{"id":3323,"date":"2018-03-05T16:36:02","date_gmt":"2018-03-05T16:36:02","guid":{"rendered":"http:\/\/www.www.ourbrightfuture.co.uk\/cy\/?p=3323"},"modified":"2019-01-23T16:21:49","modified_gmt":"2019-01-23T16:21:49","slug":"fforwm-ieuenctid-our-bright-future-yn-cyfarfod-yn-2018","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/2018\/03\/05\/fforwm-ieuenctid-our-bright-future-yn-cyfarfod-yn-2018\/","title":{"rendered":"Fforwm Ieuenctid Our Bright Future yn cyfarfod yn 2018"},"content":{"rendered":"
\"\"Ddydd Sadwrn 3 Chwefror 2018 cyfarfu aelodau Fforwm Ieuenctid holl brosiectau Our Bright Future ledled y wlad yng Nghaerefrog. Roedd Aaron Wheeler yn un ohonyn nhw. Dyma\u2019i stori … <\/strong><\/h6>\n
Helo bois, fy enw i ydi Aaron Wheeler. Nid Alan, Darren na hyd yn oed Karen\u2026 fel rydw i wedi cael fy ngalw ar y ff\u00f4n cyn heddiw! Rydw i\u2019n 24 oed ac yn ymwneud \u00e2 phrosiect Our Bright Future yn Lerpwl, sef BEE You. Yn fy marn ragfarnllyd i, wrth gwrs, mae\u2019n brosiect rhyfeddol a phwysig sy\u2019n canolbwyntio ar gael pobl ifanc i gymryd rhan mewn … dyfalwch be …? cadw gwenyn! Yn cael ei drefnu gan elusen merched yn Lerpwl, Blackburne House, a sefydliad tai o\u2019r enw South Liverpool Homes, mae\u2019r prosiect yn cael ei gyflwyno fel cwrs hawdd ei ddilyn ond diddorol iawn. Mae hyd yn oed yn rhoi cymhwyster swyddogol i fyfyrwyr, sy\u2019n cael ei gydnabod gan y BBKA (Cymdeithas Ceidwaid Gwenyn Prydain). Nodau\u2019r prosiect ydi mynd i\u2019r afael ag ynysu cymdeithasol a rhoi sylw i\u2019r dirywiad ym mhoblogaeth y gwenyn m\u00eal ym Mhrydain. Mae\u2019r t\u00eem sy\u2019n cynnal y cwrs yn anhygoel i gyd, a rhaid crybwyll Martin, Lynne a\u2019n prif diwtor ni, Ian, yn arbennig. Os cewch chi gyfle i gfyarfod Ian, cofiwch ei holi am ei wenyn i lawr ar y rhandir!<\/h6>\n
Fel gyda\u2019r rhan fwyaf o bethau mewn bywyd, fe ddigwyddodd fy ymwneud i \u00e2\u2019r prosiect, a darganfod y cwrs, yn gwbl annisgwyl. Doeddwn i ddim yn byw yn Lerpwl ar y pryd, dim ond yn treulio penwythnosau gartref. Fe wnes i brynu\u2019r papur newydd lleol a gweld hysbyseb oedd yn cynnig cyfle i mi ymgolli mewn byd oeddwn i ond yn ei edmygu o bell yn rhy aml, neu ar uchder blodyn dant y llew. Cwrs cadw gwenyn am ddim i bobl ifanc 11 i 24 oed! Mae\u2019n bur debyg y dylwn i ddweud yma fy mod i wedi bod ag obsesiwn \u00e2 chacwn erioed; yn fy marn i, dyma\u2019r mwyaf eiconig, urddasol a hardd o\u2019r holl bryfed sydd gennym ni, gyda rhyw hyfrydwch Prydeinig henffasiwn. Mae\u2019r creaduriaid yma\u2019n dyner a dof, er gwaetha\u2019r ffordd maen nhw\u2019n cael eu portreadu mewn diwylliant pop. Gan fy mod i mor hoff ohonyn nhw, roedd yn hawdd iawn dod yn rhan o fyd rhyfeddol y gwenyn m\u00eal. A gyda\u2019r hysbyseb yma, roedd gen i gyfle nawr i chwarae rhan mewn atal dirywiad y poblogaethau o wenyn. Ac wrth gwrs, \u2018mae\u2019r gweddill yn hanes\u2019.<\/h6>\n
Drwy ddweud \u2018ie\u2019 wrth rywbeth rydych chi\u2019n teimlo\u2019n angerddol yn ei gylch, yn yr achos yma, cadw gwenyn, gall arwain at gymaint o gyfleoedd, a chyfle i gyfarfod pobl cwbl wych. Rydw i\u2019n berson eithaf swil ac yn teimlo nad ydw i\u2019n mynd ati i roi cynnig ar bethau cymaint ag y dylwn i. Ond drwy ddweud \u2018ie\u2019, rydw i wedi cael cynnig i fod yn diwtor cadw gwenyn. Sut gwnaeth hynny ddigwydd?! Hefyd, gofynnwyd i mi fod yn rhan o brosiect mwy a gweledigaeth fwy, bod yn aelod o Fforwm Ieuenctid Our Bright Future. Mae\u2019n gyfle gwych ac fe ddaeth fy ffrind Rachel a fi\u2019n gynrychiolwyr Fforwm Ieuenctid Our Bright Future ar gyfer BEE You. Mae\u2019n wahanol i bawb rwy\u2019n si\u0175r, ond i mi, mae bod yn rhan o Fforwm Ieuenctid nid yn unig yn ymwneud \u00e2 bod yn llysgennad dros yr achosion sy\u2019n eithriadol bwysig i mi, ond hefyd yn gyfle i gynrychioli lle sy\u2019n gartref i mi a\u2019r bobl sy\u2019n byw yno. Mae acenion, llefydd, oedrannau, labelau, swyddi, ysgolion a chyfryngau yn gallu ein gwahanu ni i gyd ac, ar adegau, rydyn ni braidd yn euog o fod yn gaeth i\u2019n ffonau ac anghofio am y byd go iawn.<\/h6>\n
Felly, mewn dim o dro, roedd Rachel a fi ar dr\u00ean cynnar yn y bore i Gaerefrog, yn trafod syniadau ac yn llawn brwdfrydedd. Roedden ni\u2019n mynd i gyfarfod y Fforwm Ieuenctid, cyfarfod MAWR o lawer o brosiectau amgylcheddol, a phob un wedi\u2019u cysylltu drwy raglen Our Bright Future.<\/h6>\n
Fe wnaethon ni gyrraedd gwesty mawr oedd yn edrych fel rhywbeth allan o lun Georgaidd, gyda phortread enfawr o Marie-Antoinette ifanc yn hongian yn y cyntedd. Deg allan o ddeg i\u2019r lleoliad oedd y farn! Ac roedd hyn cyn cael y bwyd blasus gawson ni!<\/h6>\n
Dyma gyrraedd y neuadd ac roedd Jenna a John yno i\u2019n cyfarfod ni. Roedden nhw mor hyfryd a chroesawgar. Roeddwn i\u2019n gwybod bod hwn yn mynd i fod yn ddiwrnod positif iawn. Fe wnaethon ni eistedd wrth fwrdd gyda dau aelod arall o\u2019r Fforwm Ieuenctid, oedd yn dod o Lundain a Chanolbarth Lloegr. Dim ond pan wnaeth y cynrychiolwyr ddechrau cymryd eu tro i gyflwyno eu prosiectau wnes i wirioneddol deimlo bod Our Bright Future wir yn fudiad cenedlaethol dros newid amgylcheddol. Roedd mor ysbrydoledig gweld pobl ifanc swil eraill yn s\u00f4n am eu hymdrechion yn yr amser oedd ar gael i ni. Roeddwn i\u2019n teimlo ei bod yn fraint ac yn bleser cael bod yno gyda phawb. Pan wnes i a Rachel godi a chymryd y baton, fe aeth y 3 awr o waith paratoi allan drwy\u2019r ffenest \u2013 i mi beth bynnag! Gobeithio ein bod ni wedi cyflwyno\u2019r negeseuon hanfodol!<\/h6>\n
Fe wnaeth y gweithgareddau drwy gydol y dydd ddod \u00e2 ni at ein gilydd fel uned. Roeddwn i wrth fy modd yn cael cyfle i gyfarfod cymaint o bobl ifanc frwd oedd yn teimlo mor gryf a phenderfynol am yr amgylchedd \u00e2 fi! I gloi, diwrnod gwych, pobl gr\u00eat, amser gwerthfawr i wneud cynlluniau a methu aros i gyfarfod pawb eto\u2019n fuan iawn!<\/h6>\n
Dyma #OurBrightFuture ac rydyn ni\u2019n#OwningIt!<\/h6>\n

<\/h4>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"

Ddydd Sadwrn 3 Chwefror 2018 cyfarfu aelodau Fforwm Ieuenctid holl brosiectau Our Bright Future ledled y wlad yng Nghaerefrog. Roedd Aaron Wheeler yn un ohonyn nhw. Dyma\u2019i stori … Helo bois, fy enw i ydi Aaron Wheeler. Nid Alan, Darren na hyd yn oed Karen\u2026 fel rydw i wedi cael fy ngalw ar y ff\u00f4n […]<\/p>\n","protected":false},"author":32,"featured_media":4630,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[44],"tags":[311,312,149,168],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3323"}],"collection":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/32"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3323"}],"version-history":[{"count":2,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3323\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5397,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3323\/revisions\/5397"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4630"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3323"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3323"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3323"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}