{"id":2384,"date":"2017-07-12T15:19:02","date_gmt":"2017-07-12T14:19:02","guid":{"rendered":"http:\/\/www.www.ourbrightfuture.co.uk\/cy\/?p=2384"},"modified":"2019-01-23T16:27:09","modified_gmt":"2019-01-23T16:27:09","slug":"pa-gam-beiddgar-ydych-chi-wedii-gymryd","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/2017\/07\/12\/pa-gam-beiddgar-ydych-chi-wedii-gymryd\/","title":{"rendered":"Pa gam beiddgar ydych chi wedi\u2019i gymryd?"},"content":{"rendered":"
\"\"Roberta Antonaci, Rheolwr Polisi ac Ymgyrchoedd Our Bright Future, sy\u2019n dweud wrthym am ei phrofiad yn TEDxTeen. <\/strong><\/h6>\n
Ar 24 Mehefin, cynhaliwyd TEDxTeen yn Arena\u2019r O2<\/sub> yn Ne Ddwyrain Llundain. Mae TED yn sefydliad dielw sydd wedi ymrwymo i rannu syniadau, ar ffurf sgyrsiau byr, pwerus fel rheol. Cynhelir digwyddiadau TEDx annibynnol mewn mwy na 100 o ieithoedd. Roedd yn bleser cael ymuno ag un o\u2019r rhain, a oedd yn rhoi llwyfan i bobl ifanc o bob cwr o\u2019r byd i rannu eu straeon anhygoel.<\/h6>\n
Roedd yn ddiwrnod eithriadol ysbrydoledig gydag egni positif a phethau i gnoi cil arnynt. Y brif thema oedd \u201ccamau beiddgar\u201d. Sut mae newid y byd o\u2019ch cwmpas chi neu\u2019r tu mewn i chi a chymryd cam beiddgar? Cwestiwn hawdd tydi?<\/h6>\n
Roedd cymaint o siaradwyr yn rhannu eu profiadau ysbrydoledig. Er enghraifft, soniodd Zuhal Sultan<\/a> wrthym am ei hantur ryfeddol yn sylfaenu\u2019r gerddorfa ieuenctid genedlaethol gyntaf yn ei harddegau yng nghanol rhyfel yn Iraq. Fel y dywedodd hi, rydyn ni\u2019n siarad drwy gerddoriaeth bob un dydd o\u2019n bywydau ac mae cerddoriaeth yn gallu pontio bylchau ac uno pobl y tu hwnt i iaith, ethnigrwydd neu rwystrau crefyddol.<\/h6>\n
Roedd cam beiddgar Tyler Dunning<\/a> yn un personol. Collodd Tyler ei ffrind gorau, Nate, mewn ymosodiad terfysgol. Gwnaeth y newyddion iddo deimlo\u2019n flin a thrist a throdd at feddyginiaeth. Ei unig gysur? Byd natur. Penderfynodd ymweld \u00e2 phob un o\u2019r 59 parc cenedlaethol yn UDA. Ac wedyn, fesul ychydig, dechreuodd rannu gyda phobl eraill ac, yn y diwedd, llwyddodd i ddweud ffarwel. Mae gan fyd natur b\u0175er enfawr. Yn Our Bright Future, rydyn ni\u2019n profi beth all byd natur ei wneud i ni i gyd bob un dydd. O wella ein hiechyd a\u2019n lles i roi cyfle i ni ddysgu sgiliau newydd a chysylltu \u00e2\u2019n cymuned. Roedd gweld hyn yn cael ei gydnabod mewn sgwrs bwerus yn emosiynol!<\/h6>\n
Neges arall gefais i yn ystod y dydd yw ei bod yn bwysig derbyn nad ydyn ni\u2019n berffaith. Weithiau dydi pethau ddim yn gweithio fel byddem yn dymuno. Mae posib osgoi ein methiannau a gall fod yn ffynhonnell o ysbrydoliaeth hyd yn oed. \u00a0Er enghraifft, rhannodd Claudia Vulliamy<\/a> ei stori am sut trodd hi lythyr yn gwrthod lle iddi ym Mhrifysgol Rhydychen yn ddarn o gelf. Rhannodd ei mam y llun ar Twitter ac aeth yn feiral. Neu Nile Rodgers, y cerddor a\u2019r cynhyrchydd recordiau enwog o America, a ddywedodd wrthym sut deilliodd y g\u00e2n Le Freak<\/a> o amharodrwydd stiwdio enwog Studio 54 i groesawu ei gr\u0175p pop, The Chic. Roedd Le Freak yn rhif un yn y siartiau disgo am saith wythnos a gwerthodd y sengl saith miliwn o gop\u00efau!<\/h6>\n
Yr hyn gododd fy ysbryd i oedd y syniad beiddgar o fod yn agored i amrywiaeth a oedd yn gysylltiedig \u00e2 llawer o\u2019r sgyrsiau. Mae Ziad Ahmed<\/a>, Mwslim Americanaidd ac ymgyrchydd brwd dros gyfiawnder cymdeithasol, yn gofyn i ni edrych yn llygaid ein gilydd a gofyn cwestiynau ymddangosiadol syml fel \u201csut wyt ti\u201d a \u201cphwy wyt ti\u201d. Gwahoddodd ni i stopio byw mewn swigen sy\u2019n cynnwys pobl sy\u2019n meddwl yr un fath \u00e2 ni, herio ein stereoteipiau a dechrau sgwrs.<\/h6>\n
Gofynnodd Amelia Halls<\/a> i ni normaleiddio sut rydyn ni\u2019n siarad am iechyd y meddwl. Nid gwendid yw salwch meddwl. Mae hi\u2019n un allan o\u2019r 300 mil o bobl sy\u2019n dioddef bob blwyddyn yn y DU o iselder a phenderfynodd ddefnyddio p\u0175er gwella celf i\u2019w stopio\u2019i hun rhag hunan-niweidio. Penderfynodd droi ei chorff yn ganfas.<\/h6>\n
Ac, yn olaf, gyda\u2019i stori ysbrydoledig, fe wnaeth Lewis Hine i mi gr\u00efo. Yn 17 mis oed, cafodd diwmor ar yr ymennydd ac mae wedi gorfod cael tair ar ddeg o lawdriniaethau hyd yma.<\/h6>\n
Fel y dywedodd yn ei fideo<\/a>, sydd wedi\u2019i wylio fwy nag 20 miliwn o weithiau ar Facebook, \u201cdydi anabledd ddim yn beth drwg, ond mae cadw\u2019n dawel amdano\u2019n ddrwg iawn\u201d. Sefydlodd Lewis brosiect o\u2019r enw Friend Finder<\/a>, i helpu pobl ifanc eraill sydd \u00e2 salwch tymor hir ac sydd wedi treulio llawer o amser mewn ysbytai ac yn ei chael yn anodd gwneud ffrindiau. Mae pawb eisiau ffrind. Ac mae mor gyffrous meddwl sut mae prosiectau Our Bright Future yn gwneud i hyn ddigwydd. Mae\u2019n ffantastig gweld sut mae\u2019r bobl ifanc sy\u2019n ymuno \u00e2\u2019r prosiectau\u2019n dod at ei gilydd ac yn gwneud ffrindiau.<\/h6>\n
A dyma fy ystyriaeth olaf i. Mae camau beiddgar o bob lliw a llun i\u2019w cael a gallwch ddechrau newid y byd gydag un cam beiddgar syml. Gallwch ddechrau gyda dim ond sgwrs neu newid positif bach yn eich cymuned a\u2019ch amgylchedd lleol. Mae hwnnw\u2019n gam beiddgar!<\/h6>\n
Mae pob un o 31 o brosiectau Our Bright Future wedi bod yn feiddgar o ran gwthio eu ffiniau ac anelu\u2019n uchel. Gyda\u2019n gilydd rydyn ni\u2019n creu mudiad beiddgar ac rydw i mor falch o\u2019r hyn y gallwn ni ei gyflawni gyda\u2019n gilydd yn ystod y blynyddoedd nesaf.<\/h6>\n

 <\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"

Roberta Antonaci, Rheolwr Polisi ac Ymgyrchoedd Our Bright Future, sy\u2019n dweud wrthym am ei phrofiad yn TEDxTeen. Ar 24 Mehefin, cynhaliwyd TEDxTeen yn Arena\u2019r O2 yn Ne Ddwyrain Llundain. Mae TED yn sefydliad dielw sydd wedi ymrwymo i rannu syniadau, ar ffurf sgyrsiau byr, pwerus fel rheol. Cynhelir digwyddiadau TEDx annibynnol mewn mwy na 100 […]<\/p>\n","protected":false},"author":22,"featured_media":5276,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[44],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2384"}],"collection":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/22"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2384"}],"version-history":[{"count":2,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2384\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5390,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2384\/revisions\/5390"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/5276"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2384"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2384"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2384"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}