{"id":5443,"date":"2019-01-07T11:43:41","date_gmt":"2019-01-07T11:43:41","guid":{"rendered":"http:\/\/www.www.ourbrightfuture.co.uk\/cy\/?p=5443"},"modified":"2019-01-23T16:17:02","modified_gmt":"2019-01-23T16:17:02","slug":"our-bright-future-yn-ymweld-a-senedd-ieuenctid-yr-alban","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/2019\/01\/07\/our-bright-future-yn-ymweld-a-senedd-ieuenctid-yr-alban\/","title":{"rendered":"Our Bright Future yn ymweld \u00e2 Senedd Ieuenctid yr Alban"},"content":{"rendered":"
\"\"Mae Millie Duke a Kyle Baker yn rhan o brosiect Our Bright Future Fife<\/a>.<\/span> Roedden nhw\u2019n rhan o gr\u0175p o bobl ifanc o brosiectau sy\u2019n gweithio yn yr Alban a aeth ar ymweliad \u00e2 Senedd Ieuenctid yr Alban ym mis Rhagfyr 2018. Dyma eu meddyliau am y profiad.\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0 <\/strong><\/h6>\n
Roedd ein hymweliad diweddar ni \u00e2 Senedd Ieuenctid yr Alban<\/a><\/span> (SYP) yng Nghaeredin yn gyfle i ni ddeall beth ydi SYP yn well, a\u2019r prosiectau eraill oedd yn cael eu cynrychioli yn yr ymweliad. Roedd yn ddiddorol dysgu sut mae\u2019n cael ei gweithredu a sut mae pobl yn gwneud gwahaniaeth.<\/h6>\n
Fe gawson ni gyfle i gyfarfod pobl ifanc eraill oedd yn frwdfrydig iawn ac yn llawn cymhelliant i wella eu cymunedau; gan gynnwys pobl o raglen Ymddiriedolaeth Natur yr Alban<\/a><\/span>, sef Arweinwyr Ifanc<\/a>,<\/span> a dau fyfyriwr \u00f4l-radd o One Cherry<\/a><\/span> (rhan o The Environment Now<\/a><\/span>). Mae One Cherry yn ceisio dod \u00e2 siopa ail law yn rhan o fyd cyflym adwerthu ar-lein, i greu cenhedlaeth fwy cynaliadwy a moesegol o ddefnyddwyr.<\/h6>\n
Hwn oedd ein profiad cyntaf ni yn cyfarfod pobl oedd yn dod at ei gilydd i drafod syniadau newydd a rhannu eu huchelgais. Roedd yn eithriadol ysbrydoledig clywed eu straeon nhw a rhannu ein rhai ni. Fe gawson ni wybodaeth dda yn ystod y diwrnod am sut mae prosiectau eraill yn ceisio newid y ffordd rydyn ni\u2019n edrych ar y byd. Fe wnaethon ni fwynhau clywed gan y prosiectau eraill, fel yr Arweinwyr Ifanc, oedd yn siarad am eu hamcanion a\u2019u dyheadau a\u2019n helpu ni i ddeall y broses o roi cychwyn i brosiect newydd.<\/h6>\n
Fe gawson ni ein croesawu ar y diwrnod gan aelod o SYP, Calum McArthur<\/a><\/span>. Fe gawson ni wybod sut mae SYP yn gweithio a\u2019r ymgyrchoedd mae\u2019n eu cefnogi. Eleni mae\u2019r ffocws mawr ar fynediad i drafnidiaeth, sy\u2019n her enfawr mewn ardaloedd gwledig. Roedd hwn yn gyfle i ni esbonio ein cyswllt ni \u00e2 rhaglen Lefel Dau Our Bright Future yn Fife. Fe wnaethon ni s\u00f4n am y cyfleoedd rydyn ni wedi\u2019u cael fel rhan o\u2019n prosiect, sy\u2019n helpu pobl ifanc i ddod yn rhan o\u2019r sector gwledig a meithrin sgiliau a llwyddo mewn meysydd fel garddwriaeth a choedwigaeth. Roedd posib i ni rannu pa mor bwysig ydi\u2019r rhaglen i ni a pha mor hygyrch ydi addysg, hyfforddiant a phrofiad gwaith o ganlyniad iddi; rhywbeth sydd ddim ar gael i lawer o bobl ifanc.<\/h6>\n
Fe wnaethon ni fwynhau\u2019n fawr y profiad o siarad ar ran Our Bright Future fel llysgenhadon ar gyfer y rhaglen. Roedd yn deimlad da gwybod bod posib i bawb oedd yn bresennol ddefnyddio ein gwybodaeth ni fel cyfrwng i wella eu ffyrdd o weithio, os bydd angen, a pha mor gefnogol oedd pawb.<\/h6>\n
Roedd y diwrnod yn brofiad da ac fe gawson ni wybodaeth wych am y prosiectau eraill. Fe fydden ni wrth ein bodd yn cael mynd i unrhyw ddigwyddiadau eraill ac fe fyddem yn annog unrhyw un i wneud hynny os bydd y cyfle\u2019n codi!<\/h6>\n

 <\/p>\n

 <\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"

Mae Millie Duke a Kyle Baker yn rhan o brosiect Our Bright Future Fife. Roedden nhw\u2019n rhan o gr\u0175p o bobl ifanc o brosiectau sy\u2019n gweithio yn yr Alban a aeth ar ymweliad \u00e2 Senedd Ieuenctid yr Alban ym mis Rhagfyr 2018. Dyma eu meddyliau am y profiad.\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0 Roedd ein hymweliad diweddar ni \u00e2 Senedd […]<\/p>\n","protected":false},"author":47,"featured_media":5436,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[44],"tags":[309,316,318,308],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5443"}],"collection":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/47"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5443"}],"version-history":[{"count":1,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5443\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5444,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5443\/revisions\/5444"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/5436"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5443"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5443"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5443"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}