{"id":3741,"date":"2018-06-14T10:26:24","date_gmt":"2018-06-14T09:26:24","guid":{"rendered":"http:\/\/www.www.ourbrightfuture.co.uk\/cy\/?p=3741"},"modified":"2019-01-23T16:24:50","modified_gmt":"2019-01-23T16:24:50","slug":"adfywio-a-bwytan-iach-yn-berwick","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/2018\/06\/14\/adfywio-a-bwytan-iach-yn-berwick\/","title":{"rendered":"Adfywio a bwyta\u2019n iach yn Berwick"},"content":{"rendered":"
Y mis yma mae gennym ni flog dwbl ar eich cyfer chi! Mae prosiect<\/span> Spaces 4 Change<\/a> Our Bright Future yn cael ei gyflwyno gan<\/span> UnLtd<\/a>. Dyma raglen ledled y DU sy\u2019n canfod, cyllido, cefnogi a chysylltu pobl ifanc 16 i 24 oed i sefydlu a gweithredu mentrau cymdeithasol sy\u2019n datgloi potensial gofod segur sy\u2019n cael ei danddefnyddio er lles y gymuned leol, yn enwedig pobl ifanc eraill. Y mis yma bydd cyfle i chi weld amrywiaeth y prosiectau mae pobl ifanc yn arloesi \u00e2 hwy. <\/span><\/strong><\/p>\n \u201cRoeddwn i eisiau i\u2019r dref fod yn berchen arno. Doeddwn i ddim eisiau iddo fe fod yn rhywbeth roeddwn i wedi ei wneud, ond yn rhywbeth roedden \u2018ni\u2019 wedi\u2019i wneud\u201d, dywedodd Millie, \u201cRoeddwn i eisiau creu rhyw fath o momentwm dros newid yn y dref\u201d.<\/span><\/p>\n Mae Millie yn un o gydsylfaenwyr<\/span> Northern Soul Kitchen<\/a>, menter gwastraff bwyd a chaffi talu fel rydych yn teimlo yng nghalon Berwick-upon-Tweed. Mae\u2019r prosiect, sy\u2019n agor ei ddrysau yn nes ymlaen y mis yma, wedi\u2019i leoli mewn siop a arferai fod yn wag.<\/span><\/p>\n Gan ddefnyddio bwyd heb ei werthu o\u2019r siopau lleol yn Berwick, y nod yw creu bwyd iach mewn amgylchedd croesawus. Mae cwsmeriaid yn talu beth bynnag maent yn ei feddwl yw gwerth y bwyd, sy\u2019n sicrhau ei fod ar gael i bobl na fyddent yn gallu ei fforddio fel arall efallai. Mae cyfle i chi wirfoddoli eich amser a\u2019ch sgiliau i dalu am bryd bwyd hyd yn oed.<\/span><\/p>\n Y syniad gwreiddiol oedd pop-yp gwastraff bwyd ym marchnad Nadolig Berwick yn 2015. Ond fe ddechreuodd y t\u00eem feddwl ar raddfa fwy yn fuan iawn. Ar \u00f4l dwy flynedd o pop-yps a digwyddiadau bychain, cafwyd cefnogaeth gan raglen Spaces 4 Change UnLtd ac wedyn roedd modd i Northern Soul Kitchen sefydlu gwreiddiau parhaol. \u00a0\u00a0\u00a0<\/span><\/p>\n Mae Spaces4Change yn cefnogi ieuenctid 16 i 24 oed i ddatgloi potensial gofod sy\u2019n cael ei danddefnyddio neu\u2019n wag. Cyllidir y rhaglen gan y Gronfa Loteri Fawr drwy Our Bright Future.<\/span><\/p>\n Roedd cyn-gartref Tweed Televisions wedi cael ei adael yn adfail ers pedair blynedd. Diolch i Millie a\u2019i chydsylfaenydd Harriet, mae wedi cael bywyd newydd fel cartref i Northern Soul Kitchen.<\/span><\/p>\n Pam dechrau?<\/strong><\/span><\/p>\n Mae Northern Soul Kitchen yn gysyniad syml, yn \u00f4l Millie, \u201cRydyn ni\u2019n cymryd y bwyd heb ei werthu cyn iddo gael ei daflu ac yn creu prydau bwyd talu fel rydych yn teimlo allan ohono\u201d. Mae\u2019r \u2018pam\u2019 tu \u00f4l i\u2019r syniad yn gymhlethach.\u00a0<\/span><\/p>\n Ar \u00f4l cyfarfod gyda\u2019r<\/span> ymddiriedolaeth gymunedol leol<\/a> yn Berwick, gwelwyd bod gwir angen am brosiect cymdeithasol cynaliadwy i gefnogi pobl yn y gymuned.\u00a0<\/span><\/p>\n \u201cDoes gennym ni ddim pobl yn cysgu ar y stryd o angenrheidrwydd, ond mae criw cudd o bobl nad ydych chi\u2019n eu gweld efallai,\u201d dywedodd Millie, \u201cRoedd ein lloches ni i ferched yn orlawn bryd hynny. Ac roedd y banc bwyd yn cael ei ddefnyddio bob dydd a dyblodd mewn dwy flynedd.\u201d<\/span><\/p>\n Mae\u2019r ystadegau\u2019n dangos<\/span> cynnydd mewn tlodi plant ledled Northumbria<\/a>, gyda rhannau o Berwick ymhlith yr ardaloedd sydd wedi\u2019u heffeithio waethaf.<\/span><\/p>\n I Millie roedd rhaid i rywbeth newid: \u201cRoeddwn i\u2019n meddwl ei bod hi\u2019n hen bryd i rywun fynd i\u2019r afael \u00e2 hyn a chreu rhywbeth. Yn lle aros i\u2019r dref a\u2019r cyngor wneud rhywbeth i ni, beth am i ni weithredu.\u201d<\/span><\/p>\n \u00a0<\/strong>Y gymuned yn rhan ganolog<\/strong><\/span><\/p>\n \u00a0<\/strong>Mae Northern Soul Kitchen wedi tyfu o\u2019r gymuned mae\u2019n ei chefnogi. Fel y dref fwyaf gogleddol yn Lloegr, gall Berwick deimlo\u2019n bell, meddai Millie. Roedd sefydlu cartref parhaol i Northern Soul Kitchen yn newid meddyliol yn ogystal \u00e2 ffisegol. \u201cRoeddwn i\u2019n gobeithio y byddai\u2019n cyfleu\u2019r neges bod hyn yn gwbl bosib a\u2019n bod ni\u2019n fwy na rhyw dref sydd wedi\u2019i hanghofio y mae\u2019n rhaid i\u2019r cyngor ei helpu.\u201d<\/span><\/p>\n Bydd Northern Soul Kitchen yn ofod cymunedol cydweithredol. Mae\u2019n cyd-fynd ag ethos Millie o gynnwys y gymuned.\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0<\/span><\/p>\n