{"id":6028,"date":"2019-07-05T10:59:58","date_gmt":"2019-07-05T09:59:58","guid":{"rendered":"http:\/\/www.www.ourbrightfuture.co.uk\/cy\/?p=6028"},"modified":"2019-07-05T11:02:23","modified_gmt":"2019-07-05T10:02:23","slug":"o-fife-i-sir-efrog-millie-a-lucian-mynd-tuar-de","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/2019\/07\/05\/o-fife-i-sir-efrog-millie-a-lucian-mynd-tuar-de\/","title":{"rendered":"O Fife i Sir Efrog: Millie a Lucia\u2019n mynd tua\u2019r de"},"content":{"rendered":"
\"\"Mae Millie Duke a Lucia Hackl yn brentisiaid gyda phrosiect <\/strong>Our Bright Future Fife<\/strong><\/a><\/span>. Aethant ar drip i Sir Efrog i ymweld \u00e2 phrosiectau eraill Our Bright Future; <\/strong>Green Futures<\/strong><\/a><\/span> a <\/strong>Tomorrow\u2019s Natural Leaders<\/strong><\/a>. <\/strong><\/span><\/h6>\n
Fel prentisiaid gydag Our Bright Future yn Fife, yr Alban, fe gawson ni gyfle i deithio i Gymoedd Sir Efrog er mwyn cyfarfod pobl ifanc eraill sy\u2019n cymryd rhan yn y rhaglen ehangach.<\/h6>\n
Fe wnaethon ni gychwyn ar fore dydd Mawrth, ar \u00f4l pacio pebyll a sachau cysgu! Ar \u00f4l ychydig o oriau ar y ffordd, fe wnaethon ni stopio am seibiant yn Ardal y Llynnoedd, ac roedd y golygfeydd trawiadol o\u2019r mynyddoedd a\u2019r d\u0175r glas clir fel crisial yn argraff gyntaf berffaith o gefn gwlad Lloegr.<\/h6>\n
Ar \u00f4l noson o wersylla a larwm cynnar yn y bore gan gorws y wawr, fe wnaethon ni bacio ein pethau a chychwyn am brosiect Green Futures sy\u2019n cael ei weithredu gan Ymddiriedolaeth y Mileniwm Cymoedd Sir Efrog; mae\u2019n cynnwys gwirfoddolwyr, myfyrwyr a phrentisiaid fel ni!<\/h6>\n
Adfer glan afon oedd y dasg gyntaf. Yn ein welingtyns, fe aethon ni ati i helpu ar unwaith! Gan dynnu cerrig, creigiau a hen byst wedi pydru, fe fuon ni\u2019n clirio\u2019r ymylon ac yn gwneud yr arwyneb yn fflat cyn dod \u00e2 changhennau helyg i mewn. Roedd y wardeniaid wedi torri\u2019r helyg i faint yn barod, bach a mawr, gyda sawl postyn pren i\u2019w gosod ar y lan. I ddechrau, fe wnaethon ni drefnu\u2019r pyst ryw fetr ar wah\u00e2n a defnyddio teclyn gyrru i\u2019w suddo yn y ddaear. Wedyn fe aethon ni \u00e2\u2019r canghennau mwy ac, mewn timau bach, helpu ein gilydd i\u2019w symud i\u2019r afon a\u2019u diogelu rhwng y pyst. Gan gyfathrebu\u2019n dda gyda\u2019n cymdogion, fe wnaethon ni lwyddo i barhau \u00e2\u2019r llinell yn berffaith i lawr glan yr afon, fel bod gan bawb ddigon o goed ac yn gallu eu rhoi yn eu lle\u2019n gyfforddus. Roed perchnogi ein gofod a chydweithio fel un t\u00eem enfawr yn galluogi i ni ddiogelu\u2019r helyg a gwneud gwaith gwych! Roedd pawb gydag Ymddiriedolaeth y Mileniwm Cymoedd Sir Efrog<\/a><\/span> yn gefnogol a chyfeillgar iawn ac roedd y gwaith yn brofiad hwyliog a phositif i bawb ohonom ni.<\/h6>\n
Ar \u00f4l bwyd haeddiannol mewn caffi hyfryd yn y pentref, fe gawson ni ein harwain i fyny\u2019r caeau ar daith hyfryd i Ogof Malham<\/a><\/span>, clogwyn calchfaen enfawr ar dro gyda golygfeydd anhygoel o gefn gwlad Skipton, diwedd perffaith i ddiwrnod perffaith!<\/h6>\n
Y noson honno fe wnaethon ni yrru i\u2019n safle gwersylla, llecyn tawel hyfryd yn ymyl ffarm fechan, ac fe gawson ni fwyd dros d\u00e2n agored a rhannu straeon am ein diwrnod a\u2019r gwahanol bobl roedden ni wedi\u2019u cyfarfod. Roedd wir yn ddiddorol dysgu mwy am y bobl oedd wedi dod o hyd i\u2019r un cyfleoedd \u00e2 ni, ond mewn rhan wahanol o\u2019r wlad ac o gefndiroedd gwahanol. Rydw i\u2019n meddwl ei fod yn ysbrydoledig gwrando ar uchelgais y bobl ifanc eraill a sut maen nhw eisiau newid y ffordd rydyn ni\u2019n byw i gefnogi\u2019r amgylchedd rydyn ni i gyd yn ei hoffi.<\/h6>\n
Y diwrnod canlynol, fe gawson ni gyfarfod Tomorrow\u2019s Natural Leaders sy\u2019n cael ei weithredu gan Ymddiriedolaeth Natur Sir Efrog<\/a> <\/span>ar fferm mewn pentref tawel wedi\u2019i amgylchynu gan erwau o goetir hardd.<\/h6>\n
Fe wnaethon nhw ddefnyddio ein hymweliad ni fel cyfle i ddod \u00e2 phrosiectau sy\u2019n rhy bell oddi wrth ei gilydd i gysylltu\u2019n rheolaidd at ei gilydd. Roedd yn gr\u00eat cyfarfod cymaint o wahanol bobl (ac ambell gi!) yn yr un sefyllfa \u00e2 ni; yn hyfforddi neu\u2019n gwirfoddoli gyda sefydliadau sy\u2019n ceisio gwarchod byd natur a darparu gyrfaoedd yn y sectorau gwledig.<\/h6>\n
Fe ddechreuodd y diwrnod drwy rannu i dimau, yn cynnwys pobl nad oedden ni\u2019n eu hadnabod o brosiectau eraill, er mwyn i bawb ddod i adnabod ei gilydd yn well a mentro tu hwnt i beth oedd yn gyfforddus i bawb. Roedd yn syniad gr\u00eat er mwyn dod i weld pwy oedd pawb ac, wrth i\u2019r diwrnod fynd yn ei flaen, fe ddaethon ni i ddeall beth oedd pawb yn angerddol yn ei gylch a beth oedd eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Fe wnaethon ni ffrindiau da ac rydyn ni mewn cysylltiad o hyd!<\/h6>\n
Cynhaliodd pobl ifanc Tomorrow\u2019s Natural Leaders lawer o weithgareddau nad oedden ni wedi cymryd rhan ynddyn nhw o\u2019r blaen, fel arolygon gl\u00f6ynnod byw a phryfed genwair, codi ffens ac ailgylchu hen warchodion coed. Roedd wir yn ddiddorol ac fe gawson ni ambell syniad i fynd yn \u00f4l i\u2019r Alban gyda ni!<\/h6>\n
Roedd y profiad cyfan yn agoriad llygad mawr ac roedden ni\u2019n teimlo ei bod yn fraint cael cyfle i deithio mor bell a chyfarfod cymaint o wahanol bobl. Diolch yn fawr, Our Bright Future, am antur mor arbennig!<\/h6>\n

 <\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"

Mae Millie Duke a Lucia Hackl yn brentisiaid gyda phrosiect Our Bright Future Fife. Aethant ar drip i Sir Efrog i ymweld \u00e2 phrosiectau eraill Our Bright Future; Green Futures a Tomorrow\u2019s Natural Leaders. Fel prentisiaid gydag Our Bright Future yn Fife, yr Alban, fe gawson ni gyfle i deithio i Gymoedd Sir Efrog er […]<\/p>\n","protected":false},"author":57,"featured_media":6014,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[44],"tags":[316,300,318,301,157,162,333,140,167,156,182,339],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6028"}],"collection":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/57"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6028"}],"version-history":[{"count":1,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6028\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6029,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6028\/revisions\/6029"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6014"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6028"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6028"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6028"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}