{"id":3345,"date":"2018-03-08T14:00:15","date_gmt":"2018-03-08T14:00:15","guid":{"rendered":"http:\/\/www.www.ourbrightfuture.co.uk\/cy\/?p=3345"},"modified":"2019-01-23T16:25:07","modified_gmt":"2019-01-23T16:25:07","slug":"cefnogi-a-grymuso-tomorrows-natural-leaders","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/2018\/03\/08\/cefnogi-a-grymuso-tomorrows-natural-leaders\/","title":{"rendered":"Cefnogi a Grymuso \u2018Tomorrow\u2019s Natural Leaders\u2019"},"content":{"rendered":"
\"\"Mae Georgina Umney yn cymryd rhan yn rhaglen Tomorrow\u2019s Natural Leaders 2017-18 Ymddiriedolaeth Natur Sir Efrog\u00a0 <\/strong><\/h6>\n
\u2018One person can make a difference to the world and everyone should try\u2019. Mae\u2019r dyfyniad didwyll yma gan J.F. Kennedy yn ffynhonnell o ysbrydoliaeth a rhwystredigaeth i lawer o bobl ifanc sydd ag ymwybyddiaeth amgylcheddol ledled Prydain. Mewn byd o gyswllt lle mae newyddion am drychinebau amgylcheddol yn amhosib ei osgoi, mae\u2019r cyfarwyddyd gonest am beth ellir ei wneud yn gallu ymddangos yn syndod o brin. Er gwaetha\u2019r amrywiaeth gyfoethog o swyddi sy\u2019n ofynnol i gynnal ymdrechion hinsawdd a chadwraeth Prydain, mae\u2019r llwybr at weithredu amgylcheddol yn aneglur mewn ysgolion yn aml. Yn gyffredinol, mae gyrfaoedd mewn cadwraeth yn cael eu cyflwyno fel rhai ymarferol, gwyddonol, addysgiadol neu ddi-d\u00e2l a bob amser bron yn cael eu rheoli gan allu academaidd. I\u2019r amgylcheddwyr ifanc mwyaf brwd hyd yn oed, mae\u2019r rhwystrau ariannol, addysgol neu gymdeithasol dirifedi sy\u2019n atal cyflogaeth yn gallu bod yn ddigon i ddigalonni ac atal dyfodol a allai newid y byd o bosib.<\/h6>\n
Er mor greiddiol yw\u2019r ugain mlynedd nesaf o ran diffinio ein dyfodol amgylcheddol, mae sicrhau bod pob person ifanc angerddol yn cael cyfle i gyfrannu ei ymdrechion o bwysigrwydd cenedlaethol. Dylai addysg amgylcheddol fod mor gyffrous ac amrywiol \u00e2\u2019r myfyrwyr eu hunain, gan roi sylw i amrywiaeth o sgiliau rhyng-gysylltiol, o reolaeth ymarferol a gwaith theori i gydweithredu ac ymgyrchu. Hyd yn oed i\u2019r rhai sy\u2019n ennill graddau baglor a meistr, pur anaml mae\u2019r llwybr at wneud gwahaniaeth yn glir, oherwydd mae cyfleoedd am swyddi lefel mynediad cyfyngedig yn hynod gystadleuol ac, yn y pen draw, maent yn gorfodi pobl ifanc i fywyd crwydrol, gan orfod adleoli pan fydd gwaith ar gael, boed yn waith am gyflog neu ddi-d\u00e2l. Mae llawer o\u2019r swyddi\u2019n rhai rhan amser, tymor byr a gwledig, gan eich ynysu yn aml oddi wrth bobl ifanc o\u2019r un feddylfryd. Mae\u2019n ymddangos yn ddefnydd aneffeithlon o sgiliau hanfodol ac ymrwymiad sydd ar gael i\u2019r sector amgylcheddol. Yng nghanol cystadlu brwd, mae cyfweliadau\u2019n cael eu blaenoriaethu i ymgeiswyr ag addysg uwch a phrofiad gwirfoddol, gan gadarnhau\u2019r rhaniad llafur yn y sector amgylcheddol.<\/h6>\n
Ond beth os yw pysgotwr yn teimlo\u2019n angerddol am eiriolaeth, neu awdur \u00e2 thalent sydd ddim yn cael ei defnyddio fel warden? Drwy ddefnyddio angerdd fel sail i addysg, yn hytrach na chefndir academaidd, gallai sefydliadau greu cae chwarae teg i bobl ifanc o bob cefndir a gallu gyfarfod a chreu cynghreiriau, wedi\u2019u grymuso gan adnoddau ar gyfer cydweithredu. Bydd y problemau cyflogaeth mae pobl ifanc yn eu hwynebu, a\u2019r heriau amgylcheddol rydyn ni i gyd yn eu hwynebu, yn gofyn am ddatrysiadau hynod greadigol a sgiliau sy\u2019n gorgyffwrdd o bob cefndir mewn bywyd, gan gynnwys artistiaid, gwyddonwyr, ffermwyr, pysgotwyr, merched a wardeniaid yn dod at ei gilydd ac yn gweithredu newid real a llwyr.<\/h6>\n
Ar hyn o bryd mae Ymddiriedolaeth Natur Sir Efrog yn treialu cynllun o\u2019r fath drwy addysgu naw deg chwech o ieuenctid 16 i 25 oed dros gyfnod o bedair blynedd. Mae Tomorrow\u2019s Natural Leaders yn dod \u00e2 llysgenhadon ifanc o oedrannau, cefndiroedd a lefelau profiad amrywiol at ei gilydd gan wella eu sgiliau a\u2019u grymuso i ysbrydoli pobl ifanc eraill ac aelodau eu cymuned i weithredu gyda phrosiectau ac ymgyrchoedd amgylcheddol lleol ledled Sir Efrog. Rhwng dwy fferm, dwy warchodfa natur a chanolfan addysg forol, mae profiad pob hyfforddai\u2019n unigryw, yn dibynnu ar ei leoliad, ei ddiddordebau a\u2019i frwdfrydedd. Mae cynghreiriau cyffrous yn cael eu ffurfio wrth i bobl ifanc o feysydd fel llenyddiaeth Saesneg, addysg awyr agored, ffermio, ffotograffiaeth, coedwigaeth, hwsmonaeth anifeiliaid a chelf ddod at ei gilydd ar gyfer ymarferion ymarferol, dysgu gr\u0175p a phrosiectau hunan-arwain. Mae rhai wedi teithio, mae rhai\u2019n raddedigion ac efallai nad yw rhai wedi cael yr un o\u2019r cyfleoedd hyn, ond maen nhw i gyd yn uchelgeisiol, brwdfrydig ac agored i gydweithredu, ar \u00f4l cael eu dewis yn seiliedig ar werthfawrogiad cyfartal o fyd natur a dyhead i wneud gwahaniaeth.<\/h6>\n
Mae\u2019r rhaglen hon yn un o blith 31 o brosiectau Our Bright Future ledled y wlad sy\u2019n cael eu gweithredu gyda chyllid o\u2019r Gronfa Loteri Fawr er mwyn grymuso 100,000 o bobl ifanc i ddod yn ddinasyddion medrus a brwd a fydd yn hyderus i gydweithio tuag at blaned iach, economi ffyniannus a dyfodol disglair. Mae\u2019r prosiect pum mlynedd uchelgeisiol hwn yn agos\u00e1u at ragori ar y targed hwnnw, gyda help ymgyrch #OwningIt<\/em> #OurBrightFuture<\/em>. Mae\u2019r ymgyrch yma\u2019n galluogi amgylcheddwyr ifanc Prydain i rannu syniadau, dysgu sgiliau newydd a chysylltu ag eraill drwy greu llwyfan ar gyfer eu mentrau amgylcheddol ar gyfryngau cymdeithasol. Wedi\u2019i lansio ym mis Hydref, defnyddiwyd #OurBrightFuture<\/em> ar Instagram 447 o weithiau yn ystod y mis cyntaf, gan gyrraedd mwy nag 1 miliwn o gyfrifon ac fe gyrhaeddodd #OwningIt <\/em>ddwywaith y nifer yma erbyn mis Rhagfyr. Mae\u2019r negeseuon yma\u2019n atgoffa dilynwyr bod eu hymdrechion, sut a ble bynnag maen nhw\u2019n gweithio dros natur ledled Prydain, yn rhan amhrisiadwy o ddarlun mwy.<\/h6>\n
Yn ei ail flwyddyn bellach, mae prosiect Tomorrow\u2019s Natural Leaders eisoes wedi gweld tri chyfranogwr yn symud ymlaen i waith cyflogedig gydag Ymddiriedolaeth Natur Sir Efrog, helpu 81% o gyfranogwyr i gael cyflogaeth yn rhywle arall ac ysbrydoli a denu mwy na 740 o bobl ifanc eraill. Mae manteision sefydliadol i\u2019w cael o gynnig mwy o swyddi lefel mynediad sy\u2019n dod \u00e2 brwydfrydedd meddwl agored ac ysbrydoliaeth ffres i\u2019r sector, gan rymuso pobl ifanc hynod fedrus i gyfrannu tuag at waith ystyrlon. Rhaid i fwy o sefydliadau fod yn fodlon helpu pobl ifanc i helpu eu hunain, drwy hysbysebu cyfleoedd dysgu heb wahaniaethu, cydweithredu a sicrhau cyflogaeth gyda th\u00e2l. Gyda chefnogaeth strwythuredig gan sefydliadau profiadol, gallai Prydain ddatblygu rhwydwaith hunangynhaliol o amgylcheddwyr ifanc amldalentog sy\u2019n cydweithio i fynd i\u2019r afael \u00e2 newid hinsawdd, heb unrhyw berson angerddol ar \u00f4l i ofyn y cwestiwn, \u2018beth alla\u2019 i ei wneud?\u2019<\/h6>\n

 <\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"

Mae Georgina Umney yn cymryd rhan yn rhaglen Tomorrow\u2019s Natural Leaders 2017-18 Ymddiriedolaeth Natur Sir Efrog\u00a0 \u2018One person can make a difference to the world and everyone should try\u2019. Mae\u2019r dyfyniad didwyll yma gan J.F. Kennedy yn ffynhonnell o ysbrydoliaeth a rhwystredigaeth i lawer o bobl ifanc sydd ag ymwybyddiaeth amgylcheddol ledled Prydain. Mewn byd […]<\/p>\n","protected":false},"author":33,"featured_media":5293,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[44],"tags":[333,140,182,339,168,149],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3345"}],"collection":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/33"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3345"}],"version-history":[{"count":2,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3345\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5398,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3345\/revisions\/5398"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/5293"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3345"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3345"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3345"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}