{"id":2876,"date":"2018-01-11T10:39:33","date_gmt":"2018-01-11T10:39:33","guid":{"rendered":"http:\/\/www.www.ourbrightfuture.co.uk\/cy\/?p=2876"},"modified":"2019-01-07T14:22:12","modified_gmt":"2019-01-07T14:22:12","slug":"o-wirfoddolwr-i-ymddiriedolwr-sut-gall-pobl-ifanc-ddylanwadu-ar-newid","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/2018\/01\/11\/o-wirfoddolwr-i-ymddiriedolwr-sut-gall-pobl-ifanc-ddylanwadu-ar-newid\/","title":{"rendered":"O wirfoddolwr i Ymddiriedolwr: sut gall pobl ifanc ddylanwadu ar newid"},"content":{"rendered":"
\"\"Ellie Brown yw Ymddiriedolwr ifanc cyntaf Ymddiriedolaeth y Mileniwm Cymoedd Swydd Efrog. Dyma sut mae hi wedi cael y r\u00f4l honno.\u00a0 \u00a0<\/strong><\/h6>\n
Bywyd gwyllt a\u2019r amgylchedd \u2013 dau beth pwysig iawn i mi ac roeddwn i eisiau cael effaith bositif ar iechyd y blaned yma. Fe arweiniodd hynny at ymwneud \u00e2 Green Futures, un o brosiectau gwych Our Bright Future, sy\u2019n cael ei arwain gan yr elusen Ymddiriedolaeth y Mileniwm Cymoedd Swydd Efrog (YDMT).<\/h6>\n
Fe wnes i gyfarfod staff YDMT am y tro cyntaf drwy fynychu cyfarfod yn benodol ar gyfer pobl ifanc, am brosiect Green Futures. Roeddwn i newydd orffen yn y brifysgol ac wedi graddio gydag MSc mewn Bioamrywiaeth a Chadwraeth. Roeddwn i\u2019n chwilio am gyfleoedd i gymryd rhan mewn prosiectau amgylcheddol lleol.<\/h6>\n
Ers hynny rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i ddod o hyd i waith llawn amser gydag elusen cadwraeth amgylcheddol, r\u00f4l lle rydw i\u2019n gallu gwneud gwahaniaeth positif i\u2019r amgylchedd lleol. Er hynny, drwy ddod i adnabod staff Green Futures a staff eraill YDMT, roedd cyfle i mi ddweud wrthyn nhw am fy niddordeb mewn materion amgylcheddol. Wedyn cynigiodd y staff hynny gyfleoedd gwirfoddol ychwanegol i mi, i wneud gwahaniaeth i\u2019r amgylchedd ac i bobl ifanc \u2013 cyfleoedd rydw i wedi\u2019u mwynhau yn fawr!<\/h6>\n
I ddechrau, fe gefais i fy mhenodi\u2019n aelod o Gr\u0175p Llywio Green Futures \u2013 sef gr\u0175p o bobl sy\u2019n helpu i ddylanwadu ar y prosiect a sicrhau ei fod ar y trac i gyflawni ei amcanion. Rydw i\u2019n teimlo fy mod i wedi gallu cael effaith bositif ar y prosiect ac wedi dylanwadu ar bobl ifanc eraill drwy wneud y canlynol:<\/h6>\n
    \n
  • \n
    Cyfrannu at gyfarfodydd y Gr\u0175p Llywio a chynnig persbectif person ifanc yn ystod y prosesau gwneud penderfyniadau<\/h6>\n<\/li>\n
  • \n
    Helpu i gyfweld a phenodi un o aelodau o staff Green Futures, gan sicrhau bod y person gorau ar gyfer y gwaith yn cael ei ddewis<\/h6>\n<\/li>\n
  • \n
    Cynorthwyo pobl ifanc i gynllunio, datblygu a chynnal eu gweithdai eu hunain ar them\u00e2u amgylcheddol yn uwchgynhadledd flynyddol Green Futures i bobl ifanc \u2013 yr Youth Environment Summit<\/h6>\n<\/li>\n
  • \n
    Datblygu a chyflwyno fy ngweithdai fy hun yn yr Uwchgynhadledd ar sut i fod yn ddefnyddiwr ystyriol (gan ganolbwyntio\u2019n bennaf ar osgoi cynnyrch gydag olew palmwydd ynddo) a sut i wneud eich nwyddau ymolchi naturiol ac eco-gyfeillgar eich hun. Er mawr boddhad i mi, cafodd y ddau weithdy effaith fawr ar y bobl ifanc oedd yn bresennol!<\/h6>\n<\/li>\n
  • \n
    Annog pobl ifanc i feddwl am faterion amgylcheddol a beth allant ei wneud i helpu<\/h6>\n<\/li>\n
  • \n
    Adolygu a chyflwyno sylwadau ar y ceisiadau i Gronfa Gweithredu Amgylcheddol Ieuenctid Green Futures (pot bychan o arian sydd ar gael i alluogi pobl ifanc i gynnal eu prosiectau amgylcheddol eu hunain), i sicrhau bod y prosiectau\u2019n cael cymaint o effaith \u00e2 phosib.<\/h6>\n<\/li>\n<\/ul>\n
    Ar \u00f4l mwynhau fy r\u00f4l ar y Gr\u0175p Llywio yn fawr, fe anfonais i e-bost at Gadeirydd Ymddiriedolwyr YDMT (y \u2018bos go iawn\u2019) i weld a oedd unrhyw ffordd i mi gymryd rhan yn y gwaith o lywodraethu\u2019r Ymddiriedolaeth. Fel ymateb, fe gefais i gynnig bod yn Ymddiriedolwr \u2013 y \u2018Person Ifanc\u2019 cyntaf erioed i gael bod yn aelod o Fwrdd yr Ymddiriedolwyr!<\/h6>\n
    Mae Bwrdd o Ymddiriedolwyr yn gwneud penderfyniadau am gyfeiriad elusen a sut mae\u2019n defnyddio ei harian. Yn gyffrous ynghylch cyfle i allu gwneud gwahaniaeth i elusen gyfan, fe wnes i dderbyn, a nawr rydw i\u2019n cael cyfrannu at y prosesau gwneud penderfyniadau sy\u2019n penderfynu ar effaith yr elusen. Er enghraifft, fe fyddaf yn cyfrannu at ddatblygiad Cynllun Strategol YDMT, sy\u2019n datgan beth mae\u2019r elusen eisiau ei gyflawni yn ystod y 5 mlynedd nesaf. Mae hyn yn ymwneud \u00e2 phenderfynu beth yw\u2019r blaenoriaethau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd yn yr ardal leol, a\u2019r problemau y dylai\u2019r elusen weithio i\u2019w gwella. Rydw i\u2019n gobeithio tynnu sylw at y problemau mae pobl ifanc a\u2019r amgylchedd lleol yn eu hwynebu, gan ei gwneud yn fwy tebygol y bydd rhywbeth yn cael ei wneud i roi sylw i\u2019r problemau hynny.<\/h6>\n
    Gall cael pobl ifanc i fod yn rhan o broses sefydliad o wneud penderfyniadau gael effaith bositif, oherwydd mae pobl ifanc yn dod \u00e2 syniadau newydd i mewn, mae eu blaenoriaethau nhw\u2019n wahanol ac maen nhw\u2019n cynnig persbectif gwahanol. Hefyd maen nhw\u2019n herio\u2019r ffordd mae\u2019r sefydliad yn gweithio gyda phobl ifanc, fel ei bod yn haws i bobl ifanc ymwneud \u00e2\u2019r sefydliad.<\/h6>\n
    Ond sut gall person ifanc ymwneud \u00e2\u2019r prosesau gwneud penderfyniadau hyn, a dylanwadu ar y ffordd mae sefydliad yn gweithio gyda phobl ifanc? Y cam cyntaf hollbwysig yw dod i adnabod pobl yn y sefydliad: mae gwirfoddoli\u2019n ffordd gr\u00eat o wneud hyn, a hefyd lleoliadau profiad gwaith, neu fe allech chi fynd i gyfarfodydd sy\u2019n agored i\u2019r cyhoedd. Pan fydd staff yn eich adnabod chi, mae\u2019n haws siarad gyda nhw am faterion sy\u2019n eich poeni chi, neu syniadau sydd gennych chi am sut gallent fod yn fwy ymwybodol o ddyheadau ac anghenion pobl ifanc. Hefyd fe allwch chi ofyn am gael bod yn rhan o weithgareddau a fydd yn dod \u00e2 chi\u2019n nes at y prosesau gwneud penderfyniadau. Er enghraifft, gallech chi gynnig cymryd rhan mewn grwpiau ffocws neu gyfarfodydd, cysgodi gwaith aelod o staff, cynnig bod yn aelod o gr\u0175p llywio ar gyfer prosiect penodol, neu holi am fod yn Ymddiriedolwr.<\/h6>\n
    Manteisiwch ar bob cyfle sy\u2019n codi a pheidiwch ag ofni creu eich cyfleoedd eich hun drwy ofyn amdanyn nhw: dydych chi byth yn gwybod i ble fydd hynny\u2019n arwain. A siaradwch gyda phobl oherwydd fe allwch chi rannu\u2019r negeseuon amgylcheddol sy\u2019n bwysig yn eich barn chi \u2013 a chael dylanwad positif ar rywun, ac fe all agor drysau i chi.<\/h6>\n
    Daliwch ati gyda\u2019r gwaith da bawb \u2013 gyda\u2019n gilydd rydyn ni\u2019n gwneud byd o wahaniaeth.<\/h6>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"

    Ellie Brown yw Ymddiriedolwr ifanc cyntaf Ymddiriedolaeth y Mileniwm Cymoedd Swydd Efrog. Dyma sut mae hi wedi cael y r\u00f4l honno.\u00a0 \u00a0 Bywyd gwyllt a\u2019r amgylchedd \u2013 dau beth pwysig iawn i mi ac roeddwn i eisiau cael effaith bositif ar iechyd y blaned yma. Fe arweiniodd hynny at ymwneud \u00e2 Green Futures, un o […]<\/p>\n","protected":false},"author":31,"featured_media":3661,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[44],"tags":[162,157,167,156],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2876"}],"collection":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/31"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2876"}],"version-history":[{"count":2,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2876\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5396,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2876\/revisions\/5396"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3661"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2876"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2876"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2876"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}