{"id":5971,"date":"2019-06-04T10:44:08","date_gmt":"2019-06-04T09:44:08","guid":{"rendered":"http:\/\/www.www.ourbrightfuture.co.uk\/cy\/?p=5971"},"modified":"2019-06-04T10:44:08","modified_gmt":"2019-06-04T09:44:08","slug":"un-o-brofiadau-balchaf-fy-mywyd","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/2019\/06\/04\/un-o-brofiadau-balchaf-fy-mywyd\/","title":{"rendered":"\u2018Un o brofiadau balchaf fy mywyd\u2019"},"content":{"rendered":"
\"\"Sion ydw i ac ar hyn o bryd rydw i’n cymryd rhan yn <\/strong>Rhaglen Arweinyddiaeth Amgylcheddol<\/strong><\/a><\/span> UpRising, sef un o brosiectau Our Bright Future. <\/strong><\/h6>\n
Dechreuodd y cyfan gyda galwad na lwyddais i\u2019w hateb a neges destun gan Libbi, Cydlynydd Rhaglen UpRising ar gyfer Caerdydd. Yn ei neges, dywedodd Libbi \u201cFfonia fi pan gei di funud, mae gen i gyfle fydd o ddiddordeb i ti efallai\u201d. Roeddwn i newydd orffen gweithio ac yn aros am fws i fynd adref felly fe ffoniais hi’n \u00f4l. Yna gofynnodd i mi a fyddwn i\u2019n hoffi rhoi araith ar newid yn yr hinsawdd yn un o ddigwyddiadau Llywodraeth Cymru. Fe gefais i sioc! Ers tro bellach, rydw i wedi bod yn frwd iawn dros frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd, ac rydw i wedi bod eisiau\u2019r cyfle i siarad \u00e2 phobl sydd mewn grym i geisio dylanwadu arnyn nhw i wneud newidiadau cadarnhaol. A minnau’n dal mewn sioc, fe gytunais i fanteisio ar y cyfle. Ar \u00f4l dod oddi ar y ff\u00f4n, roeddwn i\u2019n teimlo’n nerfus ond yn llawn cyffro ar yr un pryd. Roeddwn i\u2019n w\u00ean o glust i glust ond yn methu credu\u2019r peth chwaith! Dyma\u2019r cyfle yr oeddwn i wedi bod yn aros amdano.<\/h6>\n
Enw\u2019r digwyddiad oedd \u201cFfyniant i Bawb:<\/a> Cymru Carbon Isel<\/a><\/span>\u201d, lle byddai Llywodraeth Cymru yn datgan ei chynllun ar gyfer lleihau ei hallyriadau hyd at 2050. Roedd gen i tua phythefnos i baratoi cyn y digwyddiad. Dros y dyddiau nesaf, fe ddechreuais feddwl am y mathau o bethau roeddwn i eisiau eu dweud, ac yna, wythnos cyn y digwyddiad, ysgrifennais ddrafft cyntaf yr araith. Anfonais y drafft at Libbi a’i ddarllen i fy nheulu, a chefais adborth cadarnhaol gan bawb. Roeddwn i\u2019n hyderus bod fy araith yn dda, ond roedd yn rhaid i mi ei chyflwyno’n berffaith. Fe wnes i ymarfer ac ymarfer a golygu fy araith nes \u2019mod i\u2019n fodlon \u00e2 hi.<\/h6>\n
Roedd diwrnod y digwyddiad wedi cyrraedd. Roedd yn rhaid i mi ddeffro’n gynnar gan fod gen i gyfweliad byw ar Radio Cymru\u2019r BBC i drafod y digwyddiad. Aeth y cyfweliad yn dda felly es i’n \u00f4l i gysgu am awr cyn gwisgo fy siwt a mynd yn \u00f4l i westy\u2019r Exchange lle\u2019r oedd y digwyddiad yn cael ei gynnal. Dyma\u2019r hen gyfnewidfa lo, y busnes masnachu glo mwyaf yn y byd a’r man lle llofnodwyd y siec gyntaf erioed am filiwn o bunnoedd. Roedd yn deimlad rhyfedd bod rhywle a oedd yn arfer cael ei ddefnyddio i fasnachu’r tanwydd ffosil mwyaf budur bellach yn cynnal digwyddiad hanesyddol lle byddai Cymru yn ceisio mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019i hallyriadau.<\/h6>\n
Aeth rhywun \u00e2 fi i’r ystafell werdd lle cwrddais \u00e2 Sophie Howe, Swyddog Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, a Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, ymysg eraill. Ar \u00f4l rhywfaint o f\u00e2n siarad, roedd hi\u2019n amser i ni fynd i\u2019n seddi. Dechreuodd y diwrnod gyda sgwrs gan Mark Drakeford a Sophie Howe i ddilyn, ac yna fi. Roeddwn i\u2019n nerfus iawn gyda phob eiliad oedd yn mynd heibio yn gwrando ar y bobl o’m blaen a chyn i mi sylweddoli, daeth fy nhro i. Fe geisiais dawelu fy nerfau am y tro olaf cyn cerdded ar y llwyfan. Ac er gwaethaf fy nerfau, aeth yr araith yn dda, a chododd pawb ar eu traed ar y diwedd (gwyliwch yr araith yma<\/a> <\/span>drwy sgrolio i 2:07:41).<\/h6>\n
Wedyn, fe aeth rhywun \u00e2 mi i ystafell lle cafodd gr\u0175p o bobl ifanc gyfle i ofyn rhywfaint o gwestiynau i Mark Drakeford cyn cwblhau rhywfaint o gyfweliadau ar gyfer BBC Wales. Ar \u00f4l hynny cefais fynd yn \u00f4l i eistedd yn y brif ystafell i wrando ar weddill y siaradwyr cyn cinio. Dros ginio, daeth llawer o bobl ataf i’m llongyfarch ar fy araith ac i gyfnewid manylion cyswllt er mwyn gweithio gyda\u2019n gilydd yn y dyfodol.<\/h6>\n
Mae\u2019r profiad yma wedi dangos i mi y drysau y gall Our Bright Future eu hagor. Mae hefyd yn dangos os cewch chi gyfle da y dylech bob amser fanteisio arno, waeth pa mor frawychus mae’n ymddangos. Yn aml, y sefyllfaoedd sydd fwyaf anghyfforddus ac sy’n ein gorfodi ni i wthio ein hunain, ydi’r rhai sy\u2019n dysgu\u2019r gwersi pwysicaf i ni. Mae fy enw i’n gyfarwydd i bobl ac rydw i dal mewn cysylltiad \u00e2 llawer o\u2019r bobl wnes i eu cyfarfod yn y digwyddiad. Ers hynny rydw i wedi cael mwy o gyfleoedd ac rydw i wedi cael gwahoddiad i ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru hyd yn oed! Mae’r cyfleoedd gwych y mae Our Bright Future yn eu cynnig yn galluogi pobl i rwydweithio gyda phobl allweddol a dylanwadol yn y sector. Fe fyddwn i\u2019n annog unrhyw un sy’n ystyried cymryd rhan yn unrhyw un o\u2019r prosiectau i fynd amdani ar bob cyfrif. Dyna wnes i ac fe arweiniodd at un o brofiadau balchaf fy mywyd i!<\/h6>\n
<\/h6>\n

 <\/p>\n

 <\/p>\n

 <\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"

Sion ydw i ac ar hyn o bryd rydw i’n cymryd rhan yn Rhaglen Arweinyddiaeth Amgylcheddol UpRising, sef un o brosiectau Our Bright Future. Dechreuodd y cyfan gyda galwad na lwyddais i\u2019w hateb a neges destun gan Libbi, Cydlynydd Rhaglen UpRising ar gyfer Caerdydd. Yn ei neges, dywedodd Libbi \u201cFfonia fi pan gei di funud, […]<\/p>\n","protected":false},"author":56,"featured_media":5948,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[19],"tags":[315,309,335,308],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5971"}],"collection":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/56"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5971"}],"version-history":[{"count":1,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5971\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5972,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5971\/revisions\/5972"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/5948"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5971"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5971"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5971"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}