{"id":2421,"date":"2017-10-12T14:58:07","date_gmt":"2017-10-12T13:58:07","guid":{"rendered":"http:\/\/www.www.ourbrightfuture.co.uk\/cy\/?p=2421"},"modified":"2019-01-23T16:26:58","modified_gmt":"2019-01-23T16:26:58","slug":"y-celfyddydaun-effeithio-ar-fywyd","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/2017\/10\/12\/y-celfyddydaun-effeithio-ar-fywyd\/","title":{"rendered":"Y celfyddydau\u2019n effeithio ar fywyd"},"content":{"rendered":"
\"\"Dyma Matthew McWhinne, cydlynydd cyfathrebu a marchnata gydag Impact Arts, i siarad drwy ei wythnos o weithgareddau gyda\u2019i brosiect Creative Pathways. <\/strong><\/h6>\n
Mae\u2019r prosiect Creative Pathways – Llwybrau Creadigol – sy\u2019n cael ei gyflwyno gan Impact Arts yn Glasgow yn mynd o nerth i nerth. Fis diwethaf, bu pobl ifanc yn datblygu eu creadigrwydd drwy gyfrwng wythnos o weithgarwch, gan gynnwys dysgu yn yr ystafell ddosbarth, trip i Gaeredin, a sesiynau ar greu gweithiau celf dyfeisgar a dadlennol.<\/h6>\n
Uchafbwynt yr wythnos i lawer oedd ymweliad y t\u00eem ag Oriel Genedlaethol yr Alban ar gyfer Celfyddyd Fodern yng Nghaeredin. Roedd yr ymweliad yn gyfle i bobl ifanc weld gwaith gan rai o artistiaid enwocaf y byd.<\/h6>\n
Gan fod y gr\u0175p hwn yn gweithio tuag at brosiect cerflunio, cawsant eu hysbrydoli\u2019n fawr gan gelf tir Charles Jencks, sy\u2019n gorwedd o flaen yr oriel. Roedd gwaith Eduardo Paolozzi, Anthony Gormley a Joan Miro i gyd yn ysbrydoliaeth i\u2019r bobl ifanc hefyd, ac yn rhoi syniadau iddynt ar gyfer eu gwaith eu hunain. Roedd hyn i gyd cyn iddynt fynd i mewn i\u2019r oriel hyd yn oed.<\/h6>\n
Allan o\u2019r oerfel ac o dan do yn y gofod arddangos, rhannodd y t\u00eem yn ddau gr\u0175p ac archwilio\u2019r ddau adeilad, gan arsylwi a thrafod y gwaith oedd yn cael ei arddangos. Roedd yn gyfle amhrisiadwy i\u2019r gr\u0175p weld gwaith mawrion fel Picasso, Warhol, Magritte a Hepworth, i enwi dim ond rhai.<\/h6>\n
Y diwrnod cynt, mwynhaodd y gr\u0175p gyflwyniad ar sut i ddarllen a dehongli celfyddyd fodern. Bu ein tiwtoriaid yn eu harwain drwy rai o weithiau celf mwyaf arwyddocaol yr 20fed<\/sup> Ganrif \u2013 o Marcel Duchamp ac Andy Warhol i Tracey Emin a Cornelia Parker. Drwy gydol y cyflwyniad cafwyd sylwadau manwl gan y gr\u0175p ac roeddent yn aeddfed iawn wrth gwblhau eu hymarfer \u201cparod\u201d.<\/h6>\n
Daeth yr wythnos i ben gyda chreu hunan bortreadau gwych. Ar \u00f4l gweithio\u2019n galed drwy\u2019r bore ar unedau SQA \u2013 rhan o elfen gyflogadwyedd y cwrs hwn \u2013 cynhyrchodd y gr\u0175p hunan bortreadau haniaethol hyfryd. Roedd y gwaith yn gynharach yn ystod yr wythnos ar ddehongli wedi cyflwyno syniadau newydd am y meddwl y tu \u00f4l i greu gweithiau celf, ac roedd hyn yn amlwg yn yr hunan bortreadau a gynhyrchwyd. Yn drawiadol iawn yn weledol ac yn llawn sentiment ac ystyr, gorffennodd y gr\u0175p yr wythnos gyda llwyddiant creadigol.<\/h6>\n
Os bydd hyn yn parhau, bydd gennym nifer o bobl ifanc sy\u2019n gadael Impact Arts ac yn mynd ymlaen i gystadlu am Wobr Turner!<\/h6>\n
Mae\u2019r cwrs Llwybrau Creadigol yma\u2019n canolbwyntio ar ddylunio amgylcheddol, gan annog y bobl ifanc i feddwl am faterion gwyrdd ar lefel leol a rhannu sgiliau celf a dylunio ar yr un pryd. Mae\u2019n rhan o Our Bright Future, mudiad a gyllidir gan y Gronfa Loteri Fawr, sy\u2019n cefnogi pobl ifanc i arwain newid amgylcheddol a chynyddol.<\/h6>\n
Rydym yn cael cyllid a chefnogaeth hefyd gan Skills Development Scotland, Inspiring Scotland, Loteri Plant yr Alban a Chamlesi\u2019r Alban.<\/h6>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"

Dyma Matthew McWhinne, cydlynydd cyfathrebu a marchnata gydag Impact Arts, i siarad drwy ei wythnos o weithgareddau gyda\u2019i brosiect Creative Pathways. Mae\u2019r prosiect Creative Pathways – Llwybrau Creadigol – sy\u2019n cael ei gyflwyno gan Impact Arts yn Glasgow yn mynd o nerth i nerth. Fis diwethaf, bu pobl ifanc yn datblygu eu creadigrwydd drwy gyfrwng […]<\/p>\n","protected":false},"author":26,"featured_media":4625,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[44],"tags":[313,299,326,205],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2421"}],"collection":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/26"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2421"}],"version-history":[{"count":2,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2421\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5393,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2421\/revisions\/5393"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4625"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2421"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2421"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2421"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}