{"id":5615,"date":"2019-03-11T12:16:21","date_gmt":"2019-03-11T12:16:21","guid":{"rendered":"http:\/\/www.www.ourbrightfuture.co.uk\/cy\/?p=5615"},"modified":"2019-03-11T12:16:53","modified_gmt":"2019-03-11T12:16:53","slug":"hill-holt-wood-ar-y-ffordd","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/2019\/03\/11\/hill-holt-wood-ar-y-ffordd\/","title":{"rendered":"Hill Holt Wood ar y ffordd"},"content":{"rendered":"
\"\"Mae prosiect Growing Up Green<\/a> yn Hill Holt Wood yn un o 31 o brosiectau Our Bright Future ledled y DU. Mae\u2019n cael 4,000 o bobl ifanc ger Lincoln i ymwneud \u00e2\u2019r byd natur ar garreg eu drws. Dyma\u2019r Uwch Warden, Gavin, i s\u00f4n am eu tripiau i ymweld \u00e2 phrosiectau eraill Our Bright Future. <\/strong><\/h6>\n
\u2018Rydyn ni\u2019n mynd i ymweld \u00e2 phob prosiect\u2019 dywedodd Steve, Prif Weithredwr Hill Holt Wood! Fe welodd pawb yn y t\u00eem hyn fel cyfle i godi allan a chael ein hysbrydoli. Fe aethon ni ati i ymweld \u00e2\u2019r prosiectau eraill a hefyd croesawu prosiectau atom ni, gan ein bod ni wir eisiau hybu ethos Rhannu Dysgu Gwella y rhaglen.<\/h6>\n
O\u2019r dechrau roedden ni\u2019n gwybod ein bod ni eisiau rhannu\u2019r profiadau a\u2019r cyfleoedd gyda\u2019n t\u00eem cyfan ni o wardeniaid a chynnwys pobl ifanc bob cam o\u2019r ffordd. Roedd y trip cyntaf un i\u2019r Alban, i brosiect Our Bright Future Fife<\/a>. Roedd yn cynnwys uwch warden, aelod o d\u00eem y swyddfa a thri dysgwr. Fel sy\u2019n digwydd yn aml, y trip cyntaf oedd yr un mwyaf cofiadwy ac roedd yn llwyddiant ysgubol. Gwersylla o dan y s\u00ear, cerdded drwy fforest binwydd drwchus ac anwesu pen tarw oedd yr uchafbwyntiau mwyaf!<\/h6>\n
Ym mis Gorffennaf 2016, aethon ni i\u2019r prosiect Creu Cymunedau Cynaliadwy<\/a> yn Ne Cymru. Roedd hwn yn arbennig iawn am nad oedd dau o\u2019n dysgwyr ni wedi bod y tu allan i Loegr o\u2019r blaen, felly roedden nhw wedi cyffroi! Ym mis Medi fe aethon ni i Hull i gyfarfod y prosiect Youth In Nature<\/a>, gan ymweld \u00e2 Gwarchodfa Natur Spurn Point i gymharu cynefinoedd. Ym mis Hydref, fe fuon ni\u2019n dringo dros greigiau gyda Growing Confidence<\/a> ac ym mis Tachwedd cafwyd trip lleol i Tomorrow\u2019s Natural Leaders<\/a> yn Sir Efrog.<\/h6>\n
Croesawyd y Flwyddyn Newydd yn 2017 gyda thrip i weld perllan wedi\u2019i phlannu gan Fruitfull Communities<\/a> yn YMCA Norwich. Fe wnaethon ni beli hadau blodau gwyllt gyda nhw! Cyn diwedd y mis, fe fuon ni hefyd yn BEE You<\/a> i weld eu prosiect cadw gwenyn. Cafwyd tripiau i Your Shore Beach Rangers<\/a>, Putting Down Roots for Young People<\/a>, Green Futures<\/a> a\u2019r rhaglen UpRising Environmental Leadership<\/a> yn nes ymlaen yn y gwanwyn.<\/h6>\n
Dangosodd y prosiect Green Academies<\/a> Morden Hall i ni ym mis Mehefin ac fe wnaethon ni yrru lawr i Sir Wilt i weld Milestones<\/a>. Bod yn rhyngwladol oedd yn mynd \u00e2\u2019n bryd ni ym mis Gorffennaf gan deithio i weld prosiect Grassroots Challenge<\/a> yn Belfast. Hwn oedd y tro cyntaf i ddau o\u2019n pobl ifanc ni hedfan ac roedd yn esiampl berffaith o sut mae Our Bright Future yn gallu ehangu gorwelion. Ym mis Gorffennaf fe fuon ni\u2019n gwneud gwaith celf gyda Creative Pathways for Environmental Design<\/a> yn yr Alban. Ym mis Medi, fe gawson ni ymweliad llawn gwybodaeth \u00e2 Bright Green Future<\/a> a thrip ysbrydoledig i Our Bright Future Avon a Sir Gaerloyw<\/a>. Fe wnaed dau ymweliad yn ystod yr un trip y tro yma, i leihau\u2019r milltiroedd oedden ni\u2019n eu teithio. Fe wnaethon ni geisio gwneud hyn bob tro roedd yn gwneud synnwyr.<\/h6>\n
Daeth yn fis Hydref ac fe fuon ni\u2019n gwerthu llysiau a ffrwythau ffres lleol i fyfyrwyr yn mynd heibio ym Mhrifysgol Sheffield gyda Student Eats<\/a>, cyn mynd i Myplace<\/a> yn Sir Gaerhirfryn a Spaces 4 Change<\/a> yn Llundain. Yma fe welson ni gynlluniau ar gyfer canolfan siopa wag, i\u2019w hadfywio fel hwb cymunedol, a gofod bach mewn to sydd wedi cael ei newid yn gampfa. One Planet Pioneers<\/a> wnaeth ein croesawu ni nesaf wrth i\u2019r tywydd droi a hithau\u2019n fis Tachwedd. Yn olaf, fe ddaethon ni \u00e2 blwyddyn brysur i ben drwy deithio i Welcome to the Green Economy<\/a>.<\/h6>\n
2018 oedd blwyddyn y tripiau olaf, gan ddechrau gyda My World My Home<\/a> ym mis Chwefror a\u2019n trip hirddisgwyliedig prysur (angen siwtiau gwlyb!) i Ein Glannau Gwyllt<\/a> yng Ngogledd Cymru ym mis Mai. Cafwyd tripiau i Vision England<\/a> a Green Leaders<\/a> ym mis Hydref, gan archwilio dinas Manceinion gyda Green Leaders. Roedd hwn yn brofiad anhygoel yn dangos gwerth dysgu am ddiwylliant yr ardaloedd lle mae\u2019r prosiectau eraill wedi\u2019u lleoli.<\/h6>\n
Fe ddaeth cymaint o bethau positif o\u2019r ymweliadau; cael syniadau newydd, gweld llefydd newydd, dod i adnabod ein pobl ifanc yn well a theimlo\u2019n rhan o fudiad mwy. Fe wnaethon ni ddechrau darganfod faint o bobl (ifanc a llai ifanc!) sy\u2019n poeni am fyd natur cymaint \u00e2 ni! O safbwynt amgylcheddol, y pryder mwyaf yw\u2019r milltiroedd sy\u2019n cael eu teithio. Mae gyrru a hedfan i brosiectau\u2019n gadael \u00f4l troed carbon sylweddol. Er hyn, rydyn ni\u2019n sicr bod y manteision i\u2019n pobl ifanc ni ac i\u2019r staff a\u2019r rhaglen yn fwy na\u2019r anfanteision yn gyffredinol. Pwy a \u0175yr faint o garbon fyddwn ni\u2019n ei arbed nawr ein bod ni wedi addysgu ac ysbrydoli\u2019r bobl yma i wneud gwell dewisiadau amgylcheddol?<\/h6>\n
Meddai Steve ar ddiwedd ein hymweliadau, \u2018Er mai 45 o wahanol dripiau cyfnewid oedd y rhain, rydw i\u2019n ei gweld hi fel un rhaglen gyflawn, nid 31 o brosiectau ar wah\u00e2n. Mae\u2019n gwneud synnwyr i weld beth mae pawb yn ei wneud. Mae pob siwrnai\u2019n ehangu gorwelion ein hieuenctid ni; profiadau newydd, bwyd newydd, pobl newydd a diwylliannau newydd.\u2019 Diolch i bawb sy\u2019n parhau i sicrhau bod y rhannu, y dysgu a\u2019r gwella mor gofiadwy a gwerthfawr. Daliwch ati gyda\u2019r gwaith anhygoel.<\/h6>\n

 <\/p>\n

 <\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"

Mae prosiect Growing Up Green yn Hill Holt Wood yn un o 31 o brosiectau Our Bright Future ledled y DU. Mae\u2019n cael 4,000 o bobl ifanc ger Lincoln i ymwneud \u00e2\u2019r byd natur ar garreg eu drws. Dyma\u2019r Uwch Warden, Gavin, i s\u00f4n am eu tripiau i ymweld \u00e2 phrosiectau eraill Our Bright Future. […]<\/p>\n","protected":false},"author":19,"featured_media":5602,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[44],"tags":[145,324,325,134],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5615"}],"collection":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/19"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5615"}],"version-history":[{"count":2,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5615\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5617,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5615\/revisions\/5617"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/5602"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5615"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5615"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5615"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}