{"id":4195,"date":"2018-08-15T10:23:33","date_gmt":"2018-08-15T09:23:33","guid":{"rendered":"http:\/\/www.www.ourbrightfuture.co.uk\/cy\/?p=4195"},"modified":"2019-01-23T16:20:13","modified_gmt":"2019-01-23T16:20:13","slug":"beth-yn-y-byd-ydi-prysgoedio","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/2018\/08\/15\/beth-yn-y-byd-ydi-prysgoedio\/","title":{"rendered":"Beth yn y byd ydi prysgoedio"},"content":{"rendered":"
\"\"Dyma Rachel Bush, Swyddog Addysg a Lles gydag Ymddiriedolaeth Natur Wiltshire, i esbonio pam mae pobl ifanc sy\u2019n rhan o brosiect Milestones yn torri coed.\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0 \u00a0<\/strong><\/h6>\n
\u00a0<\/strong>\u2018Does dim ots gennym ni am yr oerni, fe fyddwn ni\u2019n dal i brysgoedio waeth beth yw\u2019r tywydd.\u2019 <\/em><\/h6>\n
Nawr bod dyddiau oerach a thywyllach misoedd y gaeaf yn atgof pell erbyn hyn a gwanwyn wedi troi\u2019n haf, mae cyfranogwyr Milestones wedi bod yn dathlu\u2019r prosiectau cadwraeth gwych a gwblhawyd yn ystod y gaeaf ac yn mwynhau ffrwyth eu llafur.<\/h6>\n
Ar ddechrau\u2019r flwyddyn academaidd, roedd y syniad o dorri coed gydag Ymddiriedolaeth Natur Wiltshire yn peri dipyn o syndod i rai o\u2019n grwpiau ni. \u2018Ond roeddwn i\u2019n meddwl bod torri coed yn ddrwg i\u2019r amgylchedd?\u2019, gofynnodd nifer o\u2019r myfyrwyr a gyflwynwyd i brysgoedio. Ond cyn hir roeddent yn gyfarwydd \u00e2 bilwgau, llifiau bwa a chelfi brigdorri\u2019n barod ar gyfer y tymor prysgoedio.<\/h6>\n
Mae prysgoedio\u2019n ddull rheoli coetiroedd traddodiadol gyda rhai rhywogaethau penodol o goed, fel cyll, helyg ac ynn, ac maent yn cael eu torri yn y b\u00f4n ac wedyn yn cael aildyfu. Gwneir hyn ar ffurf cylchdro, gydag ardaloedd bach o goetiroedd yn cael eu torri bob blwyddyn ac yn cael eu haildorri wedyn ymhen cyfnod penodol (fel rheol, bob 7 i 20 mlynedd, gan ddibynnu ar y rhywogaeth).<\/h6>\n
Mae prysgoedio wedi bod yn digwydd ym Mhrydain ers miloedd o flynyddoedd, gan greu cnydau o bolion gyda marchnad eang ar eu cyfer. Y dyddiau hyn, does dim cymaint o alw am bren wedi\u2019i brysgoedio a dim ond cyfran fechan o goetiroedd sy\u2019n dal i gael eu prysgoedio. Fodd bynnag, mae\u2019n parhau\u2019n arfer cadwraeth poblogaidd oherwydd ei fudd i fywyd gwyllt. Mae\u2019r golau cynyddol a strwythur oedran amrywiol y llystyfiant yn cynyddu bioamrywiaeth drwy greu amodau perffaith i lawer o blanhigion, pryfed ac adar sy\u2019n ffafrio cynefinoedd coetir agored.<\/h6>\n
Yn ystod y gaeaf mae\u2019r cyfranogwyr wedi cymryd rhan mewn nifer o brosiectau prysgoedio gan ddysgu sut i ddefnyddio celfi\u2019n ddiogel ac maent wedi prysgoedio 1,521 m2<\/sup> o goetir, codi 360m o ffensys ceirw a phlygu 240m o wrych marw. Hefyd, maent wedi dewis defnyddio\u2019r deunydd sydd wedi\u2019i brysgoedio i greu morthwylion pren, sbodolau, ffyn cerdded, stolion a chlwydi.<\/h6>\n
\u2018Waw, mae\u2019n edrych yn hudolus i lawr yn fan\u2019na.\u2019<\/em><\/h6>\n
Dim ond yn ystod y misoedd diwethaf ydym ni wedi dechrau gweld budd ein gwaith caled mewn gwirionedd; wrth gerdded drwy Warchodfa Natur Coed Biss a Pharc Natur Green Lane ar foreau heulog mae rhywun yn gweld gwerddon o flodau gwyllt, gl\u00f6ynnod byw a gwenyn yn ffynnu, ac yn clywed adar bach yn canu.<\/h6>\n
Mae cael y cyfle i gynnig mynediad i\u2019n cyfranogwyr i Milestones drwy gydol y pedwar tymor yn eu galluogi i fod yn dyst i\u2019w heffaith bositif. Maent nid yn unig yn gwella\u2019r amgylcheddau naturiol ond hefyd eu bywydau eu hunain.<\/h6>\n
\u2018Dydw i ddim eisiau gadael. Rydw i eisiau aros drwy\u2019r dydd a gwneud hyn.\u2019<\/em><\/h6>\n
Y gaeaf diwethaf dysgodd mwy na 50 o gyfranogwyr lu o sgiliau newydd, o sgiliau ymarferol yn defnyddio celfi i adnabod coed a chodi ffensys. Hefyd, gwelwyd eu sgiliau cyfathrebu a\u2019u hyder, yn ogystal \u00e2\u2019u lles corfforol a meddyliol, yn gwella. Ochr yn ochr \u00e2 hyn, rydym wedi gallu dyfarnu achrediadau i\u2019r cyfranogwyr hyn mewn prysgoedio a defnydd o gelfi a bydd hynny\u2019n eu gwneud yn fwy cyflogadwy.<\/h6>\n
\u00a0<\/strong>Mwy o wybodaeth yma am brosiect Milestones<\/a> yn Wiltshire.<\/h6>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"

Dyma Rachel Bush, Swyddog Addysg a Lles gydag Ymddiriedolaeth Natur Wiltshire, i esbonio pam mae pobl ifanc sy\u2019n rhan o brosiect Milestones yn torri coed.\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0 \u00a0 \u00a0\u2018Does dim ots gennym ni am yr oerni, fe fyddwn ni\u2019n dal i brysgoedio waeth beth yw\u2019r tywydd.\u2019 Nawr bod dyddiau oerach a thywyllach misoedd y gaeaf yn atgof […]<\/p>\n","protected":false},"author":39,"featured_media":5020,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[44],"tags":[327,337],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4195"}],"collection":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/39"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4195"}],"version-history":[{"count":2,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4195\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5401,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4195\/revisions\/5401"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/5020"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4195"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4195"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4195"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}