{"id":1843,"date":"2016-11-18T10:11:33","date_gmt":"2016-11-18T10:11:33","guid":{"rendered":"http:\/\/www.www.ourbrightfuture.co.uk\/cy\/2016\/11\/18\/sniffing-out-pine-martin-poop-in-shropshire\/"},"modified":"2019-01-07T14:43:58","modified_gmt":"2019-01-07T14:43:58","slug":"sniffing-out-pine-marten-poop-in-shropshire","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/2016\/11\/18\/sniffing-out-pine-marten-poop-in-shropshire\/","title":{"rendered":"Chwilio am dail bele\u2019r coed yn Sir Amwythig"},"content":{"rendered":"
\"\"<\/span><\/strong><\/h6>\n
Mae Hannah Farley, Swyddog Prosiect gyda Growing Confidence<\/a><\/u>\u00a0yn Ymddiriedolaeth Natur\u00a0Sir Amwythig<\/a><\/u>, wedi bod yn gweithio gyda grwpiau amrywiol o bobl ifanc er mwyn cynnig cyfle iddyn nhw ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o fyd natur a\u2019r sector amgylcheddol.<\/h6>\n
Rydw i wedi bod yn gweithio\u2019n agos gydag un ysgol uwchradd er mwyn darparu cwricwlwm amgen i wyth o bobl ifanc sy\u2019n cael anhawster dal ati i gymryd rhan mewn ystafell ddosbarth draddodiadol. O ganlyniad i waith ymarferol yn yr awyr agored un prynhawn yr wythnos, mae\u2019r bobl ifanc yma\u2019n meithrin casgliad o sgiliau trosglwyddadwy, gwybodaeth am fywyd gwyllt, profiad o gadwraeth a sgiliau ymarferol. Ac nid dyna\u2019r cwbl \u2013 mae\u2019r gwaith rydyn ni\u2019n ei wneud yn cael effaith gadarnhaol iawn ar eu hyder a\u2019u hunan-barch hefyd.<\/h6>\n
Rydw i\u2019n cyflwyno\u2019r gr\u0175p i gymaint o wahanol arbenigwyr a gyrfaoedd cadwriaethol \u00e2 phosib er mwyn dangos yr holl gyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw yn y sector amgylcheddol. Er hynny, doeddwn i heb ragweld y byddai Labrador Du yn un o\u2019r arbenigwyr hynny.<\/h6>\n
Yn ddiweddar, ar \u00f4l chwilio\u2019n frwd am bum mlynedd, llwyddodd gweithiwr gydag Ymddiriedolaeth Natur Sir Amwythig, Stuart Edmunds, i ddarganfod y boblogaeth gyntaf i gael ei chadarnhau ers 100 mlynedd o Felaod y Coed yn Lloegr. Yn fyw ac yn iach yn ne eithaf Sir Amwythig, defnyddiodd Stuart, sydd wrth ei fodd gyda mamaliaid, wasanaethau Louise o\u00a0Conservation K9 Consultancy<\/a><\/u>\u00a0a\u2019i Labrador Du, Luna, i gael DNA gan y boblogaeth. Mae Luna wedi\u2019i hyfforddi i ganfod arogl tail (neu b\u0175 i chi a fi!) Bele\u2019r Coed. Roeddwn i\u2019n edrych ymlaen yn fawr at gyflwyno\u2019r math anarferol a chynyddol bwysig yma o yrfa cadwraeth i\u2019r gr\u0175p.<\/h6>\n
Cafwyd prynhawn gyda Stuart yn esbonio pwy oedd e a\u2019i r\u00f4l gydag Ymddiriedolaeth Natur Sir Amwythig. Dangosodd i\u2019r gr\u0175p y lluniau a gofnodwyd gyda chamera o garw ifanc a moch daear sydd wedi\u2019u canfod yn yr ardal leol a dechreuodd y cwestiynau lifo. Wedyn trosglwyddwyd y sesiwn i ofal Louise a ddechreuodd ar ei sgwrs drwy annog y gr\u0175p i arogli p\u0175 Bele\u2019r Coed \u2013 fel y gallwch chi ddychmygu, doedd hwn ddim yn gais poblogaidd iawn!!<\/h6>\n
Esboniodd Louise bod Belaod y Coed yn anifeiliaid swil iawn a bod sefydliadau cadwraeth yn gallu cael anhawster gwybod a ydyn nhw\u2019n bresennol mewn ardal ai peidio. Roedd Louise yn cael mwy a mwy o ymholiadau am hyfforddi un o\u2019i ch\u0175n i arogli eu tail a dyna pryd wnaeth hi ddechrau hyfforddi Luna. Nawr mae Luna yn hynod ddibynadwy a chafwyd arddangosfa wych gan y ddeuawd. Cuddiodd Louise dail bele\u2019r coed ac, o fewn munud, roedd Luna\u2019n gorwedd i lawr i ddangos ble\u2019r oedd y tail a\u2019i gwobr am hynny oedd p\u00eal.<\/h6>\n
Dim ond tail bele\u2019r coed mae Luna wedi\u2019i hyfforddi i dynnu sylw ato ond, wrth i ni fynd am dro o amgylch y warchodfa natur, fe welodd y gr\u0175p ei hymddygiad yn newid wrth arogli presenoldeb unrhyw anifail. Roedden ni\u2019n gwybod nad oedd Belaod y Coed yn yr ardal yma o\u2019r sir (wel, dyna beth rydyn ni\u2019n ei feddwl), ond fe ddaeth Luna o hyd i bentwr mawr o flew mochyn daear a daeth o hyd i bathew hefyd, wnaeth ddianc i fyny coeden gyll yn reit sydyn!<\/h6>\n
Wrth fynd am dro, esboniodd Louise sut roedd hi\u2019n hyfforddi Luna a\u2019i ch\u0175n eraill i arogli gwahanol arogleuon drwy ddefnyddio canmoliaeth ac ailadrodd ymddygiad, yn ogystal \u00e2 wal arogleuon. Dechreuodd drwy hyfforddi c\u0175n i arogli bomiau a chyffuriau ond wedyn sylweddolodd pa mor werthfawr y gallai\u2019r math yma o waith fod i\u2019r sector cadwraeth. Mae ceisiadau blaenorol rhai o\u2019i chleientiaid yn cynnwys canfod ifori yn Affrica, dirgelwch cathod mawr yn y DU, canfod cyrff marw ystlumod o amgylch ffermydd gwynt a chanfod diemwntau.<\/h6>\n
Ar \u00f4l mynd am dro, cyflwynodd Louise ni i weddill y t\u00eem. Roedd un o\u2019i ch\u0175n yn arbenigwr wedi ymddeol ar ganfod bomiau ac roedd wedi gwneud gwaith gwych dramor. Cafodd y gr\u0175p gyfarfod Henry y sbaniel hefyd, sef ci achub dan hyfforddiant Louise \u2013 roedd wedi cyffroi\u2019n l\u00e2n ac wrth ei fodd gyda\u2019r holl sylw gan y gr\u0175p. Cafwyd arddangosfa arbennig iawn ganddo, gan ddangos y bydd yntau hefyd yn arbenigwr yn fuan iawn!<\/h6>\n
O eiliad gyntaf y sesiwn, roedd y gr\u0175p wedi ymgolli ac roedd rhai o\u2019r bobl ifanc oedd wedi cael anhawster cymryd rhan yn flaenorol wir yn ffynnu. Roedden nhw\u2019n gofyn llawer o gwestiynau i Louise, yn adrodd straeon am eu c\u0175n nhw ac yn chwilio\u2019n frwd am arwyddion o fywyd gwyllt. Cafodd pawb ddiwrnod da iawn a byddaf yn sicr yn gofyn i Conservation K9 Consultancy ddod i gyfarfod mwy o fy ngrwpiau i yn y dyfodol.<\/h6>\n

 <\/p>\n

\u00a0<\/span><\/strong><\/h6>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"

Mae Hannah Farley, Swyddog Prosiect gyda Growing Confidence\u00a0yn Ymddiriedolaeth Natur\u00a0Sir Amwythig, wedi bod yn gweithio gyda grwpiau amrywiol o bobl ifanc er mwyn cynnig cyfle iddyn nhw ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o fyd natur a\u2019r sector amgylcheddol. Rydw i wedi bod yn gweithio\u2019n agos gydag un ysgol uwchradd er mwyn darparu cwricwlwm amgen i wyth o […]<\/p>\n","protected":false},"author":13,"featured_media":4551,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[44],"tags":[71,66,75,63],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1843"}],"collection":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/13"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1843"}],"version-history":[{"count":11,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1843\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5463,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1843\/revisions\/5463"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4551"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1843"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1843"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1843"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}