{"id":5538,"date":"2019-01-31T11:52:13","date_gmt":"2019-01-31T11:52:13","guid":{"rendered":"http:\/\/www.www.ourbrightfuture.co.uk\/cy\/?p=5538"},"modified":"2019-01-31T11:52:13","modified_gmt":"2019-01-31T11:52:13","slug":"blaen-troed-yn-y-dwr-dechrau-ar-yrfa-mewn-cadwraeth-forol","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/2019\/01\/31\/blaen-troed-yn-y-dwr-dechrau-ar-yrfa-mewn-cadwraeth-forol\/","title":{"rendered":"\u2018Blaen troed yn y d\u0175r\u2019: dechrau ar yrfa mewn cadwraeth forol"},"content":{"rendered":"
\"\"Ar \u00f4l astudio Swoleg Forol, ymunodd Adele Morgan \u00e2 Your Shore Beach Rangers fel prentis y prosiect. Mae wedi gweithio gyda\u2019i gyfryngau cymdeithasol ac mae\u2019n cyflwyno ei sesiynau ieuenctid ers blwyddyn bron. <\/strong><\/h6>\n
Dydw i ddim yn cofio amser pan nad oeddwn i\u2019n hoffi byd natur. Wrth dyfu i fyny, roedd bywyd gwyllt trefol o \u2019nghwmpas i ym mhob man; llwynogod, wiwerod llwyd, moch daear a hwyaid gwyllt. Roeddwn i\u2019n byw yng nghefn Afon Whey lle\u2019r oedd fy nhad yn warden d\u0175r gyda\u2019r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Fe dreuliais i \u2019mhlentynod yn chwilio am ddaearau moch daear, yn gwneud casts o olion traed anifeiliaid ac yn mynd ar deithiau tywys fy nhad yn chwilio am ystlumod a bywyd gwyllt c\u0175l arall.<\/h6>\n
Roedden ni\u2019n mynd i Gernyw am wyliau haf yn rheolaidd a dyna pryd ddois i ar draws bywyd y m\u00f4r a chael obsesiwn gyda\u2019r byd tanddwr. Fe symudais i i Gernyw yn 18 oed i astudio yng Ngholeg Cernyw yn Newquay ac, ar \u00f4l graddio gyda gradd Baglor mewn Swoleg Forol Gymhwysol, fe gefais i fy nerbyn ar brentisiaeth gydag Ymddiriedolaeth Natur Cernyw. Rydw i\u2019n gweithio i brosiect Your Shore Beach Rangers, sef prosiect 5 mlynedd sy\u2019n cael ei gyllido gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol drwy raglen Our Bright Future. Ei nod yw denu ac ysbrydoli pobl ifanc rhwng 11 a 24 oed a\u2019u cymunedau ehangach i ymwneud mwy ag amgylchedd y m\u00f4r. Fy r\u00f4l i yn y brentisiaeth yma yw gofalu am y cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, helpu o ddydd i ddydd gyda thasgau gweinyddol a chynorthwyo gyda chynnal digwyddiadau ledled sir Cernyw.<\/h6>\n
Cyn y brentisiaeth yma, doeddwn i erioed wedi gweithio gyda phobl ifanc o\u2019r blaen. Roeddwn i\u2019n annibynnol tu hwnt ac yn ffafrio bod allan ym myd natur ar fy mhen fy hun yn hytrach nag yng nghwmni llawer o blant. Roedd rhaid i mi newid fy ffordd o feddwl yn gyflym iawn wrth ddechrau ymwneud \u00e2\u2019r prosiect wardeiniaid traeth (oherwydd gweithio gyda phobl ifanc ydi\u2019r holl nod wedi\u2019r cwbl!) a nawr, ar \u00f4l bron i flwyddyn, rydw i wrth fy modd! Mae\u2019r plant sy\u2019n dod i\u2019r digwyddiadau\u2019n frwdfrydig, cyffrous ac eisiau bod yno ac yn fodlon dysgu. Mae eu hymennydd nhw fel sbwng ac maen nhw\u2019n sugno bob tamaid o wybodaeth rydych chi\u2019n ei rhannu, yn enwedig y ffeithiau doniol, a ffiaidd weithiau, am greaduriaid y pyllau creigiog! Mae gwybod ei bod yn well ganddyn nhw fod allan yn yr awyr agored nag ar eu iPad yn gwneud fy ngwaith i\u2019n bleser pur. Mae eu hangerdd a\u2019u brwdfrydedd nhw\u2019n cynyddu fy mwynhad i o fyd natur ac mae gweithio gyda phobl ifanc wedi dysgu llawer i mi yn sicr. Rydw i\u2019n llawer mwy amyneddgar a bodlon, ac yn fwy parod i ddeall, ac mae gwybod bod pobl ifanc yn meithrin sgiliau bywyd a gwybodaeth yn ein digwyddiadau ni\u2019n fy nghymell i i ddal ati.<\/h6>\n
Roedd dau ddigwyddiad penodol yn ystod 2018 oedd yn uchafbwyntiau o ran helpu i ddenu ac ysbrydoli pobl ifanc.<\/h6>\n
Gorffennaf 2018 \u2013 Saffari Snorcelu, Bude<\/strong><\/h6>\n
Dyma\u2019r saffari snorcelu cyntaf i mi ar \u00f4l cwblhau cwrs hyfforddwr snorcelu BSAC. Doedd un ferch ifanc tua 13 oed heb snorcelu o\u2019r blaen. Roedd yn nerfus iawn ac yn amharod i fynd i mewn i\u2019r d\u0175r, ac felly fe fuon ni yn y d\u0175r bas am sbel tra oeddwn i\u2019n ei dysgu hi i roi ei hoffer ymlaen ac anadlu drwy ei snorcel. Pan oedd yn teimlo\u2019n ddigon hyderus, fe aethon ni i mewn i\u2019r d\u0175r, ac yn gafael yn fy llaw i drwy\u2019r amser, fe gafodd hi gyfle i archwilio\u2019r byd tanddwr am y tro cyntaf. Roeddwn i\u2019n gallu ei chlywed yn gwichian mewn pleser drwy ei snorcel wrth bwyntio at wrachod y m\u00f4r yn cuddio yng nghanol y gwymon, cranc heglog yn cropian ar hyd gwely\u2019r m\u00f4r, a\u2019r slefren gribog oedd yn arnofio yn y d\u0175r o\u2019n blaen. Ar \u00f4l 10 munud o nofio, fe ddangosais i iddi sut i blymio dan y d\u0175r i gael gwared ar y d\u0175r o\u2019i snorcel. Ar \u00f4l fy nghop\u00efo i (yn berffaith hefyd), roedd hi\u2019n fwy hyderus ynddi hi\u2019i hun. Gollyngodd fy llaw a mynd ati i snorcelu ar ei phen ei hun. Roedd hi wrth ei bodd ac fe wnaeth y profiad fy nghymell a fy ysbrydoli i i ddysgu mwy o blant i snorcelu a manteisio i\u2019r eithaf ar amgylchedd y m\u00f4r.<\/h6>\n
Medi 2018 \u2013 Crwydro Pyllau Creigiog, Porthpean<\/strong><\/h6>\n
Rydw i wrth fy modd yn archwilio pyllau creigiog ac ar ben fy nigon yn gwyro dros bwll neu ffos i weld beth sydd yno. Fe gawson ni sesiwn archwilio pyllau creigiog fel rhan o Gr\u0175p Bywyd Gwyllt Three Bays ac fe wnes i gyfarfod Charlie, bachgen ifanc brwdfrydig oedd wrth ei fodd yn archwilio pyllau creigiog. Fe gawson ni amser gwych yn codi creigiau i ddod o hyd i grancod ac yn symud drwy\u2019r pyllau creigiog yn chwilio am anemon\u00efau. Roedd wedi gwirioni ar fy nghamera tanddwr i ac felly fe wnes i ddangos iddo sut i\u2019w ddefnyddio ac i ffwrdd \u00e2 fo. Roedd rhoi cyfrifoldeb iddo am y camera, ac ymddiried ynddo, yn helpu i feithrin ei hyder ac yn gyfle iddo gymryd rhan mewn rhywbeth oedd yn ei wneud yn fwy cyffrous. Ers hynny, mae Charlie wedi dod i sawl sesiwn archwilio pyllau arall ac mae\u2019n hynod frwdfrydig a chyffrous. Mae wedi gofyn am ei gamera tanddwr ei hun hyd yn oed!<\/h6>\n
Mae gweld pobl ifanc yn magu hyder a gwybodaeth wrth i\u2019n t\u00eem ni eu haddysgu nhw\u2019n rhoi llawer o foddhad. Os ydyn ni am ddenu ac ysbrydoli\u2019r genhedlaeth nesaf i fod eisiau gwarchod yr amgylchedd, rydyn ni wir yn credu bod rhaid i ni fynd \u00e2 nhw allan i deimlo\u2019r cyswllt arbennig yna gyda byd natur. Rydw i\u2019n byw\u2019n agos at y m\u00f4r nawr, gyda nod o weithio mewn cadwraeth forol. Rydw i\u2019n treulio fy amser yn archwilio pyllau creigiog, yn cerdded ar hyd llwybrau\u2019r arfordir, yn snorcelu drwy fforestydd o wymon ac yn rhannu fy holl wybodaeth gyda biolegwyr m\u00f4r ifanc. Rydw i\u2019n byw\u2019r freuddwyd ac yn anelu\u2019n uchel!<\/h6>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"

Ar \u00f4l astudio Swoleg Forol, ymunodd Adele Morgan \u00e2 Your Shore Beach Rangers fel prentis y prosiect. Mae wedi gweithio gyda\u2019i gyfryngau cymdeithasol ac mae\u2019n cyflwyno ei sesiynau ieuenctid ers blwyddyn bron. Dydw i ddim yn cofio amser pan nad oeddwn i\u2019n hoffi byd natur. Wrth dyfu i fyny, roedd bywyd gwyllt trefol o \u2019nghwmpas […]<\/p>\n","protected":false},"author":50,"featured_media":5521,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[44],"tags":[344,343],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5538"}],"collection":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/50"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5538"}],"version-history":[{"count":1,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5538\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5539,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5538\/revisions\/5539"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/5521"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5538"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5538"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5538"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}