{"id":2372,"date":"2017-06-15T10:44:27","date_gmt":"2017-06-15T09:44:27","guid":{"rendered":"http:\/\/www.www.ourbrightfuture.co.uk\/cy\/?p=2372"},"modified":"2019-01-23T16:27:36","modified_gmt":"2019-01-23T16:27:36","slug":"pobl-ifanc-yn-wynebu-heriau-nodau-datblygu-cynaliadwyr-cenhedloedd-unedig","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/2017\/06\/15\/pobl-ifanc-yn-wynebu-heriau-nodau-datblygu-cynaliadwyr-cenhedloedd-unedig\/","title":{"rendered":"Pobl ifanc yn wynebu heriau nodau datblygu cynaliadwy\u2019r Cenhedloedd Unedig"},"content":{"rendered":"
\"\"Grainne Martin-wells yw\u2019r cynrychiolydd ieuenctid ar gr\u0175p llywio Our Bright Future. Hefyd mae wedi cael cyfle i ymwneud \u00e2 Merit360, lle mae pobl ifanc yn gweithredu i gefnogi Nodau Datblygu Cynaliadwy\u2019r Cenhedloedd Unedig.\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0 \u00a0<\/strong><\/h6>\n
Eleni, cefais i, ochr yn ochr \u00e2 359 o bobl eraill (18 i 35 oed) o bob cwr o\u2019r byd, fy newis i gymryd rhan mewn rhaglen o\u2019r enw Merit360. Y nod yw ceisio mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r 17 o nodau datblygu cynaliadwy a ffurfiwyd gan y Cenhedloedd Unedig yn 2015. Roedd y broses ymgeisio\u2019n heriol braidd gan fod rhaid i mi lenwi ffurflen gais ac wedyn ateb cwestiynau mewn fideos oeddwn i ond yn cael eu recordio un waith. Roedden nhw\u2019n gofyn i mi beth fyddwn i\u2019n fynd gyda mi ar ynys bellennig! (Radio, papur a beiro, a thabledi lladd poen; mae\u2019n rhaid i chi fod yn ymarferol does?)<\/h6>\n
Fe wnes i ddewis gweithio ar NDC 13: gweithredu ynghylch yr hinsawdd. Roedd yn ymddangos fel dewis addas o feddwl am fy nghysylltiad ag Our Bright Future a gyda gradd mewn gwyddoniaeth yr amgylchedd. Mae 3 cham i\u2019r rhaglen, a cham 1 yw dod i adnabod y t\u00eem! Fe wnes i ymuno ag 11 arall a dechrau cael sgyrsiau gr\u0175p bob pythefnos. Roedden ni\u2019n trafod ein diwylliannau unigol a sut i oresgyn unrhyw wahaniaethau. Nawr rydyn ni newydd ddechrau ffurfio ein syniadau ar gyfer pa ran o\u2019r NDC rydyn ni eisiau rhoi sylw iddi. Mae hyn yn bwysig oherwydd ym mhob NDC mae targedau ynghylch sut i gyrraedd y nod, er enghraifft, trechu newid hinsawdd neu ddileu tlodi (NDC 1).<\/h6>\n
Yn bersonol, rydw i eisiau canolbwyntio ar addysgu pobl am beth allant ei wneud i atal newid hinsawdd direolaeth, gan fy mod i wedi gweld yr holl waith anhygoel mae pobl ifanc yn ei wneud gydag ychydig o help a gwybodaeth. Ar \u00f4l i ni benderfynu pa darged i ganolbwyntio arno, rhaid i ni feddwl am bwy all ein helpu ni, pobl sy\u2019n cael eu galw\u2019n rhanddeiliaid. A hefyd, a ydyn ni eisiau adeiladu ar syniad presennol neu wneud rhywbeth cwbl newydd. Wedyn daw cam dau: cyflwyno ein syniad yn y Senedd. Daw hyn ddiwedd mis Awst eleni a byddwn yn treulio pythefnos yn Llundain ac yn Lerpwl yn llunio ein cynllun yn derfynol ac yn ei rannu gyda phobl \u2018bwysig\u2019. Dyma\u2019r rhan rydw i\u2019n edrych ymlaen yn fawr ati oherwydd dydw i ddim yn meddwl bod digon o bobl mewn p\u0175er yn poeni am newid hinsawdd. Drwy dynnu eu sylw at hyn, efallai y bydd posib i ni newid eu barn yn araf bach, a\u2019u cael i weld bod gofalu am yr amgylchedd yn eithriadol bwysig.<\/h6>\n
Yn olaf, cam tri yw rhoi\u2019r cynllun ar waith. Gan nad ydw i\u2019n gwybod beth fydd ein cynllun ni, dydw i ddim yn gallu dweud llawer wrthych chi am hyn! Er hynny, rydw i\u2019n gallu rhoi syniad i chi o beth fyddwn ni\u2019n gallu ei gyflawni o bosib, drwy edrych ar gr\u0175p y llynedd. Fe wnaethon nhw benderfynu sefydlu prosiect o\u2019r enw \u2018The Climate Express\u2019, sef bws a fydd yn teithio i gymunedau a fydd yn cael eu heffeithio gan newid hinsawdd ar bum cyfandir gwahanol, gan ddechrau yn Ghana. Y nod yw rhoi gwybodaeth ac adnoddau iddyn nhw i allu addasu i newid hinsawdd.<\/h6>\n
Yr unig beth rydw i wedi anghofio ei grybwyll ydi\u2019r codi arian! Er mwyn cyrraedd yr ail a\u2019r trydydd cam, mae\u2019n rhaid i chi godi \u00a31,200 sydd, er ei fod yn llawer o arian, yn bosib ei gyflawni ac fe gewch chi lawer o gefnogaeth gan World Merit (y sefydliad sy\u2019n rhedeg Merit360). Rydw i\u2019n codi fy arian drwy gefnogaeth gan ffrindiau a theulu ond hefyd drwy werthu cacennau. Oedd, roedd rhaid i mi deithio ar y Tube gyda bocsys o gacennau, ond roedd e werth e! Mae llawer o ffyrdd i chi gyrraedd eich nod; fe gafodd un ferch yn ein gr\u0175p ni ei noddi gan ei phrifysgol i helpu i dalu am docynnau awyren, gan ei bod yn byw yng Nghanada.<\/h6>\n
Mae llawer o adegau wedi bod yn ystod fy mywyd i lle rydw i wedi poeni a oes posib i ni wneud unrhyw beth i helpu i ddatrys y problemau rydyn ni wedi\u2019u creu. Wedyn fe wnes i ddechrau cymryd rhan mewn prosiectau fel hyn a chyfarfod pobl anhygoel sydd wedi gwneud gwahaniaeth er gwaethaf eu hoedran. Mae\u2019n gwneud i mi feddwl am beth fyddai\u2019n digwydd pe bai pawb yn gwneud rhywbeth, dim ots pa mor fach, a pha newid allai hynny ei greu. Dyna beth sy\u2019n fy nghadw i i fynd a dyna pam wnes i ddechrau ymwneud \u00e2 Merit360; oherwydd rydw i\u2019n gallu gweld cyfle gwych i newid pethau er gwell.<\/h6>\n

 <\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"

Grainne Martin-wells yw\u2019r cynrychiolydd ieuenctid ar gr\u0175p llywio Our Bright Future. Hefyd mae wedi cael cyfle i ymwneud \u00e2 Merit360, lle mae pobl ifanc yn gweithredu i gefnogi Nodau Datblygu Cynaliadwy\u2019r Cenhedloedd Unedig.\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0 \u00a0 Eleni, cefais i, ochr yn ochr \u00e2 359 o bobl eraill (18 i 35 oed) o bob cwr o\u2019r byd, fy […]<\/p>\n","protected":false},"author":21,"featured_media":5274,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[44],"tags":[168],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2372"}],"collection":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/21"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2372"}],"version-history":[{"count":2,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2372\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5389,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2372\/revisions\/5389"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/5274"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2372"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2372"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2372"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}