{"id":4336,"date":"2018-09-17T12:11:26","date_gmt":"2018-09-17T11:11:26","guid":{"rendered":"http:\/\/www.www.ourbrightfuture.co.uk\/cy\/?p=4336"},"modified":"2019-01-23T16:19:12","modified_gmt":"2019-01-23T16:19:12","slug":"dod-o-hyd-i-gyfeiriad-newydd-gyda-tomorrows-natural-leaders","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/2018\/09\/17\/dod-o-hyd-i-gyfeiriad-newydd-gyda-tomorrows-natural-leaders\/","title":{"rendered":"Dod o hyd i gyfeiriad newydd gyda Tomorrow\u2019s Natural Leaders"},"content":{"rendered":"
\"\"Mae Megan Humphreys (chwith) wedi cwblhau 12 mis yn ddiweddar gyda phrosiect Tomorrow\u2019s Natural Leaders<\/a>, sy\u2019n cael ei gyflwyno gan Ymddiriedolaeth Natur Swydd Efrog<\/a>. Mae\u2019n dweud wrthym ni sut aeth hi ati i newid byd, o fod yn gweithio ym maes adwerthu i ddechrau baeddu ei dwylo. <\/strong><\/h6>\n
Fe ddois i i wybod am brosiect Tomorrow\u2019s Natural Leaders (TNL) wrth weithio mewn swydd ddiflas yn y byd adwerthu yn ystod y cyfnod anochel hwnnw ar \u00f4l bod yn y brifysgol pan rydych chi\u2019n wynebu\u2019r argyfwng \u2018be-yn-y-byd-ydw-i\u2019n-wneud-efo-fy-mywyd?\u2019. O edrych yn \u00f4l, rydw i\u2019n gwybod fy mod i wedi anfon fy nghais am fy mod i\u2019n dyheu am newid. Roedd treulio dyddiau\u2019n plygu crysau T yn bentyrrau perffaith o sgwariau ac yn gwenu\u2019n ffug nes bod fy wyneb i\u2019n brifo wedi gwneud i mi gredu mai myth creulon oedd y gred y gallai unrhyw berson 20 oed a rhywbeth ddod o hyd i waith oedd wir yn rhoi boddhad.<\/h6>\n
Roeddwn i wedi graddio o brifysgol dda gyda gradd weddol dda. Roedd hyn yn dilyn tair blynedd anodd yn dioddef o iselder a phryder, gyda fy addysg i\u2019n dod yn ail yn aml wrth i mi gael anhawster gyda byw bywyd bob dydd. Felly roedd prosiect TNL yn teimlo fel chwa o awyr iach. Roedd yn gyfle prin ac annhebygol i mi, rhywbeth cwbl wahanol i bopeth roeddwn i wedi\u2019i brofi o\u2019r blaen yng nghanol academia diflas neu brysurdeb di-stop bywyd y ddinas. Roedd yn gyfle nid yn unig am newid lle, ond hefyd yn gyfle i gael fy amgylchynu gan yr hapusrwydd dibynadwy oeddwn i\u2019n gyfarwydd ag o pan yn blentyn, pan oedd byd natur yn lle am gysur a diddanwch.<\/h6>\n
Ar \u00f4l graddio gyda gradd mewn Saesneg Llenyddiaeth, fe ddois i\u2019n rhan o\u2019r prosiect yn edrych yn wahanol ar fywyd o gymharu \u00e2\u2019r rhai ar lwybrau gyrfaol confensiynol. Roedd fy nghefndir anwyddonol ac anamgylcheddol i, ochr yn ochr \u00e2 gwybodaeth gywilyddus o wael am fywyd gwyllt y DU, yn golygu nad oedd fy nghyflwyno i i\u2019r sgwrs yn hwylus iawn. Ond er mai graddol oedd fy nghynnydd i fel rhan o brosiect TNL, roedd yn rhoi llawer o foddhad i mi. Roeddwn i\u2019n amau fy hun gymaint ag erioed, ond roedd pob brwydr yn cynnig rhyw fath o foddhad. Nid dim ond oer a blinedig oedd ymlwybro drwy fwd a chenllysg ar ein ffordd i warchodfa neu i dorri prysgwydd mewn cawodydd trymion o law, ond cadarnhaol mewn rhyw ffordd, ac yn gwneud i mi deimlo\u2019n well. Ar foreau cynnar yn y gaeaf, roeddwn i\u2019n gallu bod mewn tymer ddrwg ac yn cael trafferth agor fy llygaid, ond roedd y rhain yn eiliadau gwerthfawr na fyddwn i wedi gallu eu dychmygu wrth gymudo i\u2019r gwaith ddim ond flwyddyn ynghynt; cipolwg ar iwrch yn sgrialu drwy wrych, neu fflach o las y dorlan yn deifio i mewn i afon.<\/h6>\n
Rydw i wastad wedi teimlo bod byd natur yn rhywbeth cynhwysol a chynhyrfus, rhywbeth i\u2019w deimlo yn ogystal \u00e2\u2019i ddeall, ac yn ystod fy amser gyda phrosiect TNL roeddwn i eisiau rhannu\u2019r dull yma o weithio gydag eraill. Gan weithio ochr yn ochr \u00e2 fy ffrind Helen, fe wnaethon ni geisio pwysleisio pa mor hanfodol all byd natur fod o ran helpu lles y meddwl, a cheisio tynnu sylw at werth cynhenid cyswllt personol ac emosiynol \u00e2\u2019r byd o\u2019n cwmpas ni. Fel rhan o ymgyrch oedd yn pwysleisio pwysigrwydd byd natur i les, aethom ati i gymryd camau i gysylltu meddygfeydd a chanolfannau therapi\u2019r GIG \u00e2 gweithgarwch gwyrdd a hybu ecotherapi fel cymorth ataliol a rhagnodol i ddelio \u00e2 salwch meddwl.<\/h6>\n
Yn rhyfedd iawn, fe aeth y prosiect \u00e2 fi\u2019n \u00f4l i\u2019r un meddygfeydd a\u2019r un rhaglenni therapi ag yr oeddwn i wedi eu mynychu fel merch ifanc bryderus yn fy arddegau yn chwilio am gymorth. Nawr, flynyddoedd yn ddiweddarach, er dal yn bryderus ac yn ifanc, rydw i\u2019n edrych yn \u00f4l ar y camau rydw i wedi gallu eu cymryd eleni gan deimlo cryn foddhad. Mae fy mlwyddyn i wedi bod yn brofiad dysgu pwysig i mi ac er fy mod i\u2019n falch o\u2019r cadernid rydw i wedi\u2019i feithrin ar foreau gaeafol oer, a fy nghynnydd o fod yn ddechreuwr amhrofiadol iawn i naturiaethwr addawol, yr\u00a0 hyn mae Ymddiriedolaeth Natur Swydd Efrog wedi\u2019i roi i mi yn fwy na dim, er ei fod yn swnio fel cliche, yw gwneud i mi gredu yn fy llais fy hun ac yn fy ngallu fy hun. Dyma brofiad hapus ac mae prosiect TNL nid yn unig wedi bod yn ddihangfa i mi ond hefyd yn rhywbeth sydd wedi galluogi i mi ailddarganfod yr hyder a\u2019r hunan-sicrwydd yr oeddwn i wir eu hangen.<\/h6>\n
Mae Megan wedi cwblhau profiad gwaith yn ddiweddar gyda th\u00eem Our Bright Future. Roedd yn gr\u00eat dysgu mwy am ei gweledigaeth ar gyfer argaeledd eang \u00a0ecotherapi. <\/strong><\/h6>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"

Mae Megan Humphreys (chwith) wedi cwblhau 12 mis yn ddiweddar gyda phrosiect Tomorrow\u2019s Natural Leaders, sy\u2019n cael ei gyflwyno gan Ymddiriedolaeth Natur Swydd Efrog. Mae\u2019n dweud wrthym ni sut aeth hi ati i newid byd, o fod yn gweithio ym maes adwerthu i ddechrau baeddu ei dwylo. Fe ddois i i wybod am brosiect Tomorrow\u2019s […]<\/p>\n","protected":false},"author":41,"featured_media":4653,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[44],"tags":[333,339],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4336"}],"collection":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/41"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4336"}],"version-history":[{"count":2,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4336\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5404,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4336\/revisions\/5404"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4653"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4336"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4336"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4336"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}