{"id":3913,"date":"2018-07-09T12:30:03","date_gmt":"2018-07-09T11:30:03","guid":{"rendered":"http:\/\/www.www.ourbrightfuture.co.uk\/cy\/?p=3913"},"modified":"2019-01-07T14:17:47","modified_gmt":"2019-01-07T14:17:47","slug":"synnu-yng-nghymru-seminar-our-bright-future-2018","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/2018\/07\/09\/synnu-yng-nghymru-seminar-our-bright-future-2018\/","title":{"rendered":"Synnu yng Nghymru: Seminar Our Bright Future 2018"},"content":{"rendered":"
\"\"Fis diwethaf cafodd seminar flynyddol Our Bright Future 2018 ei chynnal. Ymgasglodd aelodau o staff a\u2019r Fforwm Ieuenctid o bob cwr o\u2019r DU yng Nghaerdydd i ddathlu\u2019r rhaglen, dysgu oddi wrth ei gilydd a chynllunio ymlaen. Dyma\u2019r Cydlynydd Rhannu Dysgu Gwella, Abi Paine, i rannu ei phrofiad. <\/strong><\/h6>\n
Union fis i\u2019r diwrnod wedi i mi ddechrau fel Cydlynydd Rhannu Dysgu Gwella gydag Our Bright Future, roeddwn i\u2019n sefyll wrth ddrysau\u2019r drydedd seminar pob prosiect flynyddol yn disgwyl i\u2019r 31 prosiect roeddwn i wedi clywed cymaint amdanyn nhw gyrraedd. Ac waw! Fe gefais i fy synnu!<\/h6>\n
Roedd y bwrlwm o egni oedd yn cynyddu wrth i bob person neu d\u00eem gyrraedd yr ystafell yn anhygoel \u2013 pobl yn cyfarch ei gilydd fel hen ffrindiau, yn cyflwyno staff newydd ac yn trafod beth oedd wedi digwydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Roedd rhai\u2019n gwisgo crysau-T yn arddangos logos eu prosiect (oedd o help enfawr i mi fel newydd-ddyfodiad!) ac roedd aelodau\u2019r Fforwm Ieuenctid yn dechrau cyrraedd yn eu hwdis gwyrdd llachar.<\/h6>\n
Wrth i\u2019r ystafell lenwi gyda bron i 100 o bobl oedd wedi teithio o bob cornel o\u2019r DU, roedd yn amlwg pa mor bwysig oedd hi i bawb yno deimlo\u2019n rhan o\u2019r mudiad mwy yma dros newid, a manteisio ar y cyfle i ddod at ei gilydd a rhannu. Nid dim ond rhannu cynnydd, ond hefyd rhannu heriau, awgrymiadau ar gyfer cydweithredu a syniadau ar gyfer gwaddol a\u2019r dyfodol.<\/h6>\n
Roedd yn gr\u00eat gweld uchafbwyntiau<\/a> y llynedd a gwybodaeth gan brosiectau<\/a> unigol. Roedd wir yn dangos y momentwm sy\u2019n adeiladu fel rhan o Our Bright Future, gyda rhai o\u2019r bobl ifanc hynny a gymerodd ran fel gwirfoddolwyr yn y dyddiau caynnar nawr yn sicrhau prentisiaethau<\/a> neu\u2019n gweithio mewn swyddi<\/a> yn y sefydliadau a daniodd eu hangerdd yn y lle cyntaf.<\/h6>\n
Fe glywson ni\u2019r Fforwm Ieuenctid<\/a> yn siarad am eu profiadau\u2019n hyderus a brwd gan hudo\u2019r gynulleidfa. Dyfyniad mawr y dydd i mi oedd yr un gan un aelod yn disgrifio ei amser yn aelod o\u2019r fforwm ac fel rhan o brosiect:<\/h6>\n
\u201cO\u2019r diwedd rydw i wedi dod o hyd i gr\u0175p o bobl sy\u2019n hoffi\u2019r amgylchedd cymaint ag ydw i\u201d. Cafwyd hanesion am fod eisiau dylanwadu ar bolisi, cynllunio i ledaenu eu neges,<\/a> gwneud i\u2019w cymunedau weithredu<\/a> a chreu newidiadau positif<\/a> yn yr ardaloedd lle maen nhw\u2019n byw.<\/h6>\n
Roedd hefyd yn dangos sut mae\u2019r rhaglen yn creu cynnwrf ar lefel genedlaethol. Ar yr ail ddiwrnod, fe glywodd pawb am y gofynion polisi wedi\u2019u crynhoi \u2013 y newidiadau allweddol yr hoffai\u2019r bobl ifanc ar draws y prosiectau eu gweld mewn perthynas \u00e2\u2019r amgylchedd. Roedd y trafodaethau a gafwyd wedyn yn cynnwys popeth o gynyddu cyfleoedd gwirfoddoli i wneud addysg yn wyrddach a sut byddai llywodraethau eraill yn ymateb i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau\u2019r Dyfodol Cymru<\/a>.<\/h6>\n
Er bod agenda\u2019r seminar yn orlawn, roedd yr \u2018amser rhydd\u2019 yn ymddangos yr un mor egn\u00efol a llawn pwrpas. Roedd sgyrsiau am ymweliadau cyfnewid prosiectau, rhannu profiadau am ddenu grwpiau anodd eu cyrraedd a\u2019r holl gymhelliant oedd yn cael ei greu o fod mewn ystafell yn llawn pobl oedd i gyd yn gweithio\u2019n galed i gysylltu pobl ifanc \u00e2\u2019r sector amgylcheddol.<\/h6>\n
Erbyn diwedd yr ail ddiwrnod (a dim ond jysd wedi dod dros y cwis enwog a gynhaliwyd gan Johnny o vInspired), roeddwn i\u2019n teimlo \u2019mod i\u2019n mynd i fyrstio. Nid dim ond am fy mod i\u2019n llawn syniadau Rhannu Dysgu Gwella ond hefyd yn llawn ysbrydoliaeth \u2013 gan wybod bod yr holl bobl yma, a phawb sy\u2019n ymwneud \u00e2\u2019r rhaglen yn genedlaethol, yn cydweithio er lles dyfodol disglair i ni \u2013 Our Bright Future.<\/h6>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"

Fis diwethaf cafodd seminar flynyddol Our Bright Future 2018 ei chynnal. Ymgasglodd aelodau o staff a\u2019r Fforwm Ieuenctid o bob cwr o\u2019r DU yng Nghaerdydd i ddathlu\u2019r rhaglen, dysgu oddi wrth ei gilydd a chynllunio ymlaen. Dyma\u2019r Cydlynydd Rhannu Dysgu Gwella, Abi Paine, i rannu ei phrofiad. Union fis i\u2019r diwrnod wedi i mi ddechrau […]<\/p>\n","protected":false},"author":37,"featured_media":5299,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[44],"tags":[149,168],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3913"}],"collection":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/37"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3913"}],"version-history":[{"count":2,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3913\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5399,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3913\/revisions\/5399"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/5299"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3913"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3913"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3913"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}