u201d. Mae hynny\u2019n ddryslyd dydi? Efallai bod rhai pobl yn meddwl mai ystyr addysg ydi ysgol neu brifysgol, ond mae\u2019r Collins English Dictionary yn diffinio addysg fel \u201cthe act or process of […]<\/p>\n","protected":false},"author":11,"featured_media":5015,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[44],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1822"}],"collection":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/11"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1822"}],"version-history":[{"count":9,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1822\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5464,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1822\/revisions\/5464"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/5015"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1822"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1822"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1822"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}