{"id":5373,"date":"2018-12-20T14:12:43","date_gmt":"2018-12-20T14:12:43","guid":{"rendered":"http:\/\/www.www.ourbrightfuture.co.uk\/cy\/?p=5373"},"modified":"2019-01-23T16:17:27","modified_gmt":"2019-01-23T16:17:27","slug":"lansio-rhaglen-arweinyddiaeth-amgylcheddol-uprising-2018-19","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/2018\/12\/20\/lansio-rhaglen-arweinyddiaeth-amgylcheddol-uprising-2018-19\/","title":{"rendered":"Lansio Rhaglen Arweinyddiaeth Amgylcheddol UpRising 2018-19"},"content":{"rendered":"
\"\"Lansiwyd Rhaglen Arweinyddiaeth Amgylcheddol UpRising 2018-19 fis Tachwedd eleni yn Llundain, Caerdydd, Manceinion a Birmingham. Rhoddwyd cychwyn i\u2019r rhaglen gyda Phenwythnos Lansio Arweinyddiaeth a gynhaliwyd ar yr un pryd yn y pedair dinas. Yn ystod y penwythnos, rhannodd yr UpRisers wybodaeth am yr heriau amgylcheddol allweddol sy\u2019n wynebu eu cymunedau lleol, yn ogystal \u00e2 deall eu r\u00f4l fel arweinwyr ifanc gwyrdd o ran goresgyn yr heriau hyn. \u00a0\u00a0<\/strong><\/h6>\n
Dyma Michael Woodland o Raglen Arweinyddiaeth Amgylcheddol Llundain i rannu ei feddyliau am y penwythnos …<\/h6>\n
Ddydd Sadwrn 10fed Tachwedd 2018, fe wnes i gyfarfod tua 30 o UpRisers eraill yn Western Snuff Mill yn Morden Hall Park i fynychu diwrnod cyntaf y Penwythnos Arweinyddiaeth Amgylcheddol. Nod y diwrnod yma oedd amlinellu\u2019r heriau amgylcheddol o bwys sy\u2019n wynebu\u2019r byd, ac edrych ar y gwahanol ddulliau arwain a\u2019r gwerthoedd sy\u2019n sail iddyn nhw.<\/h6>\n
Ar \u00f4l sgwrs i ddechrau a bingo i dorri\u2019r i\u00e2, fe gawson ni sgwrs am awr gan Dr Shahrar Ali<\/a>, cyn ddirprwy arweinydd y Blaid Werdd. Canolbwyntiodd Dr Ali ar amlinellu\u2019r heriau personol, technolegol ac economaidd sy\u2019n wynebu\u2019r byd o ran mynd i\u2019r afael \u00e2 newid yn yr hinsawdd. Hefyd soniodd Dr Ali am egwyddor o \u2018degwch i\u2019r cenedlaethau\u2019 i gyfiawnhau gweithredu. Roedd yr egwyddor yma\u2019n cynnwys y ddyletswydd foesol sydd gan y genhedlaeth bresennol i ddiogelu\u2019r byd presennol, ei ddaioni a\u2019i adnoddau ar gyfer cenedlaethau\u2019r dyfodol. Hefyd canolbwyntiodd Dr Ali ar \u2018anghyfiawnder hinsawdd\u2019 o ran bod newid yn yr hinsawdd yn cael effaith annheg ar wledydd sy\u2019n datblygu, gan olygu ei fod hefyd yn rhan o\u2019r ateb i drechu anghydraddoldeb byd-eang. Awgrymodd Dr Ali y gallai ein cenhedlaeth ni weithredu drwy gyhoeddi ffeithiau am ddirywiad amgylcheddol a lob\u00efo gwleidyddion i weithredu\u2019n ddeddfwriaethol yn erbyn newid yn yr hinsawdd.<\/h6>\n
Ar \u00f4l ei sgwrs fe gawson ni ginio ac wedyn seminar tair awr ar arweinyddiaeth. Yn y sesiwn yma roedden ni\u2019n edrych ar sut gellir rhannu arweinyddiaeth yn naw steil wahanol yn fras, gan gynnwys ideolegol, carismataidd, trawsffurfiol a moesol. Mae pob steil yn cynnwys gwahanol ddulliau a gwerthoedd ac fe wnaethon ni ddefnyddio\u2019r rhain gydag arweinwyr hanesyddol enwog (fel Nelson Mandela a Winston Churchill) i weld sut maen nhw\u2019n esbonio cyd-destunau mewn bywyd go iawn. Fe welson ni\u2019n fuan iawn bod y steiliau yma\u2019n gorgyffwrdd a bod posib iddyn nhw amrywio ar wahanol adegau ym mywyd arweinydd. Yn sail i\u2019r sesiwn yma roedd astudiaeth o rinweddau, sgiliau a gwerthoedd arweinydd effeithiol. Hefyd fe fuon ni\u2019n ystyried pa agweddau oedd yn rhan o\u2019n steil arwain ni a sut gallem gynnwys yr elfennau yma er mwyn gwella ein gallu i arwain. Daeth y sesiwn yma i ben drwy adlewyrchu ar beth wnaethon ni ei ddysgu yn ystod y dydd a thrafod sut gallem greu ein \u2018cynlluniau datblygu personol\u2019 ein hunain i gyflawni ein dyheadau.<\/h6>\n
Wrth adlewyrchu ar y diwrnod a\u2019r agweddau allweddol ar beth ddysgais i\u2019n bersonol, roeddwn i\u2019n teimlo bod sgwrs Dr Ali wedi codi syniadau diddorol. Yn benodol, roeddwn i\u2019n gallu uniaethu \u00e2\u2019r cysyniad o \u2018Greenwashing\u2019, gyda phobl yn cymryd camau \u2018gwyrdd\u2019 sy\u2019n cael effaith ar y broblem amgylcheddol yn gyffredinol. Un esiampl glir yw pobl yn prynu cwpan goffi ailddefnyddiadwy ond yn dal i brynu coffi bob dydd, sy\u2019n cefnogi\u2019r cylch o egsbloetio ffermwyr coffi mewn gwledydd sy\u2019n datblygu. Syniad diddorol arall a godwyd gan Dr Ali oedd y mudiadau trawsnewid trefi, ymgyrch gweithredu cymdeithasol lle mae dinasoedd yn y DU, fel Brixton a Bryste, yn ceisio meithrin cynhyrchwyr lleol ac atebion amgylcheddol gyfeillgar a chreu awyrgylch cymunedol iach. Un dull a ddefnyddir gan y mudiad yma yw defnyddio arian arall yn lle\u2019r bunt Brydeinig er mwyn cefnogi siopau lleol amgylcheddol gyfeillgar yn hytrach na chwmn\u00efau byd-eang corfforaethol. Er bod gan y mudiad yma lawer o waith i\u2019w wneud eto, mae\u2019r cysyniad wir yn cefnogi gwerthoedd gweithio yn lleol ac atebion \u00e2\u2019u ffocws ar y gymuned. Mae hyn o ddiddordeb i mi\u2019n bersonol o ran trawsnewid y dimensiynau p\u0175er yn y DU o\u2019r canol i\u2019r lleol ac arloesi ar gyfer datblygu dinasoedd cynaliadwy yn y dyfodol. Hefyd roedd y seminar yn nes ymlaen yn ddefnyddiol i ddeall sut mae\u2019n rhaid i steil arwain fod yn hyblyg a phwysleisio agweddau penodol ar adegau penodol, a beth oedd fy nghryfderau a\u2019m gwendidau personol i fel arweinydd. Yn gyffredinol, roedd y diwrnod yn ddefnyddiol iawn \u2013 roedd yn gr\u00eat dod i adnabod yr UpRisers eraill a gosod pwyslais allweddol y rhaglen ar gyfer y naw mis nesaf yn ei gyd-destun.<\/h6>\n

 <\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"

Lansiwyd Rhaglen Arweinyddiaeth Amgylcheddol UpRising 2018-19 fis Tachwedd eleni yn Llundain, Caerdydd, Manceinion a Birmingham. Rhoddwyd cychwyn i\u2019r rhaglen gyda Phenwythnos Lansio Arweinyddiaeth a gynhaliwyd ar yr un pryd yn y pedair dinas. Yn ystod y penwythnos, rhannodd yr UpRisers wybodaeth am yr heriau amgylcheddol allweddol sy\u2019n wynebu eu cymunedau lleol, yn ogystal \u00e2 deall […]<\/p>\n","protected":false},"author":45,"featured_media":5340,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[44],"tags":[315,335],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5373"}],"collection":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/45"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5373"}],"version-history":[{"count":1,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5373\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5374,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5373\/revisions\/5374"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/5340"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5373"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5373"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5373"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}