{"id":6047,"date":"2019-07-17T10:40:38","date_gmt":"2019-07-17T09:40:38","guid":{"rendered":"http:\/\/www.www.ourbrightfuture.co.uk\/cy\/?p=6047"},"modified":"2019-07-17T10:40:52","modified_gmt":"2019-07-17T09:40:52","slug":"mae-egni-ar-y-cyd-nad-ydw-i-erioed-wedii-brofi-gydag-unrhyw-raglen-arall-syn-cael-ei-chyllido","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/2019\/07\/17\/mae-egni-ar-y-cyd-nad-ydw-i-erioed-wedii-brofi-gydag-unrhyw-raglen-arall-syn-cael-ei-chyllido\/","title":{"rendered":"\u2018Mae egni ar y cyd nad ydw i erioed wedi\u2019i brofi gydag unrhyw raglen arall sy\u2019n cael ei chyllido\u2019"},"content":{"rendered":"
\"\"Jo Boylan yw\u2019r Swyddog Allgymorth Ieuenctid gyda\u2019r Belfast Hills Partnership. Mae hi a\u2019r t\u00eem yn cyflwyno prosiect Belfast Hills Bright Future. Maen nhw wedi bod yn y seminar ar gyfer yr holl brosiectau ar 19-20 Mehefin 2019 ac eisiau rhannu ychydig o feddyliau am y digwyddiad. <\/span><\/strong><\/h6>\n
Roedd Neuadd Riddel Prifysgol Queen yn lleoliad hardd iawn ar gyfer seminar flynyddol Our Bright Future ar gyfer yr holl brosiectau. Daeth mwy na 100 o staff ac aelodau o\u2019r Fforwm Ieuenctid o brosiectau ar hyd a lled y DU at ei gilydd i ddathlu\u2019r cyflawniadau ac i ysbrydoli a chymell ei gilydd ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.<\/span><\/h6>\n
Hwn oedd y tro cyntaf i seminar Our Bright Future gael ei chynnal yng Ngogledd Iwerddon ac roedd y Belfast Hills Partnership<\/a><\/span> ac Ulster Wildlife<\/span><\/a> yn hynod falch o groesawu ein partneriaid a dangos rhai o\u2019n tirweddau trawiadol a\u2019r prosiectau ymgysylltu ag ieuenctid.\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0<\/span><\/h6>\n
Mae bob amser yn bleser cyfarfod partneriaid Our Bright Future unwaith eto. Rydw i wedi ymwneud \u00e2 phrosiect Belfast Hills Bright Future<\/a><\/span> ers y dechrau, felly roedd cael y seminar yng Ngogledd Iwerddon yn teimlo fel gwahodd eich ffrindiau draw i ymweld! Mae egni ar y cyd nad ydw i erioed wedi\u2019i brofi gydag unrhyw raglen arall sy\u2019n cael ei chyllido; ystafell yn llawn pobl angerddol, yn arwain newid cymdeithasol ac amgylcheddol enfawr ar hyd a lled y wlad gyda\u2019i gilydd.<\/span><\/h6>\n
Fe ddechreuodd diwrnod un gyda chroeso cynnes gan Reolwr y Rhaglen, Cath Hare, a Chadeirydd Our Bright Future, Peta Foxhall, ac wedyn cafwyd cyflwyniad a diweddariad ar y Fforwm Ieuenctid gan Lydia Allen o\u2019r National Youth Agency. Cafwyd amlinelliad gwych gan y Rheolwr Polis\u00efau ac Ymgyrchoedd, Roberta Antonaci, o gyflawniadau Blwyddyn 3 ac wedyn cafwyd diweddariad canol tymor gan werthuswyr y rhaglen, ERS.\u00a0<\/span><\/h6>\n
Mae\u2019r nifer aruthrol o bobl ifanc sy\u2019n ymwneud ar y cyd \u00e2\u2019n prosiectau ni\u2019n anhygoel. Mae\u2019n anodd credu bod cymaint o unigolion yn gwneud newidiadau hirhoedlog iddyn nhw eu hunain ac i\u2019w hamgylchedd lleol.<\/span><\/h6>\n
Yn y pnawn, fe aethon ni ar y bysus ac i Fynyddoedd Belfast! Roedden ni\u2019n falch iawn o gael dangos llecyn lleol hardd iawn, Gwarchodfa Natur Slievenacloy<\/a><\/span>; glaswelltir llawn rhywogaethau yn gyforiog o flodau gwyllt a gl\u00f6ynnod byw. Mae\u2019n eiddo i Ulster Wildlife ac yn cael ei reoli ganddo a dim ond ychydig funudau o ganol y ddinas mae\u2019r llecyn hyfryd.\u00a0 \u00a0<\/span><\/h6>\n
Ar \u00f4l cyflwyniad byr i\u2019r warchodfa, fe wnaeth Ulster Wildlife a ni gyflwyno gweithgareddau ar y cyd, gan gynnwys creu pensiliau gan ddefnyddio coed Gwyddelig brodorol, adnabod blodau gwyllt, a \u2018gemau\u2019r ucheldir\u2019 hwyliog i feithrin timau. Daeth diwrnod un i ben gyda gwledd fegan enfawr a chwis anhygoel y Cydlynydd Rhannu Dysgu Gwella, Abi Paine!<\/span><\/h6>\n
Roedd diwrnod dau yr un mor brysur. Er hynny, i mi, yr uchafbwyntiau oedd y siaradwyr gwadd – Gary Hart, Uwch Swyddog Addysg ac Ymgysylltu yn Senedd y DU, a David Small, Prif Weithredwr Asiantaeth yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon. Cafwyd anerchiad gonest ac agored gan David am gyflwr presennol yr amgylchedd yng Ngogledd Iwerddon a diweddariad ar ymgynghoriad yr Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA) ar Strategaeth yr Amgylchedd. Roedd llawer o aelodau\u2019r Fforwm Ieuenctid yn awyddus i sgwrsio gyda\u2019r ddau siaradwr a lleisio eu barn. Roedd yn gyfle i bobl ifanc leol weld bod Gogledd Iwerddon, er nad oes ganddi unrhyw weithrediaeth rhannu pwerau ar hyn o bryd, yn dal i allu lleisio ei barn am yr hyn sy\u2019n bwysig iddyn nhw yn lleol.\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0<\/span><\/h6>\n
Roedd sesiwn y prynhawn yn gyfle i unigolion o wahanol brosiectau fynd i grwpiau ffocws llai i drafod them\u00e2u perthnasol i rymuso ieuenctid a materion amgylcheddol. Trafododd ein gr\u0175p ni gynaliadwyedd yn y gweithle. Roedd yn ddefnyddiol cyfarfod pobl o sefydliadau amrywiol, a chyfnewid syniadau gyda sawl persbectif. Roedd y grwpiau trafod o help i greu mwy o ymwybyddiaeth o\u2019n systemau gwaith ni. Cafodd ein ffordd o feddwl am effeithiau amgylcheddol ein sefydliadau ein hunain ei herio ac roedd modd i ni ystyried atebion cynaliadwy y gallem eu rhoi ar waith yn ein gweithleoedd. Erbyn diwedd yr ail ddiwrnod, roedden ni\u2019n llawn syniadau ac ysbrydoliaeth ac yn barod am y flwyddyn nesaf o\u2019n blaen.<\/span><\/h6>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"

Jo Boylan yw\u2019r Swyddog Allgymorth Ieuenctid gyda\u2019r Belfast Hills Partnership. Mae hi a\u2019r t\u00eem yn cyflwyno prosiect Belfast Hills Bright Future. Maen nhw wedi bod yn y seminar ar gyfer yr holl brosiectau ar 19-20 Mehefin 2019 ac eisiau rhannu ychydig o feddyliau am y digwyddiad. Roedd Neuadd Riddel Prifysgol Queen yn lleoliad hardd iawn […]<\/p>\n","protected":false},"author":58,"featured_media":6042,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[44],"tags":[348,347],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6047"}],"collection":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/58"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6047"}],"version-history":[{"count":2,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6047\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6049,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6047\/revisions\/6049"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6042"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6047"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6047"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6047"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}