{"id":5370,"date":"2018-12-20T14:05:52","date_gmt":"2018-12-20T14:05:52","guid":{"rendered":"http:\/\/www.www.ourbrightfuture.co.uk\/cy\/?p=5370"},"modified":"2019-01-23T16:17:45","modified_gmt":"2019-01-23T16:17:45","slug":"symud-oddi-wrth-nadolig-materol","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/2018\/12\/20\/symud-oddi-wrth-nadolig-materol\/","title":{"rendered":"Symud oddi wrth Nadolig materol"},"content":{"rendered":"
\"\"Mae Lily Stringer<\/a> yn cymryd rhan yn Rhaglen Arweinyddiaeth Amgylcheddol Caerdydd sy\u2019n cael ei chyflwyno gan UpRising. Mae ei blog yn herio ein harferion ni wrth brynu anrhegion Nadolig. <\/strong><\/h6>\n
Rhywbeth Sentimental <\/strong><\/h6>\n
Efallai bod hwn yn swnio\u2019n sinistr fel dechrau i flog am y Nadolig, ond ystyriwch hyn: pe baech chi\u2019n cael eich gorfodi o\u2019ch cartref a dim ond yn gallu mynd ag un bag o eiddo gyda chi, beth fyddech chi\u2019n ei ddewis? Go brin mai\u2019r siwmper Nadolig liwgar gawsoch chi gan eich modryb fyddai\u2019r dewis, neu\u2019r gwydrau Nadoligaidd gafodd eu rhoi o dan y gwely ar \u00f4l y Nadolig diwethaf. Byddai\u2019n lluniau a gemwaith sy\u2019n bwysig i chi, pethau sy\u2019n golygu rhywbeth ac nad oes posib cael rhai newydd yn eu lle. Felly, wrth feddwl am beth i\u2019w gael i rywun ar gyfer y Nadolig, beth am ei wneud yn rhywbeth sy\u2019n golygu llawer? Rhywbeth \u00e2 photensial i gael ei basio o un genhedlaeth i\u2019r llall. Mae dau beth rydw i wedi sylwi arnyn nhw am y Nadolig. Y peth cyntaf ydi pan fyddaf i\u2019n gofyn i bobl beth gawson nhw\u2019n anrhegion Nadolig – erbyn mis Chwefror, dydi\u2019r rhan fwyaf o bobl ddim yn cofio. Yr ail beth ydi \u2019mod i wedi sylwi mai ychydig iawn o anrhegion gewch chi yn eich bywyd fydd dal gennych chi 20 mlynedd yn ddiweddarach.<\/h6>\n
Lluniau\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0 <\/strong><\/h6>\n
Mae lluniau\u2019n anrheg anhygoel oherwydd mae stori tu \u00f4l iddyn nhw ac, oni bai eich bod chi\u2019n DDRWG IAWN, maen nhw\u2019n rhywbeth wnewch chi eu cadw am byth, felly does dim gwastraff. Maen nhw\u2019n fwy gwerthfawr na dim yn aml ac yn rhywbeth unigryw yn ogystal \u00e2 rhad.<\/h6>\n
Addurniadau<\/strong><\/h6>\n
Mae addurniadau Nadolig yn anrheg wych. Ie, dim ond unwaith y flwyddyn maen nhw\u2019n cael eu defnyddio, ond maen nhw\u2019n rhywbeth fedr fod yn hynod sentimental ac mae posib eu pasio ymlaen i berthnasau. Mae gan bawb eu hoff addurn Nadolig maen nhw\u2019n edrych ymlaen at ei estyn o\u2019r bocs bob blwyddyn, felly meddyliwch am gael un a allai fod yn ffefryn newydd gan rywun. Gallai gynrychioli rhywun sydd wedi\u2019ch gadael chi, neu gallai fod yn symbol o\u2019ch presenoldeb chi os nad ydych chi\u2019n gallu bod gyda\u2019ch teulu dros y Nadolig. Gall fod wedi\u2019i wneud gennych chi hyd yn oed.<\/h6>\n
Plannu coeden i gofio am rywun rydych chi wedi\u2019i golli <\/strong><\/h6>\n
Mae\u2019r teitl yn y fan yma\u2019n hawdd ei ddeall ond mae plannu coeden ar gyfer rhywun sydd wedi\u2019ch gadael chi\u2019n rhodd anhygoel. Mae teulu\u2019n rhan hanfodol o\u2019r Nadolig a phan rydych chi\u2019n colli aelod o\u2019r teulu, mae\u2019r Nadolig yn gallu newid yn llwyr. Mae plannu coeden i rywun nid yn unig yn ffordd o gofio, ond hefyd yn weithgaredd teuluol pwysig i ddod \u00e2 phawb yn nes, gan helpu\u2019r amgylchedd ar yr un pryd.<\/h6>\n
Profiadau yn lle anrhegion wedi\u2019u lapio<\/strong><\/h6>\n
Pan rydych chi\u2019n 100 oed ac yn edrych yn \u00f4l ar eich bywyd, mae\u2019n bur debyg mai\u2019r peth fyddwch chi\u2019n ei gofio fwyaf fydd y naid bynji wnaethoch chi, nid y bom bath neu\u2019r sanau cynnes gawsoch chi ryw dro. Mae \u201canrhegion profiad\u201d yn creu atgofion (sydd, yn eu tro, yn gallu creu lluniau ar gyfer y Nadolig nesaf). Maen nhw nid yn unig yn rhodd i rywun arall, ond gallent gynnwys rhodd i chi eich hun! Does dim gwastraff gydag anrhegion profiad, dim ond llond gwlad o atgofion.<\/h6>\n
Rhoddion i elusennau <\/strong><\/h6>\n
Mae Santa Cudd yn si\u0175r o fod yn creu llawer iawn o anrhegion di-werth a gwastraff. Mae gwario \u00a35 yn si\u0175r o fod yn golygu eich bod yn cael jync di-werth a bar o siocled, sy\u2019n dda i ddim i neb. Meddyliwch: pe bai pob unigolyn mewn gr\u0175p o 30 o bobl yn rhoi\u2019r \u00a35 roedden nhw am ei gwario ar sbwriel da i ddim at ei gilydd, byddai\u2019n dod i gyfanswm o \u00a3150 i\u2019w roi at elusen a fyddai wir yn elwa o\u2019r arian. Rydw i\u2019n eithaf si\u0175r y byddai\u2019n well gen i wybod \u2019mod i wedi helpu rhywun na bod yn berchen ar set o ddannedd weindio sy\u2019n clecian hyd y bwrdd.<\/h6>\n
Mae Crisis<\/a>, elusen i\u2019r digartref, yn rhoi lle yn eu canolfannau i unigolion, i gael cinio Nadolig, cawod, dillad gl\u00e2n, archwiliad meddygol, cymorth iechyd meddwl a chyfres o wasanaethau eraill am ddim ond \u00a328.18. Os oes gennych chi griw o 7 o ffrindiau, dim ond \u00a34 yr un ydi hynny. Mae UNICEF<\/a> yn derbyn rhoddion o \u00a313.50 i roi brechiadau polio i 100 o blant, sy\u2019n llai na phumpunt rhwng 3 o bobl. Fel dewis arall, os ydych chi\u2019n siopa i rywun arall, beth am brynu cyfraniad at rywbeth sy\u2019n bwysig iddyn nhw ar eu cyfer. Elusen sydd wedi eu helpu neu fabwysiadu anifail maen nhw\u2019n ei hoffi?<\/h6>\n
Creu pethau eich hun <\/strong><\/h6>\n
Ym mhob t\u0177 adeg y Nadolig, bydd o leiaf 3 tun bisged neu focs siocled. Er bod y rhain yn hyfryd, NID oes posib ailgylchu\u2019r hambyrddau plastig du y tu mewn i\u2019r clawr cardfwrdd tlws. Ewch ar Google i newid hyn. Mae gan wefan bwyd y BBC ryseitiau hyfryd ar gyfer bisgedi a danteithion y gall y cogyddion lleiaf profiadol eu creu. Mae hyn nid yn unig yn helpu\u2019r amgylchedd ond hefyd yn weithgaredd teuluol hyfryd ac yn llawer rhatach.<\/h6>\n
Siopau elusen <\/strong><\/h6>\n
Mae siopau elusen yn anhygoel ac os nad ydych chi wedi bod mewn un, ewch! Maen nhw\u2019n rhad, yn rhoi oes hirach i nwyddau, o fudd i achosion anhygoel ac, yn well na dim, dydych chi byth yn gwybod beth ddewch chi ar ei draws! Dros gyfnod y Nadolig, mae siopau elusen yn gwerthu llawer iawn o gynhyrchion sydd wedi\u2019u cyfrannu fel anrhegion nad oedd pobl eu heisiau. Mae posib prynu pecynnau anrheg oedd yn costio \u00a350 yn wreiddiol am ychydig bunnoedd! Mae hyn nid yn unig yn arbed arian i chi, ond hefyd yn atal gwastraffu\u2019r cynhyrchion yma. Ac wrth gwrs, mae\u2019n gweithio\u2019r ffordd arall hefyd: os cewch chi 10 set bath nad oes gennych chi unrhyw fwriad eu defnyddio, beth am eu cyfrannu fel bod rhywun arall yn gallu eu mwynhau?<\/h6>\n

 <\/p>\n

 <\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"

Mae Lily Stringer yn cymryd rhan yn Rhaglen Arweinyddiaeth Amgylcheddol Caerdydd sy\u2019n cael ei chyflwyno gan UpRising. Mae ei blog yn herio ein harferion ni wrth brynu anrhegion Nadolig. Rhywbeth Sentimental Efallai bod hwn yn swnio\u2019n sinistr fel dechrau i flog am y Nadolig, ond ystyriwch hyn: pe baech chi\u2019n cael eich gorfodi o\u2019ch cartref […]<\/p>\n","protected":false},"author":48,"featured_media":5411,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[44],"tags":[315,335],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5370"}],"collection":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/48"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5370"}],"version-history":[{"count":2,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5370\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5412,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5370\/revisions\/5412"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/5411"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5370"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5370"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5370"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}