{"id":5047,"date":"2018-11-26T11:19:04","date_gmt":"2018-11-26T11:19:04","guid":{"rendered":"http:\/\/www.www.ourbrightfuture.co.uk\/cy\/?p=5047"},"modified":"2019-01-23T16:18:29","modified_gmt":"2019-01-23T16:18:29","slug":"milly-spencer-our-bright-future-intern","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/2018\/11\/26\/milly-spencer-our-bright-future-intern\/","title":{"rendered":"Milly Spencer: Our Bright Future Intern"},"content":{"rendered":"
\"\"Ym mis Awst\u00a0daeth Milly Spencer yn Intern Our Bright Future yn Ymddiriedolaeth Natur Sir Gaerloyw.\u00a0<\/strong><\/h6>\n
Cyn i ni ddechrau, beth am gyflynwo dy hun! Sut ddaeth Our Bright Future yn rhan o dy fywyd di? <\/strong><\/h6>\n
Fy enw i ydi\u00a0Milly ac rydw i\u2019n dod o Fanceinion. Fe wnes i symud yma (i Sir Gaerloyw) i astudio. Yn ddiweddar rydw i wedi graddio mewn Cadwraeth Bywyd Gwyllt ac rydw i newydd ddechrau ar yr interniaeth yma gyda phrosiect Our Bright Future Ymddiriedolaeth Natur Sir Gaerloyw. Cyn Our Bright Future,\u00a0roeddwn i wedi bod yn gwirfoddoli gyda The Conservation Volunteers (TCV),<\/a>\u00a0yn gwneud tasgau cadwraeth a garddio ac roeddwn i wir yn mwynhau. Wrth chwilio am fy \u2018swydd ddelfrydol\u2019, fe ddechreuais i boeni nad oedd llawer o swyddi perthnasol ar gael, ac a bod yn onest, roeddwn i\u2019n dechrau amau fy newis o radd!<\/h6>\n
Fel mae\u2019n digwydd, fe wnes i gwis swyddi ac fe wnaeth y canlyniad fy nghyfeirio i at waith prosiect cymunedol. Yn fuan iawn fe sylweddolais i faint roeddwn i\u2019n hoffi gwirfoddoli gyda TCV a faint roeddwn i\u2019n hoffi cael mwy o aelodau\u2019r gymuned i ymwneud \u00e2 gofalu am eu gofod gwyrdd lleol, yn enwedig o gofio faint mae pobl yn gallu elwa o fod y tu allan. Mae Our Bright Future yn gweithio gyda chymunedau i wella amgylcheddau trefol i bobl a bywyd gwyllt, felly fe wnes i benderfynu mai hon oedd y swydd ddelfrydol i mi!<\/h6>\n
Felly beth mae\u2019r prosiect yn ei gynnwys?<\/strong><\/h6>\n
Nod y prosiect penodol yma ydi cael pobl ifanc i gydweithio mewn grwpiau i wella gofod gwyrdd mewn ardaloedd tai cymdeithasol. Mae hyn nid yn unig yn eu helpu i ddysgu sgiliau newydd, ond hefyd yn gwella\u2019r ardal leol i\u2019r trigolion, ymwelwyr a bywyd gwyllt.<\/h6>\n
Gall ieuenctid 16 i 24 oed o unrhyw gefndir gymryd rhan yn y prosiect yma. Mae\u2019n adnodd rhagorol i wella sgiliau cymdeithasol a sicrhau gwell dealltwriaeth o\u2019r amgylchedd. Mae cyfranogwyr yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy fel magu hyder, sy\u2019n gwella eu cyflogadwyedd.<\/h6>\n
Mae\u2019r prosiect ar dri safle. Ym mhob un, mae darn o laswellt wedi cael ei drawsnewid yn erddi cyfeillgar i fywyd gwyllt drwy greu potiau plannu, ardaloedd compostio a thai anifeiliaid \u2013 perffaith i famaliaid, adar a phryfed.<\/h6>\n
Sut mae diwrnod nodweddiadol yn gweithio ar y prosiect?<\/strong><\/h6>\n
Mae fy ngwaith i\u2019n eithaf amrywiol a dweud y gwir. Rydw i\u2019n gweithio yn y swyddfa yn Robinswood Hill, yn gwneud gwaith ymchwil i ymgyrchoedd amrywiol. Un diwrnod rydw i\u2019n edrych ar hadau a blodau ac yn casglu gwybodaeth a\u2019r diwrnod wedyn rydw i\u2019n cynllunio pecyn hadau neu\u2019n cael dyfyniadau ar gyfer deunyddiau cyfathrebu. Weithiau fe fydda\u2019 i\u2019n mynd i sesiynau cymunedol gyda rheolwr y prosiect ac yn helpu gyda\u2019r garddio.<\/h6>\n
Fedri di ddweud beth ydi dy hoff agwedd ar y prosiect hyd yma? <\/strong><\/h6>\n
Y peth gorau o ddigon ydi mynd i\u2019r gerddi a gweithio gyda chyfranogwyr y prosiect, mae\u2019n gr\u00eat eu gweld nhw\u2019n cymryd rhan, yn dysgu sgiliau newydd ac yn falch o\u2019u cyflawniadau.<\/h6>\n
Pam mae hyn i gyd yn bwysig?\u00a0<\/strong><\/h6>\n
Mae\u2019r prosiect yn dysgu sgiliau ymarferol i bobl ifanc y gallan nhw eu defnyddio yn eu gerddi eu hunain. O ganlyniad fe fyddan nhw\u2019n fwy medrus a hyderus i ddweud wrth eraill am arddio er lles bywyd gwyllt.<\/h6>\n
Mae\u2019n amlwg dy fod di wrth dy fodd yn dy waith, felly beth am ei werthu i ni? Pam ddylai mwy o bobl ifanc gymryd rhan gydag Our Bright Future?\u00a0<\/strong><\/h6>\n
Drwy gymryd rhan gydag\u00a0Our Bright Future, rydych chi\u2019n cael cyfarfod pobl newydd gyda diddordebau tebyg i chi! Bod tu allan, cael digon o awyr iach. Mae\u2019n braf iawn ac yn ffordd gr\u00eat i wella eich lles.<\/h6>\n
Mae am ddim ac rydych chi\u2019n gallu ennill AQA mewn Rheoli Cynefinoedd ac Ymgysylltu Cymunedol. Rydyn ni\u2019n canolbwyntio ar ddeunyddiau ailgylchu, gan ddefnyddio paledi pren, pibellau a chytiau ieir hyd yn oed i wneud cartrefi ar gyfer bywyd gwyllt. Mae pob gweithgaredd yn gwella cynefinoedd trefol. Fe fyddwch chi\u2019n cefnogi amrywiaeth eang o rywogaethau lleol, o wenoliaid y bondo i ddraenogod a gwenyn unigol.<\/h6>\n
Mae tri sesiwn\u00a0Our Bright Future yn cael eu cyflwyno gan Ymddiriedolaeth Natur Sir Gaerloyw ac Ymddiriedolaeth Natur Avon ar gyfer ieuenctid 16 i 24 oed. Ymunwch \u00e2 ni:<\/h6>\n