{"id":5209,"date":"2018-12-05T11:39:16","date_gmt":"2018-12-05T11:39:16","guid":{"rendered":"http:\/\/www.www.ourbrightfuture.co.uk\/cy\/?p=5209"},"modified":"2019-01-23T16:18:04","modified_gmt":"2019-01-23T16:18:04","slug":"deng-mlynedd-ers-deddf-newid-yn-yr-hinsawdd-2008","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/2018\/12\/05\/deng-mlynedd-ers-deddf-newid-yn-yr-hinsawdd-2008\/","title":{"rendered":"Deng mlynedd ers Deddf Newid yn yr Hinsawdd 2008"},"content":{"rendered":"
\"\"Yn 2008, gosododd y DU dargedau uchelgeisiol ar gyfer mynd i\u2019r afael \u00e2 newid yn yr hinsawdd. I nodi\u2019r garreg filltir hon, mae dau o brosiectau The Environment Now<\/a> wedi rhannu eu meddyliau a dangos sut mae eu busnesau\u2019n gwneud gwahaniaeth.<\/h6>\n
Mynd i\u2019r afael \u00e2 newid yn yr hinsawdd un hances bapur ar y tro! <\/strong><\/h6>\n
Sefydlwyd Twipes<\/a> yn 2015 gan y biocemegydd Elle a\u2019r entrepreneur Al er mwyn mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r broblem o hancesi papur gwlyb nad oes posib eu rhoi i lawr y toiled ac mae wedi cael cefnogaeth gan The Environment Now<\/a>.<\/h6>\n
Roedd 2008 yn flwyddyn o sawl cyflawniad byd-eang pwysig. Daeth yr Arlywydd Obama yn Arlywydd du cyntaf UDA, croesawdd Tsieina y Gemau Olympaidd ac wrth gwrs, fe gamodd Britney yn \u00f4l ar y llwyfan.<\/h6>\n
Ond un o gerrig milltir mwyaf 2008 yn y DU oedd y Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd. Dyma ddarn allweddol o ddeddfwriaeth sy\u2019n gosod targedau uchelgeisiol ar gyfer lleihau allyriadau nwyon t\u0177 gwydr erbyn 2050. I ddathlu degfed pen blwydd y Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd, ac oherwydd ein bod yn caru ein planed, roedd y t\u00eem yma yn Twipes yn meddwl y byddem yn manteisio ar y cyfle yma i siarad ynghylch pam fod gennym agwedd amgylcheddol bositif ar gyfer y dyfodol!<\/h6>\n
Mae\u2019r Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd wedi arwain at amrywiaeth eang o feysydd sy\u2019n ymwneud \u00e2 hybu gweithredu er lles yr hinsawdd yn ystod y degawd diwethaf. Rydyn ni wedi gweld hyn yn uniongyrchol drwy fod yn bresennol yn yr Uwchgynhadledd Cyllid Gwyrdd<\/em> fis Gorffennaf diwethaf \u2013 lle\u2019r oedd y sector cyllid yn mynd ati i ddatgloi cyllid ar gyfer seilwaith gwyrdd \u2013 a hefyd wrth gael ein hanrhydeddu yng Ngwobrau Dinasoedd Cynaliadwy<\/em> LSX <\/em>\u2013 lle\u2019r oedd cewri peirianneg fel Siemens<\/em> yn gwneud eu rhan dros ein planed ni.<\/h6>\n
Ond ni ddylai\u2019r DU orffwys ar ei rhwyfau. A hithau\u2019n ddegfed pen blwydd y Ddeddf, gallai\u2019r llywodraeth ddefnyddio\u2019r cyfle hwn i gyflwyno achos cryf dros wthio ein partneriaid byd-eang i ymuno \u00e2 ni i arwain yr ymgyrch tuag at ddyfodol carbon isel.<\/h6>\n
Gall pob ifanc hefyd wthio am well dyfodol. Mae t\u00eem Twipes wedi ceisio gwneud ein rhan dros y blaned!<\/h6>\n
Daeth Twipes i fodolaeth fel syniad labordy yn \u00f4l yn 2015, oherwydd ar y pryd nid oedd unrhyw hancesi papur gwlyb oedd posib eu rhoi i lawr y toiled ar y farchnad. Rydyn ni wedi datblygu hancesi papur o\u2019r fath sy\u2019n dadelfennu yn y d\u0175r ac sy\u2019n biobydradwy, sy\u2019n golygu dim mwy o fryniau braster, dim mwy o hancesi papur ar welyau afonydd a dim mwy o ficro-blastigau yn ein cefnforoedd ni!<\/h6>\n
Mae pwysigrwydd The Environment Now<\/a> yn ein helpu ni i gyflawni hyn wedi bod yn amhrisiadwy. Mae The Environment Now yn rhaglen o 50 o brosiectau gan bobl ifanc, ar y cyd \u00e2 Go Think Big yr O2<\/a>, The National Youth Agency<\/a> ac Our Bright Future<\/a>. Mae\u2019r rhaglen wedi helpu gyda phopeth o gyllido Twipes i arweiniad gyda Twipes a hyd yn oed ein cyflwyno ni i bartneriaid cydweithredu ar gyfer y dyfodol.<\/h6>\n
Mae cefnogaeth The Environment Now wir yn rhoi gobaith i ni bod posib i ni ysbrydoli pobl ifanc eraill fel ni i ddilyn eu breuddwydion a datblygu eu syniadau, sy\u2019n gallu arwain i gyd at ddyfodol mwy cynaliadwy. Yr heriau amgylcheddol nesaf yn effeithio ar y byd, ar gyfer y degawd nesaf efallai, fydd lleihau ein dibyniaeth ar danwyddau ffosil, cael gwared ar blastig (yn enwedig micro-blastigau) o\u2019n moroedd ni a mynd i\u2019r afael \u00e2 llygredd yr aer.
\nAc mae\u2019r cynnydd sydd wedi\u2019i wneud yn ystod y degawd diwethaf, fel y nodir gan ddegfed pen blwydd y Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd, yn golygu y gallwn ni, gyda\u2019n gilydd, ar draws pob sector a diwydiant, ar draws pob oedran, drwy gydweithredu fel rhwng Twipes a The Environment Now, gyflawni ein nodau.<\/h6>\n
Oes posib i lysiau helpu i atal newid yn yr hinsawdd?\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0 <\/strong><\/h6>\n
Sefydlwyd LettUs Grow<\/a> yn 2015 gan dri a raddiodd o Brifysgol Bryste. Maen nhw\u2019n dylunio technoleg rheoli a dyfrio aeroponig ar gyfer ffermydd dan do ac wedi cael cefnogaeth gan y rhaglen The Environment Now<\/a>.<\/h6>\n
Mae 10 mlynedd wedi mynd heibio ers Deddf Newid yn yr Hinsawdd 2008. Yn anffodus, daw\u2019r pen blwydd yma\u2019n dynn ar sodlau adroddiad trychinebus Panel Rhynglywodraethol y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd oedd yn nodi bod cynnydd o 1.5C yn anochel bellach a bod angen gweithredu ar fyrder er mwyn atal y tymheredd rhag codi ymhellach.<\/h6>\n
Mae cynhesu byd-eang ac allyriadau nwyon t\u0177 gwydr yn ddwy broblem bendant i\u2019n cenhedlaeth ni. Mae amaethyddiaeth yn rhan fawr o\u2019r jig-so, gan greu traean o\u2019r allyriadau byd-eang. Ond mae problem diogelwch bwyd byd-eang yn llawer mwy na dim ond allyriadau. Mae cyflenwad sefydlog o fwyd yn angen dynol sylfaenol ac mae diffyg difrifol o ran atebion arloesol er mwyn helpu i fwydo\u2019r genhedlaeth nesaf. Os na chaiff hyn sylw, bydd yn effeithio ar bob un ohonom. Bydd rhaid i ni gynyddu\u2019r bwyd rydym yn ei gynhyrchu 70% erbyn 2050 er mwyn bwydo poblogaeth ddisgwyliedig o 9 biliwn. Bydd rhaid gwneud hyn gyda 25% yn llai o dir amaethu, priddoedd yn dirywio a hinsawdd gynyddol ansefydlog.<\/h6>\n
Yn LettUs Grow, rydyn ni\u2019n credu bod rhaid i fwy na llywodraethau a defnyddwyr wneud newid. Rhaid i fusnesau chwarae rhan allweddol mewn darparu technoleg sy\u2019n gwneud mynd i\u2019r afael \u00e2 newid yn yr hinsawdd yn bosib. Oherwydd hyn, rydyn ni wedi ymrwymo i ddod o hyd i atebion \u00e2\u2019u ffocws ar fwyd. Drwy gyfuno ein cefndiroedd mewn peirianneg a bioleg, rydyn ni wedi dod o hyd i ffyrdd arloesol o helpu ffermwyr dan do i gynyddu eu gweithrediadau er mwyn cystadlu yn erbyn amaethyddiaeth draddodiadol. Mae ein technoleg newydd yn adeiladu ar lwyddiannau hydroponeg ac yn rhoi sylw i lawer o\u2019r materion sydd wedi bod yn dal ffermio dan do yn \u00f4l.<\/h6>\n
Un camsyniad cyffredin am blanhigion yw mai dim ond drwy eu dail maen nhw\u2019n \u201canadlu\u201d, ond mae rhywfaint o\u2019r ocsigen a\u2019r CO2 maen nhw\u2019n eu defnyddio\u2019n cael eu hamsugno hefyd drwy eu gwreiddiau. Drwy roi gwreiddiau ein planhigion ni mewn tarth llawn maethynnau yn hytrach na mewn d\u0175r, rydyn ni wedi goresgyn rhai o\u2019r problemau mae hydroponeg yn eu hwynebu. Am nad ydynt o dan dd\u0175r, mae planhigion yn gallu anadlu\u2019n well yn ystod eu cylch bywyd llawn. Gan ddefnyddio\u2019r system hon, o\u2019r enw aeroponeg, rydyn ni wedi gweld hyd at 70% o gynnydd mewn cnydau o gymharu \u00e2 hydroponeg.<\/h6>\n
Fel sy\u2019n digwydd yn aml, gall cryfder mwyaf tyfu aeroponig fod hefyd yn wendid mwyaf. Mae\u2019r rhan fwyaf o systemau\u2019n creu eu tarth drwy wthio d\u0175r llawn maethynnau drwy stribynnau o ffroenellau. Mae\u2019r tyllau bach yn blocio\u2019n gyflym gyda darnau o blanhigion yn syrthio ac wrth i halen a maethynnau grynhoi \u2013 yn debyg iawn i fel mae cen calch yn ffurfio tu mewn i degell. Rydyn ni wedi datblygu system heb unrhyw ffroenellau, felly does dim i flocio na thorri. Hefyd, ochr yn ochr \u00e2\u2019n caledwedd sy\u2019n aros patent, rydyn ni hefyd wedi datblygu system meddalwedd rheoli fferm integredig, o\u2019r enw Ostara\u00ae, sy\u2019n lleihau gofynion llafur, yn sicrhau\u2019r amodau gorau i blanhigion dyfu ac yn gwneud bywydau ffermwyr yn haws.<\/h6>\n
Mae wedi bod yn siwrnai heriol ac roedd dewis gwneud LettUs Grow yn fenter lawn amser yn gam enfawr ar y pryd, gan ein bod yn datblygu rhywbeth cwbl newydd. Ni fyddem wedi llwyddo heb gefnogaeth The<\/a> Environment Now<\/a>.<\/h6>\n
Mae sicrhau buddsoddiad cyntaf ar ddechrau menter dechnoleg yn anodd. Drwy ddarparu cyllid ar gyfer costau\u2019r deunyddiau, fe wnaeth The Environment Now ein galluogi ni i lunio ein prototeip a datblygu o fod yn dri myfyriwr gyda syniad i fod yn gwmni cofrestredig gyda phrawf o gysyniad. Roedd hyn nid yn unig yn gyfle i ni brofi bod ein technoleg yn gweithio, ond hefyd roedd yn cadarnhau\u2019r syniad ei bod yn werth buddsoddi yn ein cwmni. O hynny, fe wnaeth The Environment Now ein helpu ni i gael mwy o gyllid ar adeg cwbl hanfodol, oedd yn golygu bod posib i ni fuddsoddi yn y bobl a\u2019r offer gofynnol er mwyn datblygu mor gyflym ag yr ydyn ni wedi gwneud.<\/h6>\n
Roedd cael help priodol o\u2019r dechrau\u2019n hanfodol i ddatblygiad LettUs Grow ac mae wedi bod yn anhygoel cael The Environment Now yn brwydro ar ein rhan ni byth ers hynny. Mae eu cefnogaeth a\u2019u brwdfrydedd parhaus wedi bod yn amhrisiadwy. Mae wedi ein helpu ni i symud o garreg filltir i garreg filltir \u2013 o ddosbarthu i\u2019n cwsmeriaid cyntaf ni i hedfan i Amsterdam a chynnig ein syniad yn rownd derfynol gwobr cynaliadwyedd byd-eang Green Challenge<\/a>.<\/h6>\n

 <\/p>\n

\u00a0<\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"

Yn 2008, gosododd y DU dargedau uchelgeisiol ar gyfer mynd i\u2019r afael \u00e2 newid yn yr hinsawdd. I nodi\u2019r garreg filltir hon, mae dau o brosiectau The Environment Now wedi rhannu eu meddyliau a dangos sut mae eu busnesau\u2019n gwneud gwahaniaeth. Mynd i\u2019r afael \u00e2 newid yn yr hinsawdd un hances bapur ar y tro! […]<\/p>\n","protected":false},"author":49,"featured_media":4703,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[44],"tags":[329,332],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5209"}],"collection":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/49"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5209"}],"version-history":[{"count":3,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5209\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5409,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5209\/revisions\/5409"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4703"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5209"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5209"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5209"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}