{"id":5979,"date":"2019-06-07T12:05:15","date_gmt":"2019-06-07T11:05:15","guid":{"rendered":"http:\/\/www.www.ourbrightfuture.co.uk\/cy\/?p=5979"},"modified":"2019-06-07T12:06:14","modified_gmt":"2019-06-07T11:06:14","slug":"gwirfoddoli-pwer-a-newid-yn-y-gymuned-leol","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/2019\/06\/07\/gwirfoddoli-pwer-a-newid-yn-y-gymuned-leol\/","title":{"rendered":"Gwirfoddoli: p\u0175er a newid yn y gymuned leol"},"content":{"rendered":"
\"\"Lydia Allen yw\u2019r Cydlynydd Darparu Rhaglenni yn yr Asiantaeth Ieuenctid Genedlaethol ac mae\u2019n goruchwylio Fforwm Ieuenctid Our Bright Future. Mae\u2019n dathlu Wythnos Gwirfoddolwyr 1-7 Mehefin 2019. <\/strong><\/h6>\n
Mae\u2019r Wythnos Gwirfoddolwyr yn cydnabod pawb sy\u2019n rhoi eu hamser a\u2019u hegni i achosion da, drwy ymuno gyda th\u00eem casglu sbwriel lleol neu gefnogi sefydliad bywyd gwyllt cenedlaethol yn eich gwarchodfa leol. Os ydych chi wrth eich bodd ar Twitter fel fi, efallai eich bod chi wedi gweld yr hashnodau \u2018#WythnosGwirfoddolwyr2019\u2019, \u2018#WythnosGwirfoddolwyr\u2019 a \u2018#P\u0175erIeuenctid\u2019 ar eich llinell amser yr wythnos yma, sy\u2019n dangos sut mae pobl ifanc yn gweithredu\u2019n ddylanwadol drwy wirfoddoli. Mae\u2019n ysbrydoledig gweld cymaint o bobl ifanc yn rhoi o\u2019u hamser i gymunedau ac yn creu newid yn lleol ac yn fyd-eang.<\/h6>\n
Yn 2016\/17, fe wirfoddolodd 11.9 miliwn o bobl yn ffurfiol unwaith y mis. Mae\u2019r amser a\u2019r adnoddau sy\u2019n cael eu cyfrannu\u2019n anghredadwy ac mae ei wir angen hefyd. Gyda thoriadau i wasanaethau cyhoeddus ar draws bob sector, mae gwirfoddolwyr yn hanfodol i oroesiad y pethau rydyn ni\u2019n eu cymryd yn ganiataol.<\/h6>\n
Un esiampl glir yw\u2019r gefnogaeth sy\u2019n cael ei rhoi i sefydliadau amgylcheddol mwy y DU. Mae\u2019r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda 61,000 o wirfoddolwyr a\u2019r Ymddiriedolaeth Natur gyda 43,000 o wirfoddolwyr yn dibynnu llawer iawn arnyn nhw i gefnogi eu gwarchodfeydd a\u2019u safleoedd ledled y wlad, a does dim amheuaeth na fyddai\u2019n bosib eu rhedeg hebddyn nhw. Mae\u2019r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cyfrif bod ei gwirfoddolwyr yn rhoi mwy na 4.6 miliwn o oriau o gefnogaeth i\u2019w gwaith, sy\u2019n adnodd anhygoel. Wrth i fwy o bobl ifanc fynd drwy gynlluniau cenedlaethol fel Gwasanaeth Cenedlaethol y Dinesydd (NCS) ac Our Bright Future, mae nifer y rhai sy\u2019n gwirfoddoli\u2019n debygol o gynyddu.<\/h6>\n
Ers bod yn tua 13 oed, rydw i wedi gwirfoddoli mewn sawl ffordd; hyfforddi chwaraeon, helpu yn y llyfrgell leol, cynorthwyo pererinion, tywys pobl mewn tai hanesyddol, adfer gofod naturiol, casglu sbwriel ar strydoedd ac ysbrydoli pobl ifanc drwy waith ieuenctid. Rydw i\u2019n teimlo bod gwirfoddoli\u2019n rhoi llawer o foddhad i mi, oherwydd mae\u2019n helpu rhywun neu rywbeth. Mae\u2019n seibiant oddi wrth fywyd bob dydd ac yn gyfle i gyfarfod pobl newydd sy\u2019n debyg i chi. Rydw i wedi dysgu cymaint amdanaf i fy hun a dysgu llawer o sgiliau ar yr un pryd.<\/h6>\n
I bobl ifanc, nid dim ond rhoi\u2019n \u00f4l yw gwirfoddoli. Mae hefyd yn ymwneud \u00e2 dysgu sgiliau hanfodol a hyfforddiant wrth iddyn nhw ddatblygu sgiliau personol a gyrfaol i\u2019w helpu i symud ymlaen mewn bywyd. Mae\u2019r rhaglenni gwirfoddoli gorau\u2019n seiliedig ar gyfranogiad sy\u2019n dangos arfer gorau; gadael i bobl ifanc gael p\u0175er i reoli, gwneud penderfyniadau, creu a thyfu drwy hyfforddiant. Efallai mai dyma pam mae\u2019r sefydliadau cenedlaethol mwy sy\u2019n gallu fforddio cynnal y rhaglenni hyn yn gwneud mor dda wrth gadw eu gwirfoddolwyr a phrofi eu gwerth.<\/h6>\n
Fodd bynnag, mae gwaith cymunedol lleol yn cynyddu gyda phobl ifanc. Mae \u2018meddwl yn fyd-eang, gweithredu yn lleol\u2019 yn ymadrodd sydd wedi cael ei ddefnyddio ym myd busnes, addysg, cynllunio trefi, gwaith cymunedol a\u2019r mudiad amgylcheddol. Rydw i\u2019n meddwl ein bod ni\u2019n gweld adfywiad o hyn mewn cymunedau lleol. Pobl ifanc heddiw yw\u2019r genhedlaeth fwyaf ymwybodol yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol; rydyn ni eisiau gweithredu, fel mae\u2019r holl Streiciau Hinsawdd gan Ieuenctid sydd wedi\u2019u cynnal ledled y DU yn dangos. Mae eu hangen i wneud rhywbeth sydd ddim yn cynnwys teithio neu drafnidiaeth yn golygu eu bod yn edrych yn nes at adref am rywbeth i gymryd rhan ynddo. Mae pobl ifanc heddiw\u2019n gwybod bod posib iddyn nhw helpu eu ffrindiau o bob cwr o\u2019r byd drwy ddechrau gartref, wrth eu traed, yn rhoi sylw i ymwybyddiaeth, agweddau ac ymddygiad eu cymunedau eu hunain tuag at yr argyfwng hinsawdd.<\/h6>\n
Rydw i\u2019n ymwybodol iawn o anghenion pobl ifanc heddiw, a\u2019r heriau maen nhw\u2019n eu hwynebu, oherwydd fy r\u00f4l gyda\u2019r Asiantaeth Ieuenctid Genedlaethol (NYA) a dyma pam rydw i mor frwd i wirfoddoli i gefnogi pobl ifanc. Ers mis Medi diwethaf, rydw i wedi bod yn gwirfoddoli bob dydd Iau yn y Clwb Ieuenctid lleol a heddiw rydw i\u2019n cyflwyno sesiwn byr ar sbwriel ac ar gasglu sbwriel, gyda bocs o declynnau casglu sbwriel! Rydw i\u2019n mwynhau ysbrydoli\u2019r genhedlaeth nesaf i fod yn frwdfrydig am greu newid ac rydw i\u2019n awyddus iddyn nhw weithredu yn lleol a gwneud eu penderfyniadau eu hunain ar gyfer eu dyfodol.<\/h6>\n
Fodd bynnag, rydw i wastad yn cael brwydr fewnol gyda fi fy hun \u2013 fe ddylai\u2019r gwasanaethau yma gael eu darparu gyda chyllid y llywodraeth siawns, i greu swyddi ac i dalu i bobl am gefnogi ein cymunedau a\u2019n gofod gwyrdd ni. Pam ddylai pobl orfod gwirfoddoli er mwyn sicrhau bod y gofod a\u2019r gwasanaethau hanfodol yma\u2019n weithredol? Gwaetha\u2019r modd, dydw i heb ddod o hyd i\u2019r ateb, na\u2019r goeden arian (sydd wedi\u2019i chuddio yn fforest dywyll osgoi trethi a diffyg bodolaeth profion modd). Am nawr, fe ddaliwn ni ati, gwirfoddoli er lles ein cymunedau ni gyda ph\u0175er gweithredu cymdeithasol yr ifanc, nes bod ein gwerthoedd ni ar y cyd yn tynnu sylw at beth sydd ei angen, beth sydd ei eisiau a beth fydd yn creu dyfodol cynaliadwy i bawb.<\/h6>\n

 <\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"

Lydia Allen yw\u2019r Cydlynydd Darparu Rhaglenni yn yr Asiantaeth Ieuenctid Genedlaethol ac mae\u2019n goruchwylio Fforwm Ieuenctid Our Bright Future. Mae\u2019n dathlu Wythnos Gwirfoddolwyr 1-7 Mehefin 2019. Mae\u2019r Wythnos Gwirfoddolwyr yn cydnabod pawb sy\u2019n rhoi eu hamser a\u2019u hegni i achosion da, drwy ymuno gyda th\u00eem casglu sbwriel lleol neu gefnogi sefydliad bywyd gwyllt cenedlaethol yn […]<\/p>\n","protected":false},"author":49,"featured_media":5975,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[44],"tags":[329,125,168,149],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5979"}],"collection":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/49"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5979"}],"version-history":[{"count":1,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5979\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5980,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5979\/revisions\/5980"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/5975"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5979"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5979"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5979"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}