{"id":2816,"date":"2017-12-18T14:02:56","date_gmt":"2017-12-18T14:02:56","guid":{"rendered":"http:\/\/www.www.ourbrightfuture.co.uk\/cy\/?p=2816"},"modified":"2019-01-23T16:25:13","modified_gmt":"2019-01-23T16:25:13","slug":"syniadau-owningit-hawdd","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/2017\/12\/18\/syniadau-owningit-hawdd\/","title":{"rendered":"Syniadau #OwningIt hawdd"},"content":{"rendered":"
\"\"Mae\u2019r blogiwr arddegol llwyddiannus, Zach Haynes, wedi ymuno ag ymgyrch #OwningIt #OurBrightFuture. Dyma beth mae\u2019n ei wneud …\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0 <\/strong><\/h6>\n
I\u2019r rhai ohonoch chi sydd ddim yn fy adnabod i, Zach ydw i! Rydw i\u2019n byw yng Ngogledd Swydd Efrog, sy\u2019n golygu \u2019mod i\u2019n lwcus oherwydd mae gen i lawer o gefn gwlad i\u2019w archwilio. Mae hynny\u2019n gr\u00eat i mi oherwydd rydw i wrth fy modd gyda byd natur ac mae\u2019r diddordeb yma wedi cynyddu ers pan oeddwn i\u2019n ifanc iawn. Fe ddyweda\u2019 i wrtha\u2019 chi sut datblygodd hynny mewn ychydig ond un o fy mhrif uchelgeisiau i ydi ceisio cael mwy o bobl, yn enwedig pobl fy oedran i, i werthfawrogi byd natur a gofalu amdano. Felly roeddwn i\u2019n falch iawn o gael dechrau ymwneud ag ymgyrch #OurBrightFuture oherwydd y nod ydi lledaenu\u2019r neges bod ein dyfodol ni i gyd, yn enwedig dyfodol pobl ifanc, yn gysylltiedig \u00e2 dyfodol yr amgylchedd. Rydw i wedi rhyfeddu at sut mae camau rydw i wedi gallu eu cymryd yn gwneud gwahaniaeth ac mae\u2019r ymgyrch yma\u2019n ymwneud \u00e2 llawer ohonom ni\u2019n gwneud gwahaniaeth bach, a fydd yn dod at ei gilydd i wneud newidiadau mawr. Mae\u2019n ymwneud \u00e2 ni\u2019n #Owningit, yn cymryd yr awennau gyda\u2019r amgylchedd er mwyn ein dyfodol. Fe fydda\u2019 i\u2019n siarad am pam nad oes ots beth ydi\u2019ch oedran chi – fe allwch chi wneud mwy nag ychydig o wahaniaeth.<\/h6>\n
Felly mae gen i fy rhieni i ddiolch iddyn nhw am fy hoffter i o fyd natur oherwydd cyn oeddwn i\u2019n gallu cerdded hyd yn oed roedden nhw\u2019n mynd \u00e2 fi i goedydd, ar rostiroedd a mynyddoedd, ac i ddyffrynnoedd a chymoedd. Mae gen i atgofion gwych o fod yn blentyn yn syllu ar lynnoedd, yn gwylio ac yn gwrando ar raeadrau, yn bwydo hwyaid a gwyddau a llawer mwy. Wrth i mi fynd yn h\u0177n fe ddechreuais i flog fel ffordd o ddysgu am y pethau roeddwn i\u2019n dod o hyd iddyn nhw wrth i mi archwilio cefn gwlad ar deithiau cerdded teuluol. Po fwyaf roeddwn i\u2019n ysgrifennu am natur, y mwyaf roeddwn i\u2019n ei ddysgu am y bywyd gwyllt rhyfeddol o\u2019n cwmpas ni, a pha mor rhyfeddol ac anhygoel ydi o. Fe wnes i ddechrau sylweddoli hefyd pa mor\u00a0 fregus ydi byd natur a\u2019r effaith mae dynolryw yn ei chael ar yr amgylchedd. Rydw i\u2019n siarad llawer am hyn gyda fy nheulu a llawer o\u2019r bobl rydw i\u2019n eu cyfarfod drwy fy mlog pan ydw i\u2019n cael cyfle i ymweld \u00e2 gwarchodfeydd neu fynd i ddigwyddiadau fel Ffeiriau Adar.<\/h6>\n
Ac fe wnes i ddechrau meddwl beth fyddwn i\u2019n gallu ei wneud i helpu. Ac wedyn fe ddechreuais i wneud pethau fel gosod bocsys adar yn eu lle, tyfu blodau cyfeillgar i wenyn, helpu mewn gwarchodfeydd a phethau felly, ond roeddwn i\u2019n meddwl tybed sut arall fedrwn i wneud gwahaniaeth. Roeddwn i\u2019n 10 oed pan wnes i ddechrau blogio a dim ond tair ar ddeg ydw i nawr, ond rydw i wedi dysgu bod pobl ifanc yn gallu gwneud gwahaniaeth. Dyma rai o\u2019r pethau rydw i wedi\u2019u darganfod wrth wneud fy mlog i bobl allu helpu byd natur.<\/h6>\n