{"id":2133,"date":"2017-04-13T13:44:18","date_gmt":"2017-04-13T12:44:18","guid":{"rendered":"http:\/\/www.www.ourbrightfuture.co.uk\/cy\/?p=2133"},"modified":"2019-01-23T16:28:09","modified_gmt":"2019-01-23T16:28:09","slug":"rhannu-i-ddysgu-a-gwella-mwy-na-diwrnod-o-hwyl","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/2017\/04\/13\/rhannu-i-ddysgu-a-gwella-mwy-na-diwrnod-o-hwyl\/","title":{"rendered":"Rhannu i Ddysgu a Gwella: Mwy na Diwrnod o Hwyl"},"content":{"rendered":"
\"\"Mae twf yn fater anodd. Ydych chi\u2019n gadael i bethau fod a mwynhau beth sydd gennych chi eisoes? Neu ydych chi\u2019n addasu ychydig yma ac acw, symud i le newydd gydag amodau gwahanol a gobeithio y bydd yr ysgogiad newydd o help i ffynnu? Mae\u2019n llawn risg, dydi?<\/h6>\n
Y newyddion da ydi bod y rhan fwyaf o bobl ifanc yn llawer cryfach nag yr ydyn ni (neu yn wir, nhw eu hunain) yn ei feddwl. Rhowch syniadau, pobl ac amgylcheddau newydd iddyn nhw ac fe allwch chi sgubo\u2019r holl gamsyniadau oedd yn bodoli\u2019n gudd i warchod eu hunan-barch o\u2019r ffordd, a dechrau magu hunanhyder didwyll.<\/h6>\n
\u201cDydw i erioed wedi bod y tu allan i Swydd Lincoln, pam ddylwn i?\u201d<\/h6>\n
Yng Nghoed Hill Holt, rydyn ni wedi gwerthfawrogi\u2019r manteision i hunanhyder person ifanc wrth wynebu eu hofnau cudd. Efallai nad ydyn nhw wedi mentro\u2019n bell o\u2019u cartref erioed am nad oes ganddyn nhw arian, neu ddewrder, i brofi rhywbeth newydd, i herio eu barn am sut mae\u2019r byd wir yn edrych ac yn gweithio. Felly, o\u2019r dechrau, rydyn ni wedi dod o hyd i gyllid fel rhan o\u2019n prosiect Tyfu\u2019n Wyrdd i ymweld \u00e2 phrosiectau eraill sy\u2019n rhan o\u2019r mudiad Ein Dyfodol Disglair.<\/h6>\n
Ar fore 23 Mehefin 2016, roeddwn i\u2019n parcio o flaen drws ffrynt t\u0177 person ifanc o\u2019r fath cyn ein trip ni i ymweld \u00e2 Sarah MacDonald ar Stad Falkland yn yr Alban. T\u0177 p\u00e2r oedd y t\u0177 gyda gardd o faint da, wedi\u2019i chuddio dan flynyddoedd o sbwriel amrywiol. Trampol\u00een rhydlyd, teganau plastig plant wedi malu, trelar bychan a glaswellt tal heb ei dorri a\u2019r gwlith arno\u2019n sgleinio yng ngolau melyn y stryd. Wrth i mi wylio\u2019r drws yn agor, cymerais gegaid o fy nghoffi a chwerthin i mi fy hun wrth i\u2019r cyntaf i mi ei godi ddod allan i\u2019r byd \u00e2 golwg flinedig arno ac yn llusgo ei fag cefn yn llythrennol ar hyd y llawr.<\/h6>\n
\u201cDydw i erioed wedi codi mor gynnar, erioed!\u201d meddai.<\/h6>\n
Yn raddol, fe fydden ni\u2019n dod i wybod nad oedd wedi bod yn yr Alban erioed chwaith, nac yn gwersylla, na heb weld gwiwer coch erioed, a\u2019r cant a mil o brofiadau newydd eraill yr oedd am eu cael yn ystod y deuddydd nesaf. Roedd yn amlwg bod ganddo amheuon am yr her o\u2019i flaen ac roedd wedi paratoi ar gyfer y trip drwy bacio 12 diod egni.<\/h6>\n
Y noson ganlynol wrth iddo bendwmpian yn ochr dau arall yn y sedd gefn ar y ffordd adref, roeddwn i\u2019n meddwl tybed sut byddai\u2019n dweud yr hanes wrth ei deulu. Oedden nhw wedi gwneud rhywbeth fel hyn? Meddyliais am y profiadau newydd oeddwn i wedi\u2019u cael hefyd, oherwydd roedd y trip yma am gymaint o bethau, gan gynnwys y manteision i\u2019n staff.<\/h6>\n
\u201cDyna\u2019r fuwch fwyaf dwi erioed wedi\u2019i gweld\u2026!\u201d<\/h6>\n
Mae\u2019r straeon am gyfeillgarwch a chyd-wneud yn ddiddiwedd. Byddai tripiau gwych i Down To Earth yng Nghymru, Youth in Nature yn Hull, Growing Confidence yn Shropshire a mwy yn datgelu eiliadau gwych o dwf personol i bawb cysylltiedig. Roedd gan bob trip straeon bach doniol fyddai\u2019n cael eu rhannu gan y rhai oedd yno fel pe baen nhw\u2019n rhan o glwb dethol arbennig.<\/h6>\n
\u201cWyt ti\u2019n cofio nhw\u2019n chwyrnu mor uchel fel bod nhw i\u2019w clywed ar draws y cae?!\u201d<\/h6>\n
Mae manteision y tripiau pleserus yma\u2019n rhy niferus i\u2019w rhestru yma ac rydyn ni\u2019n awyddus i drefnu ymweliadau cyfnewid i\u2019n coetir ni, i helpu i greu atgofion a phrofiadau newydd i bobl ifanc a staff prosiectau Ein Dyfodol Disglair. Roedd yn hyfryd cael Alexey a\u2019r bechgyn o Ulster draw i aros ym mis Mawrth a gobeithio bod yr ymweliad cyflym \u00e2\u2019n prosiect ni wedi rhoi profiadau newydd iddyn nhw hefyd (gan gynnwys gwyddau\u2019r Aifft ar Lawnt y Mileniwm!). Rydyn ni wedi rhannu ein prosiect gydag eraill hefyd; Bee You!, Youth in Nature a Tomorrow\u2019s Natural Leaders i enwi dim ond tri.<\/h6>\n
\u201cDydw i ddim yn gallu credu faint o goed sydd yn yr ardal yma!\u201d<\/h6>\n
Yn ddiweddar, roeddwn i\u2019n gwenu wrth wneud bomiau blodau gyda chriw o bobl ifanc (yn union fel roedd Fruitful Communities wedi dangos i mi) gan gymryd cipolwg ar y digwyddiadau i ddod ar y calendr gawson ni gan Ulster Wildlife cyn cadw taflen wybodaeth am \u2018The Great Storm\u2019 yn Falkland yn \u00f4l ar y silff. Fe sylweddolais i ein bod ni, wrth rannu, yn dysgu ac yn gwella. Nid dim ond gwella ein hunain, ond eraill o\u2019n cwmpas ni hefyd. Mae gennym ni ymweliadau i ddod drwy gydol y flwyddyn, wedi\u2019u trefnu\u2019n barod, ac erbyn i chi orffen darllen hwn, fe fyddwn ni wedi croesawu Milestones o Ymddiriedolaeth Natur Wiltshire ac wedi ymweld \u00e2 St. Mungo\u2019s yn Morden.<\/h6>\n
Nod y prosiect Tyfu\u2019n Wyrdd gennym ni ydi rhoi gwybodaeth a sgiliau i 4,000 o bobl ifanc i roi sylw i faterion amgylcheddol y presennol a\u2019r dyfodol a meithrin eu hunanhyder i dyfu a datblygu yw\u2019r cam cyntaf hanfodol ar y llwybr pwysig hwnnw.<\/h6>\n
Daliwch ati gyda\u2019r gwaith da bawb!<\/h6>\n
Warden Gav<\/h6>\n

 <\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"

Mae twf yn fater anodd. Ydych chi\u2019n gadael i bethau fod a mwynhau beth sydd gennych chi eisoes? Neu ydych chi\u2019n addasu ychydig yma ac acw, symud i le newydd gydag amodau gwahanol a gobeithio y bydd yr ysgogiad newydd o help i ffynnu? Mae\u2019n llawn risg, dydi? Y newyddion da ydi bod y rhan […]<\/p>\n","protected":false},"author":19,"featured_media":4431,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[44],"tags":[324,325],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2133"}],"collection":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/19"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2133"}],"version-history":[{"count":2,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2133\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5388,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2133\/revisions\/5388"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4431"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2133"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2133"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2133"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}