{"id":3739,"date":"2018-06-14T10:20:47","date_gmt":"2018-06-14T09:20:47","guid":{"rendered":"http:\/\/www.www.ourbrightfuture.co.uk\/cy\/?p=3739"},"modified":"2019-01-23T16:24:57","modified_gmt":"2019-01-23T16:24:57","slug":"kimberley-ac-adam-yn-mynd-ir-briodas-frenhinol","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/2018\/06\/14\/kimberley-ac-adam-yn-mynd-ir-briodas-frenhinol\/","title":{"rendered":"Kimberley ac Adam yn mynd i\u2019r Briodas Frenhinol!"},"content":{"rendered":"
Mae Carlisle Undercroft yn un o bron i 50 o brosiectau hyd yma sydd wedi derbyn cyllid gan Spaces4Change, prosiect gan Our Bright Future, sy\u2019n cael ei gyflwyno gan UnLtd. Mae Kimberley wedi bod yn gweithio\u2019n ddiflino i wella \u2018Carlisle Undercroft\u2019 ac ar Fai 19 cafodd hi a\u2019i phartner, Adam, y gydnabyddiaeth fwyaf anhygoel am eu hymdrechion!<\/strong><\/span><\/p>\n \u00a0<\/em>\u2018Fel rhan o gr\u0175p o 1,200 o aelodau\u2019r cyhoedd sydd wedi cael eu henwebu am gryfder eu cyfraniad i\u2019w cymuned leol, mae gwahoddiad i chi ddod i mewn i diroedd Castell Windsor.\u2019<\/em> – Dyfyniad o\u2019r gwahoddiad brenhinol wedi\u2019i gyfieithu<\/span><\/p>\n \u00a0<\/em>Efallai eich bod chi\u2019n meddwl tybed sut oeddwn i\u2019n teimlo pan dderbyniais i lythyr i\u2019r briodas frenhinol? Methu credu \u2013 wedi drysu \u2013 cyffrous. Ond un cwestiwn pwysig, pam?\u00a0<\/span><\/p>\n Ble ddechreuodd y cyfan? <\/strong><\/span><\/p>\n \u00a0<\/strong>Fe gefais i wahoddiad oherwydd fy ngwaith i gyda<\/span> Carlisle Undercroft<\/a><\/span>; fe benderfynais i fynd \u00e2 fy mhartner Adam Hughes, sydd wedi gweithio ochr yn ochr \u00e2 mi yn ystod y 12 mis diwethaf ar y prosiect, gyda mi.<\/span><\/p>\n Yn ofod gwag, rhestredig gradd II o dan orsaf drenau Caerliwelydd ar un adeg, fe ddaw Carlisle Undercroft yn lleoliad amlbwrpas ar gyfer digwyddiadau diwylliannol yn Cumbria, gan gynnwys perfformiadau, arddangosfeydd celf, helfeydd ysbrydion a llawer o ddigwyddiadau eraill.<\/span><\/p>\n Dechreuodd y prosiect ym mis Tachwedd 2016 pan welais i hysbyseb ar-lein ar gyfer rhaglen Spaces 4 Change<\/a> UnLtd. Mae Spaces 4 Change yn cyllido, cefnogi a chysylltu pobl ifanc 16 i 24 oed i sefydlu a gweithredu mentrau cymdeithasol sy\u2019n datgloi potensial gofod segur sy\u2019n cael ei danddefnyddio er lles y gymuned leol, yn enwedig pobl ifanc. Roeddwn i eisoes wedi gweithio yn y gofod gyda gr\u0175p celfyddydol cymunedol o Gaerliwelydd,<\/span> Dance Ahead<\/a><\/span>, ac roeddwn i\u2019n meddwl tybed pam nad oedd y gofod yn cael mwy o ddefnydd.\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0 \u00a0<\/span><\/p>\n Fe welais i y gallai Spaces 4 Change fod yn gyfle perffaith i brynu offer ar gyfer y gofod ac edrych ar wahanol opsiynau ar gyfer y lleoliad oedd wedi\u2019i anghofio. Roeddwn i\u2019n ddigon ffodus o gael y dyfarniad a symud ymlaen gyda\u2019r cynlluniau ar gyfer y gofod, ac fe ddatblygodd pethau o hynny.<\/span><\/p>\n Ers derbyn \u00a35,000 o gyllid gan Spaces 4 Change, rydw i wedi gweithio gyda llawer o fusnesau lleol, gan gynnwys fy mhensaer i, Rod Hughes o<\/span> 2030 architects<\/a>.<\/span> Gyda\u2019n gilydd rydyn ni wedi gweithio\u2019n galed i gael y caniat\u00e2d cyfreithiol gofynnol a sefydlu strwythur cyfreithiol ar gyfer y lleoliad.<\/span><\/p>\n Mae llawer o waith i\u2019w wneud eto ac rydyn ni\u2019n ceisio codi arian i greu mwy o ymwybyddiaeth o\u2019r lleoliad a sut gall y gymuned gyfan wneud defnydd ohono.\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0<\/span><\/p>\n Beth sydd wedi digwydd ers i mi dderbyn fy ngwahoddiad i\u2019r briodas frenhinol? <\/strong><\/span><\/p>\n \u00a0<\/strong>Mae\u2019r cyfleoedd codi ymwybyddiaeth wedi bod yn anhygoel. Rydyn ni wedi cael llawer o sylw rhyngwladol, nid yn unig am gael gwahoddiad i\u2019r briodas ond hefyd, yn bwysicach na dim, oherwydd pam gawsom ni wahoddiad. Mae\u2019r rhain yn cynnwys<\/span> ABC News<\/a>, Sky news<\/a>, ITV Border<\/a><\/span>, BBC Look North, Sept-a-Huit (cwmni darlledu o Ffrainc), BBC Radio 1, BBC Radio 5 Live, a llawer o<\/span> bapurau newydd lleol<\/a>.<\/span> Mae pob cyhoeddiad wedi rhannu ein stori ni ac wedi dangos pwysigrwydd ein gwaith yn Carlisle Undercroft. Mae wedi bod yn syndod mawr.\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0<\/span><\/p>\n Pan welson ni faint o bobl oedd \u00e2 diddordeb yn ein prosiect ni, fe wnaethon ni benderfynu lansio tudalen<\/span> codi arian torfol<\/a> <\/span>ar JustGiving. Bydd pawb sy\u2019n rhoi cyfraniad hael o \u00a350 neu fwy i\u2019r dudalen yma\u2019n cael eu bricsen bersonol yn ein wal ddiolch ni. Mae\u2019r syniad wedi bod yn eithriadol boblogaidd ac mae mwy na 30 o enwau ar ein wal ni eisoes.<\/span><\/p>\n