{"id":2405,"date":"2017-09-19T11:13:29","date_gmt":"2017-09-19T10:13:29","guid":{"rendered":"http:\/\/www.www.ourbrightfuture.co.uk\/cy\/?p=2405"},"modified":"2019-01-23T16:26:43","modified_gmt":"2019-01-23T16:26:43","slug":"mynd-ar-frwydr-yn-erbyn-gwastraff-bwyd-allan-ir-caeau","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/2017\/09\/19\/mynd-ar-frwydr-yn-erbyn-gwastraff-bwyd-allan-ir-caeau\/","title":{"rendered":"Mynd \u00e2\u2019r frwydr yn erbyn gwastraff bwyd allan i\u2019r caeau"},"content":{"rendered":"
\"\"Dyma Phil Holtam, cydlynydd lloffa yn Feedback, Sussex, i ddweud wrthyn ni beth yn union mae \u2018lloffa\u2019 yn ei olygu. <\/strong><\/h6>\n
Nid aberth bach ydi rhoi\u2019ch bore Sadwrn dros yr haf i roi sylw i wastraff bwyd ar ffermydd, yn enwedig pan mae\u2019n cynnwys gwaith caled yn yr haul. Ond dyna\u2019n union wnaeth 45 o wirfoddolwyr hael ar \u00f4l ymuno \u00e2 chynhaeaf corn melys rhwydwaith lloffa Sussex. Mae diwrnod yn lloffa, sef gair arall am gasglu mewn gwirionedd, yn ddiwrnod hwyliog allan yng nghefn gwlad \u2013 dyma beth fuon ni\u2019n ei wneud.<\/h6>\n
Mae Mark Stroude o fferm Culver wedi cynnal digwyddiadau lloffa o\u2019r blaen. \u00a0Fferm corn melys Culver<\/a> yw un o\u2019r ffermydd tyfu corn mwyaf yn y wlad, gan gynhyrchu degau ar filiynau o dywysennau bob blwyddyn. Pan fydd llai o alw a\u2019r cynhyrchu\u2019n dal i fynd o nerth i nerth, mae\u2019n anodd i brynwyr Mark gyfateb faint mae ei fferm yn ei dyfu, a dyma ble mae rhwydwaith lloffa Feedback\u00a0<\/a>yn bwysig.<\/h6>\n
Mae Feedback yn un o bartneriaid prosiect Our Bright Future. Maen nhw\u2019n gweithio gyda Foodcycle <\/a>i gyflwyno prosiect O\u2019r Fferm i\u2019r Fforc, sy\u2019n lloffa bwyd dros ben i ddarparu prydau bwyd cymunedol.<\/h6>\n
Mae\u2019r lloffwyr brwd yn mynd ati i weithio gan gynaeafu\u2019r corn i hen sachau tatws. Gan ddilyn cyngor Mark, cafodd y corn ei loffa res wrth res a gadawyd arwyddion ar gyfer y peirianwyr cynaeafu ynghylch beth roeddem wedi\u2019i ddewis. Cawsom seibiant am ginio hyfryd mewn cae cyfagos, a oedd yn cynnwys ambell dywysen amrwd o gorn.<\/h6>\n
Roedd llawer o wirfoddolwyr ifanc wedi dod ac, yn eu plith, roedd dwy ffrind, Hannah a Zoe. Dywedodd Hannah ei bod wir wedi mwynhau \u201cachub cymaint o fwyd rhag cael ei wastraffu a hefyd cyfarfod llawer o bobl ddiddorol mewn cae heulog!\u201d a \u201cdod i ddeall faint o fwyd sy\u2019n cael ei wastraffu ar ffermydd\u201d. Dywedodd Zoe mai ei hoff beth hi oedd \u201ccyfarfod cymaint o amrywiaeth o bobl a chael diwrnod cynhyrchiol a phrysur\u201d.<\/h6>\n
Roedd sesiwn lloffa\u2019r prynhawn yn cynnwys ymdrechion cludo dewr. Dywedodd Farhad, 17 oed o Southwick: \u201cFe wnes i wir fwynhau casglu\u2019r corn melys. Mae\u2019n neis bod gyda phobl eraill a chydweithio. Dyma\u2019r tro cyntaf i mi wneud hyn yn y DU. Yn Afghanistan roedden ni\u2019n arfer gwneud pethau tebyg. Dydyn ni ddim eisiau gwastraffu\u2019r bwyd oherwydd mae\u2019n blasu\u2019n dda a does gan rai pobl ddim digon\u201d.<\/h6>\n
Tua 3pm cyrhaeddodd fan o UK Harvest<\/a>, menter dosbarthu gwastraff bwyd yn Chichester, i gasglu 200kg o gorn melys. Cafodd y rhan fwyaf o\u2019r cynnyrch lloffa ei roi ar balets i\u2019w gasglu gan FareShare UK a FareShare Sussex<\/a>. Cafodd tua 5,030kg o gorn melys ei gynaeafu i gyd, sy\u2019n cyfateb i fwy na 60,000 o ddognau unigol. Cafodd ei ddosbarthu i leoliadau ym mhob cwr o\u2019r wlad, lle bydd yn cael ei ailddosbarthu i gannoedd o hosteli digartref, canolfannau adsefydlu ar \u00f4l defnyddio cyffuriau, llochesi i ferched, clybiau brecwast ac elusennau eraill sy\u2019n helpu pobl mewn angen.<\/h6>\n
Diolch enfawr i\u2019r holl wirfoddolwyr am eu gwaith caled \u2013 \u2019fydden ni ddim wedi gallu gwneud hyn heb eich help chi. Os hoffech chi ymuno \u00e2 ni ar gyfer digwyddiad lloffa, cofrestrwch<\/a> i fod ar ein rhestr lloffa. Gobeithio y gwelwn ni chi yn y caeau!<\/h6>\n
Mwy o wybodaeth am y prosiect From Farm to Fork yma<\/a>.<\/h6>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"

Dyma Phil Holtam, cydlynydd lloffa yn Feedback, Sussex, i ddweud wrthyn ni beth yn union mae \u2018lloffa\u2019 yn ei olygu. Nid aberth bach ydi rhoi\u2019ch bore Sadwrn dros yr haf i roi sylw i wastraff bwyd ar ffermydd, yn enwedig pan mae\u2019n cynnwys gwaith caled yn yr haul. Ond dyna\u2019n union wnaeth 45 o wirfoddolwyr […]<\/p>\n","protected":false},"author":24,"featured_media":4756,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[44],"tags":[193,317,320,194],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2405"}],"collection":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/24"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2405"}],"version-history":[{"count":2,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2405\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5392,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2405\/revisions\/5392"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4756"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2405"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2405"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2405"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}