{"id":5663,"date":"2019-03-14T11:07:44","date_gmt":"2019-03-14T11:07:44","guid":{"rendered":"http:\/\/www.www.ourbrightfuture.co.uk\/cy\/?p=5663"},"modified":"2019-03-20T16:49:55","modified_gmt":"2019-03-20T16:49:55","slug":"our-bright-future-yn-teithio-i-san-steffan","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/2019\/03\/14\/our-bright-future-yn-teithio-i-san-steffan\/","title":{"rendered":"Our Bright Future yn teithio i San Steffan"},"content":{"rendered":"
\"\"Aelod o Fforwm Ieuenctid Our Bright Future, Rachel Sampara, sy\u2019n rhannu ei phrofiad o deithio i Lundain i gyfarfod ASau. Mae\u2019n diwtor cadw gwenyn gyda phrosiect Blackburne House, <\/strong>BEE You<\/strong><\/a>. <\/strong><\/h6>\n
Roedd bore\u2019r 5ed o Fawrth 2019 yn fore ffres ac oer o wanwyn yn Llundain. Hwn oedd y diwrnod pryd oedd prosiectau Our Bright Future ledled y DU yn ymweld \u00e2 San Steffan.<\/h6>\n
Drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf, mae\u2019r prosiectau wedi mynychu cyfarfodydd rheolaidd ledled y wlad, i baratoi ar gyfer y digwyddiad yma. Gwnaed penderfyniadau ynghylch y tri chais roedden ni eisiau eu cyflwyno i\u2019r Senedd a sut orau i wneud hynny. Roedd y siaradwyr gwadd yn y cyfarfod diweddar o\u2019r Fforwm Ieuenctid<\/a> ym Manceinion yn cynnwys Cyfeillion y Ddaear, wnaeth gynghori ar y ffyrdd gorau o wahodd ein ASau i\u2019r digwyddiad a sut i fynegi ein tri chais ar y diwrnod.<\/h6>\n
Ar fore\u2019r digwyddiad, fe gawsom ni i gyd ein tywys o amgylch y Tai Seneddol. Roedd hwn yn gyfle i weld sut mae\u2019r Senedd yn gweithio, o\u2019i dechrau hanesyddol i\u2019r oes heddiw. Roedd y daith yn brofiad addysgol i ni a hefyd yn gosod y naws, yn barod ar gyfer y digwyddiad rhwydweithio gyda\u2019r ASau y prynhawn hwnnw.<\/h6>\n
Aeth m\u00f4r o bobl ifanc a staff Our Bright Future, mewn dillad print bywyd gwyllt i gyd, i mewn i San Steffan ar \u00f4l cinio. Fe wnaethon ni drefnu ein hunain yn \u00f4l ardaloedd y prosiectau fel bod yr ASau yn gallu dod o hyd i\u2019w prosiectau lleol yn hawdd. Cyflwynwyd ein ceisiadau i\u2019n ASau lleol, gan ofyn am gefnogaeth, ymrwymiad a dilyniant am eu cynnydd.<\/h6>\n
Cafwyd te prynhawn ac wedyn y cyflwyniadau cychwynnol. Roedd hwn yn gyfle i bawb anadlu ac ymlacio yn barod ar gyfer siarad gyda\u2019r ASau. Roedd mwy o ryngweithio (gydag egwyl i fwyta cacennau!) wrth i\u2019r bore droi\u2019n brynhawn.<\/h6>\n
Bu\u2019r bobl ifanc a\u2019r ASau yn sgwrsio\u2019n ddwys ac roedd yr ystafell yn fwrlwm o egni positif! Yng nghanol y rhwydweithio, cafwyd areithiau hefyd gan Rushanara Ali (AS Llafur a chydsylfaenydd partner Our Bright Future, UpRising<\/a>), a gyflwynodd grynodeb o\u2019r rhaglen a diolch i bawb oedd yn gysylltiedig, a hefyd Peter Ainsworth (Cadeirydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol), a ddangosodd fideo<\/a> byr oedd yn cynnwys ein tri chais:<\/h6>\n
    \n
  1. \n
    mwy o amser yn cael ei dreulio ym myd natur ac yn dysgu am natur<\/h6>\n<\/li>\n
  2. \n
    cefnogaeth i gael swyddi amgylcheddol<\/h6>\n<\/li>\n
  3. \n
    y Llywodraeth, cyflogwyr, busnesau, ysgolion ac elusennau i roi mwy o sylw i anghenion pobl ifanc a\u2019r amgylchedd<\/h6>\n<\/li>\n<\/ol>\n
    Hefyd cafwyd areithiau gan ddau berson ifanc o wahanol brosiectau Our Bright Future: Amelia Fawcett o Green Futures<\/a> a Dara McAnulty o Grassroots Challenge<\/a>. Fe gawsom ni hanes eu profiadau personol ac roedden nhw mor angerddol a chlir am bwysigrwydd cefnogi pobl ifanc mewn addysg amgylcheddol. Dyma ddwy esiampl ragorol o beth mae pobl ifanc yn gallu\u2019i gyflawni, gyda chefnogaeth Our Bright Future. Daeth y diwrnod i ben ar nodyn pwerus ac ysbrydoledig iawn!<\/h6>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"

    Aelod o Fforwm Ieuenctid Our Bright Future, Rachel Sampara, sy\u2019n rhannu ei phrofiad o deithio i Lundain i gyfarfod ASau. Mae\u2019n diwtor cadw gwenyn gyda phrosiect Blackburne House, BEE You. Roedd bore\u2019r 5ed o Fawrth 2019 yn fore ffres ac oer o wanwyn yn Llundain. Hwn oedd y diwrnod pryd oedd prosiectau Our Bright Future […]<\/p>\n","protected":false},"author":38,"featured_media":5633,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[44],"tags":[311,141,247,312,149,168],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5663"}],"collection":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/38"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5663"}],"version-history":[{"count":3,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5663\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5717,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5663\/revisions\/5717"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/5633"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5663"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5663"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5663"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}