{"id":4193,"date":"2018-08-14T16:35:02","date_gmt":"2018-08-14T15:35:02","guid":{"rendered":"http:\/\/www.www.ourbrightfuture.co.uk\/cy\/?p=4193"},"modified":"2019-01-23T16:20:27","modified_gmt":"2019-01-23T16:20:27","slug":"dod-yn-diwtor-cadw-gwenyn","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/2018\/08\/14\/dod-yn-diwtor-cadw-gwenyn\/","title":{"rendered":"Dod yn diwtor cadw gwenyn"},"content":{"rendered":"
\"\"O fod yn wirfoddolwr i fod yn Llysgennad Ifanc Our Bright Future ac wedyn yn diwtor cadw gwenyn cymwys, mae Rachel yn rhannu ei phrofiadau fel rhan o Brosiect BEE You yn Blackburne House.\u00a0 <\/strong><\/h6>\n
<\/u>Roedd fy wyneb yn goch a \u2019mochau ar d\u00e2n. Roedd pob owns o fy egni\u2019n brwydro i ddal y dagrau oedd yn cronni yn \u00f4l. Roedd deg p\u00e2r o lygaid yn syllu\u2019n ddisgwylgar arnaf i tra oeddwn i\u2019n cydio\u2019n dynn yn eu ffurflenni cais yn fy nwylo chwyslyd.<\/h6>\n
Fy enw i ydi Rachel a hwn oedd fy niwrnod cyntaf i\u2019n cyflwyno\u2019r prosiect BEE You fel tiwtor cadw gwenyn.<\/h6>\n
Wrth i\u2019r myfyrwyr eistedd tu \u00f4l i\u2019w desgiau, roeddwn i\u2019n hynod nerfus ac yn dechrau amau fy ngallu. Edrychais draw ar Lynne, Swyddog Recriwtio ac Ymgysylltu BEE You yn Blackburne House; roedd hi wedi dod i \u2019nghefnogi i ar fy niwrnod cyntaf. Roedd gweld ei gw\u00ean galonogol yn fy atgoffa i ei bod hi nid yn unig yno i \u2019nghefnogi i ond hefyd yn symbol o\u2019r rhwydwaith llawn o gefnogaeth oedd gen i yn \u00f4l yn Blackburne House. Llyncais y lwmp mawr yn fy ngwddw a dechrau ar fy ngwers gyntaf.<\/h6>\n
Wrth i\u2019r wythnosau fynd heibio, fe ddaeth pethau\u2019n haws. Fe ddatblygais i berthynas dda gyda\u2019r myfyrwyr ac roedd yn bleser eu haddysgu; roedden nhw\u2019n ymgolli ac yn ymateb yn dda i dasgau penodol. Diffiniodd un myfyriwr y foment pryd sylweddolais i fy mod i\u2019n gwneud gwahaniaeth o ran fy ngallu fel athrawes: Olivia. Nid oedd Olivia wedi gallu bod yn bresennol yn y ddau sesiwn diwethaf ar y cwrs ac felly byddai\u2019n colli gwaith hanfodol i gwblhau ei chymhwyster cadw gwenyn Lefel 1. Gwnaeth ymdrech i ddal i fyny drwy ofyn am fwy o amser a chefnogaeth gennyf i i gwblhau ei thasgau ar gyfer ei ffeil o dystiolaeth.<\/h6>\n
Cwblhaodd Olivia y gwaith, mewn pryd ac i safon uchel iawn, ac roedd posib i mi ei chyflwyno ar gyfer y cymhwyster.<\/h6>\n
Pan ddaeth Olivia ataf i i ddechrau a mynegi ei siom na fyddai\u2019n gallu dod i ddau sesiwn olaf y cwrs, fe sylweddolais i rywbeth. Roeddwn i\u2019n cyflwyno gwybodaeth a mwynhad i fy nosbarth. Roeddwn i\u2019n gallu uniaethu gyda pharodrwydd Olivia i sicrhau ei bod yn cwblhau\u2019r holl waith cwrs, gan roi hwb i fy hyder i a chadarnhau\u2019r gred oedd gen i fy mod i\u2019n tyfu ar fy siwrnai i fod y tiwtor cadw gwenyn gorau y gallwn i fod.<\/h6>\n
Dechreuodd fy siwrnai i fod yn diwtor cadw gwenyn gyda fi\u2019n cofrestru gyda phrosiect BEE You fel myfyrwraig. Ac ni ddaeth fy mrwdfrydedd i addysgu fy hun ymhellach i ben bryd hynny, oherwydd roeddwn i eisiau ymwneud mwy \u00e2 phrosiect BEE You. Drwy drafod \u00e2\u2019r t\u00eem yn Blackburne House, cefais gyfle i gynrychioli\u2019r prosiect fel Llysgennad Ifanc yn Fforwm Ieuenctid Our Bright Future. Ysgogodd fy nghyfarfod cyntaf o\u2019r Fforwm Ieuenctid yng Nghaerefrog fi i sefydlu\u2019r llwybr gorau at ddatblygu fy hoffter o gadw gwenwyn ac es ati i gofrestru yn Blackburne House ar gymhwyster addysgu a dysgu Lefel 3. Llwyddais i gwblhau\u2019r cwrs hwn yn gynharach eleni. Wedi ennill cymwysterau cadw gwenyn ac addysgu, roedd posib i mi fod yn diwtor gyda phrosiect BEE You. Roeddwn i\u2019n teimlo \u2019mod i\u2019n camu ymlaen i ddyfodol fy mreuddwydion.<\/h6>\n
Fy ymgais addysgu nesaf gyda phrosiect BEE You yw cynnig darpariaeth i ddysgwyr ag anghenion ychwanegol. Rydw i eisiau dal ati i wthio fy hun fel person ac athrawes ac, o gymharu \u00e2\u2019r holl bryder oedd gen i wythnosau yn \u00f4l yn unig, rydw i wedi datblygu hyder mewnol mawr \u2013 a nawr yn #OwningIt.<\/h6>\n
Mwy o wybodaeth am brosiect BEE You<\/a> yn Lerpwl.<\/h6>\n

 <\/p>\n

 <\/p>\n

 <\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"

O fod yn wirfoddolwr i fod yn Llysgennad Ifanc Our Bright Future ac wedyn yn diwtor cadw gwenyn cymwys, mae Rachel yn rhannu ei phrofiadau fel rhan o Brosiect BEE You yn Blackburne House.\u00a0 Roedd fy wyneb yn goch a \u2019mochau ar d\u00e2n. Roedd pob owns o fy egni\u2019n brwydro i ddal y dagrau oedd […]<\/p>\n","protected":false},"author":38,"featured_media":4629,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[44],"tags":[311,312,149,168],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4193"}],"collection":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/38"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4193"}],"version-history":[{"count":2,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4193\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5400,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4193\/revisions\/5400"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4629"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4193"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4193"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4193"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}