{"id":3448,"date":"2018-04-19T15:01:32","date_gmt":"2018-04-19T14:01:32","guid":{"rendered":"http:\/\/www.www.ourbrightfuture.co.uk\/cy\/?p=3448"},"modified":"2019-01-23T16:25:02","modified_gmt":"2019-01-23T16:25:02","slug":"dathlu-llwyddiant-gwirfoddolwyr-eco-talent-vinspired","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/2018\/04\/19\/dathlu-llwyddiant-gwirfoddolwyr-eco-talent-vinspired\/","title":{"rendered":"Dathlu llwyddiant gwirfoddolwyr Eco-Talent vInspired"},"content":{"rendered":"
\"\"Mae Eco Talent<\/a> gan vInspired<\/a> yn rhaglen wirfoddoli am chwe mis ar gyfer ieuenctid 16 i 24 oed ac mae\u2019n gyfle iddyn nhw ddatblygu sgiliau a phrofiadau o fyd go iawn er mwyn llwyddo yn y sector amgylcheddol. Dyma Jenna Hannon, Cydlynydd Prosiect, yn rhannu stori graddiad gr\u0175p tri.<\/strong><\/h6>\n
Mae\u2019r prosiect yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth \u00e2 Choleg Barking a Dagenham<\/a>, Cyngor Harrow<\/a> a Chyngor Ealing<\/a>, ac mae\u2019n un o 31 o brosiectau sy\u2019n cael eu cyflwyno ledled y wlad fel rhan o Our Bright Future \u2013 mudiad cymdeithasol sy\u2019n cefnogi pobl ifanc i greu newid yn eu cymunedau a\u2019u hamgylchedd lleol.<\/h6>\n
Ar 23 Mawrth 2018, fe wnaethom ddathlu cyflawniad enfawr gwirfoddolwyr gr\u0175p tri a raddiodd o\u2019r rhaglen. Yn cael ei gynnal yn y Shakespeare Globe yn Llundain gyda golygfa hyfryd o\u2019r balconi dros Afon Tafwys, roeddem yn croesi ein bysedd am dywydd da ar gyfer y dathliad, a \u2019chawson ni mo\u2019n siomi! Roedd yn ddiwrnod hyfryd.<\/h6>\n
Roedd angen ffrogiau crand a siwtiau smart ar gyfer y digwyddiad ac, ar \u00f4l i deulu a ffrindiau fynd i\u2019w seddau, cychwynnodd Coleg Barking a Dagenham y dathliad mewn steil gydag aelod o\u2019r Fforwm Ieuenctid, Jake, a gwirfoddolwr arall, Bradley, yn cyflwyno\u2019u hunain ac yn siarad am uchafbwyntiau\u2019r rhaglen iddyn nhw. Roedd yn bleser gweld cymaint o luniau o\u2019r chwe mis diwethaf a chawsom weld dau fideo hyd yn oed, yn cofnodi eu prosiectau gweithredu cymdeithasol ac amgylcheddol anhygoel yn y coleg. Un oedd Go Vegan, gyda\u2019r gwirfoddolwyr ifanc yn rhannu samplau o fwyd fegan i fyfyrwyr ac yn eu haddysgu am effeithiau amgylcheddol positif posib deiet fegan, ac wedyn The Park, gyda\u2019r gwirfoddolwyr ifanc yn plannu llwybr gardd synhwyraidd i fyfyrwyr ag anableddau ei fwynhau. Ar \u00f4l canmol llawer ar y gr\u0175p, derbyniodd y bobl ifanc eu tystysgrifau graddio ac roedd cyfle i ysgwyd llaw \u00e2 Phrif Weithredwr vInspired, Jessica Taplin.<\/h6>\n
Wedyn cyflwynodd Cyngor Harrow eu hunain, gyda phawb oedd wedi graddio\u2019n s\u00f4n am eu cyfnod fel rhan o\u2019r rhaglen. Roedd y gwirfoddolwyr ifanc newydd orffen adnewyddu gofod awyr agored mewn canolfan leol i blant ac roedden nhw\u2019n gyffrous iawn am rannu eu lluniau cyn ac ar \u00f4l y gwaith caled. Roedd yn bleser hefyd cael cwmni un o raddedigion gr\u0175p dau Eco-Talent, Daryl, oedd wedi bod yn cefnogi\u2019r gwaith o gyflwyno\u2019r rhaglen, a\u2019r Rheolwr Datblygu Gweithredu Cymdeithasol a Gwirfoddoli Ieuenctid, Ali Abdu, i siarad am y cyfleoedd gwych i\u2019r gwirfoddolwyr. Mae Charlotte yn benodol, gyda\u2019i gw\u00ean a\u2019i brwdfrydedd heintus, eisoes yn trafod gydag Ali er mwyn parhau \u00e2\u2019i gwaith rhagorol yn y ganolfan ieuenctid, ar \u00f4l cael effaith enfawr ar y bobl ifanc eraill sy\u2019n mynd yno. Hefyd cafodd goflaid fawr gan ymddiriedolwr vInspired, Joan Watson, a gyflwynodd eu tystysgrifau graddio i\u2019r holl fyfyrwyr.<\/h6>\n
Yn cloi\u2019r digwyddiad roedd Cyngor Ealing, gyda phawb wedi paratoi eu stori unigol eu hunain ynghylch pam roedden nhw wedi ymuno \u00e2\u2019r rhaglen a\u2019r siwrnai roedden nhw wedi bod arni. Rydw i\u2019n credu ei bod yn deg dweud bod pob stori\u2019n arbennig iawn, gyda phawb yn dweud nad oedden nhw\u2019n awyddus i ddechrau ar y rhaglen, ond yn edrych yn \u00f4l nawr ar gymaint o foddhad roedden nhw wedi\u2019i gael, gan eu paratoi ar gyfer y camau nesaf positif. Siaradodd Tahiri yn agored am sut roedd yn meddwl nad oedd garddio a gwirfoddoli yn ei \u2018siwtio hi\u2019 ond, ar \u00f4l dechrau arni ar greu gardd ganoloesol fechan ym Mharc Gunnersbury ar gyfer ei phrosiect gweithredu cymdeithasol, gwelodd ei bod yn mwynhau\u2019n fawr. Roedd hyn yn profi iddi ei bod yn gallu ymdopi y tu allan i\u2019r ffiniau sy\u2019n gyfforddus iddi yn ei thyb hi. Hefyd siaradodd Tara am sut roedd wedi derbyn r\u00f4l arwain, gan gyflwyno sesiwn uwchgylchu mewn ysgol gynradd leol a defnyddio ei thalentau artistig a chreadigrwydd. Roedd hyn wedi gwneud iddi feddwl am yrfa yn y dyfodol mewn gwaith ieuenctid. Roedden ni\u2019n falch iawn o weld Anna Heathcote o Our Bright Future yn bresennol, gan gyflwyno eu tystysgrifau graddio i bob un o wirfoddolwyr Cyngor Ealing.<\/h6>\n
Wedyn, fe wnaeth graddedigion Ealing feddiannu Spotify fel DJs am weddill y digwyddiad, a bu pawb yn mwynhau moct\u00eals a chanap\u00e9 neu ddau! Rydyn ni mor falch o raddedigion gr\u0175p tri a\u2019u cyflawniadau i gyd, yn ogystal \u00e2\u2019r effaith enfawr mae eu prosiectau gweithredu cymdeithasol amgylcheddol wedi\u2019i chael, ac y bydd yn parhau i\u2019w chael, ar y gymuned ehangach. Dymunwn bob llwyddiant iddyn nhw i gyd ar gyfer y dyfodol.<\/h6>\n
Er bod gr\u0175p tri wedi graddio yn awr, rydyn ni\u2019n edrych ymlaen at groesawu gr\u0175p newydd ac olaf o bobl ifanc i Eco-Talent vInspired, sy\u2019n dechrau eto ym mis Mehefin. Mae\u2019n rhaglen wirfoddoli lawn amser sy\u2019n cynnwys lleoliad, cymhwyster amgylcheddol a chyfle i arwain prosiect gweithredu cymdeithasol amgylcheddol yn y gymuned. Rydyn ni\u2019n edrych ymlaen yn fawr iawn at fynd yn \u00f4l ati i wirfoddoli a gobeithio y bydd ein gwirfoddolwyr newydd ni i gyd yn cael cymaint o hwyl!<\/h6>\n
Mae mwy o wybodaeth am Eco-Talent vInspired ar gael yma<\/a>.<\/h6>\n

\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"

Mae Eco Talent gan vInspired yn rhaglen wirfoddoli am chwe mis ar gyfer ieuenctid 16 i 24 oed ac mae\u2019n gyfle iddyn nhw ddatblygu sgiliau a phrofiadau o fyd go iawn er mwyn llwyddo yn y sector amgylcheddol. Dyma Jenna Hannon, Cydlynydd Prosiect, yn rhannu stori graddiad gr\u0175p tri. Mae\u2019r prosiect yn cael ei gyflwyno […]<\/p>\n","protected":false},"author":34,"featured_media":5295,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[44],"tags":[314,252,336,251],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3448"}],"collection":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/34"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3448"}],"version-history":[{"count":4,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3448\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5457,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3448\/revisions\/5457"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/5295"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3448"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3448"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3448"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}