{"id":2099,"date":"2017-03-20T09:59:23","date_gmt":"2017-03-20T09:59:23","guid":{"rendered":"http:\/\/www.www.ourbrightfuture.co.uk\/cy\/?p=2099"},"modified":"2019-01-23T16:28:28","modified_gmt":"2019-01-23T16:28:28","slug":"yr-amgylchedd-nawr-pobl-ifanc-yn-defnyddio-technoleg-i-achub-ein-planed","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/2017\/03\/20\/yr-amgylchedd-nawr-pobl-ifanc-yn-defnyddio-technoleg-i-achub-ein-planed\/","title":{"rendered":"Yr Amgylchedd Nawr: pobl ifanc yn defnyddio technoleg i achub ein planed"},"content":{"rendered":"
\"\"Lily Freeston sy\u2019n rhannu cynnydd Yr Amgylchedd Nawr wrth i Heather Wildsmith a Lydia Allen gyflwyno digwyddiadau Thinkspiration ledled y wlad yr wythnos hon.<\/strong><\/h6>\n
Mae Yr Amgylchedd Nawr yn rhaglen gyffrous sy\u2019n cyllido ieuenctid 17 i 24 oed i ddod \u00e2\u2019u syniadau am effeithlonrwydd ynni, lleihau gwastraff ac ailgylchu yn fyw. Mae wedi\u2019i chyllido gan O2 a\u2019r Gronfa Loteri Fawr drwy gyfrwng y rhaglen Ein Dyfodol Disglair ac mae\u2019n cael ei rheoli gan yr Asiantaeth Ieuenctid Genedlaethol (NYA). Mae\u2019r ymgeiswyr llwyddiannus yn cael swm da o \u00a310,000 i ddatblygu eu syniad dros gyfnod o 10 mis, yn ogystal \u00e2 mentoriaeth o\u2019r safon uchaf, profiad gwaith a dyddiau gwybodaeth gyda gweithwyr proffesiynol y diwydiant. Ar y cyfan, mae\u2019n rhaglen c\u0175l iawn.<\/h6>\n
Cychwynnodd y rhaglen y llynedd. Ar \u00f4l lansio\u2019r her amgylcheddol gwerth \u00a310,000, aethom ar daith ledled y wlad, gan gyflwyno sesiynau Thinkspiration mewn prifysgolion, colegau a chlybiau ieuenctid, i ysbrydoli a chymell pobl ifanc i fod yn barod i gyflwyno eu ceisiadau. Roedd y sesiynau\u2019n gyfle i\u2019r cyfranogwyr rannu syniadau a bod yn ddigidol: roedd gennym sawl darn diweddar o gyfarpar technolegol ar gael, gan gynnwys Raspberry Pi, clustffonau VR, microbits a mwy.<\/h6>\n
Pan agorodd y ceisiadau ar 1 Tachwedd 2016, cafwyd llond gwlad o syniadau dyfeisgar o bob cwr o\u2019r DU. Dewiswyd y rhai \u00e2\u2019r potensial mwyaf gennym a\u2019u gwahodd i weithdy cyn cynnig. Yn y gweithdy buom yn eu helpu i baratoi ar gyfer eu diwrnod pwysicaf hyd yma: y diwrnod cynnig. Daeth y diwrnod hwnnw\u2019n fuan iawn a chyflwynodd pob prosiect ei syniad i d\u00eem Yr Amgylchedd Nawr a hefyd i gyflogeion O2 a\u2019r Asiantaeth Ieuenctid Genedlaethol. Dyfarnwyd cyllid i naw prosiect eithriadol!<\/h6>\n
Mae\u2019r siwrnai anhygoel hon yn dod \u00e2 ni at ddiwrnod lansio a gynhaliwyd yn hwb O2 yn yr ardal fwyaf c\u0175l yn Llundain, Shoreditch, ar 12 Mawrth. Y diwrnod lansio oedd y gorau o ddigon! Cafodd y naw ymgeisydd llwyddiannus a\u2019u timau gyfarfod, cymysgu a pharatoi ar gyfer y siwrnai ddeg mis gyffrous o\u2019u blaen. Sefydlwyd chwe gorsaf gennym ni, gyda phob un rhoi sylw i faes gwahanol, gan gynnwys cyllidebu, cyfathrebu a\u2019r pethau llai difyr ond yr un mor bwysig, fel manylion cyfreithiol ac adrodd yn \u00f4l ar y prosiectau. Cafodd popeth sylw a gadawodd yr arweinwyr prosiect newydd y diwrnod gyda\u2019r wybodaeth a\u2019r hyder yr oedd arnynt eu hangen i ddechrau arni.<\/h6>\n
Roedd yn gyfle rhagorol i glywed mwy fyth am eu syniadau. Buom yn sgwrsio \u00e2 Lettus Grow,<\/em> sef t\u00eem o beirianwyr sy\u2019n creu ffordd awtomatig, heb bridd, o arddio. Mae eu cynnyrch uber-c\u0175l yn galluogi i chi dyfu eich salad eich hun, drwy gydol y flwyddyn, yn eich cegin! Hefyd cawsom sgwrs ag Elliott Lancaster, sy\u2019n datblygu ap i drigolion cymunedol roi gwybod am broblemau ailgylchu, a Victoria Russell, sydd \u00e2 g\u00eam rithiol hwyliog i addysgu pobl am beth i beidio \u00e2\u2019i roi i lawr y toiled.<\/h6>\n
Roeddem wedi cael ein hysbrydoli\u2019n llwyr ac yn dyheu am weld y prosiectau\u2019n dwyn ffrwyth. Yn ystod y misoedd sydd i ddod byddwn yn teithio\u2019r wlad i ymweld ag arweinwyr y prosiectau ac i weld eu prosiectau ar waith. Byddant yn cymryd rhan mewn dyddiau gwybodaeth a hefyd yn cynnal eu sesiynau ysbrydoli eu hunain ar gyfer y genhedlaeth nesaf o ymgeiswyr Yr Amgylchedd Nawr. Yn olaf, pan fyddant yn cyrraedd pen eu siwrnai gyda ni, byddwn yn cynnal digwyddiadau dathlu ac yn arddangos eu holl waith caled!<\/h6>\n
Mae llawer o arbrofi, datblygu a gwneud i bethau ffitio yn ystod y deg mis nesaf, ond erbyn y diwedd bydd pob arweinydd prosiect a\u2019i d\u00eem wedi gwneud ein planed fymryn yn well, a gyda\u2019n gilydd, byddwn wedi gwneud byd o wahaniaeth.<\/h6>\n
I gael mwy o wybodaeth am raglen Yr Amgylchedd Nawr, neu i gymryd rhan, ewch draw i www.gothinkbig.co.uk\/features\/the-environment-now<\/a><\/h6>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"

Lily Freeston sy\u2019n rhannu cynnydd Yr Amgylchedd Nawr wrth i Heather Wildsmith a Lydia Allen gyflwyno digwyddiadau Thinkspiration ledled y wlad yr wythnos hon. Mae Yr Amgylchedd Nawr yn rhaglen gyffrous sy\u2019n cyllido ieuenctid 17 i 24 oed i ddod \u00e2\u2019u syniadau am effeithlonrwydd ynni, lleihau gwastraff ac ailgylchu yn fyw. Mae wedi\u2019i chyllido gan […]<\/p>\n","protected":false},"author":18,"featured_media":4703,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[44],"tags":[329,332],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2099"}],"collection":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/18"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2099"}],"version-history":[{"count":2,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2099\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5386,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2099\/revisions\/5386"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4703"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2099"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2099"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2099"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}