{"id":6061,"date":"2019-07-24T11:40:53","date_gmt":"2019-07-24T10:40:53","guid":{"rendered":"http:\/\/www.www.ourbrightfuture.co.uk\/cy\/?p=6061"},"modified":"2019-07-24T11:41:10","modified_gmt":"2019-07-24T10:41:10","slug":"pe-bai-eich-ty-chi-ar-dan-fyddech-chi-ddim-yn-gofyn-ir-frigad-dan-ddod-mewn-30-mlynedd","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/2019\/07\/24\/pe-bai-eich-ty-chi-ar-dan-fyddech-chi-ddim-yn-gofyn-ir-frigad-dan-ddod-mewn-30-mlynedd\/","title":{"rendered":"Pe bai eich t\u0177 chi ar d\u00e2n \u2019fyddech chi ddim yn gofyn i\u2019r frig\u00e2d d\u00e2n ddod mewn 30 mlynedd"},"content":{"rendered":"
\"\"Ddydd Mercher, 17 Gorffennaf, bu Ummi Hoque o brosiect <\/strong>My World My Home<\/strong><\/a><\/span> yn annerch arweinwyr o bob rhan o\u2019r sector amgylcheddol yn <\/strong>lansiad Cronfa Gweithredu Hinsawdd y Loteri Genedlaethol<\/span><\/strong><\/a> yn Llundain. Dyma beth ddywedodd:<\/strong><\/span><\/h6>\n
Fy enw i ydi Ummi Hoque ac rydw i\u2019n aelod o Fforwm Ieuenctid Our Bright Future ac yn gyn-aelod o My World My Home, rhaglen arweinyddiaeth amgylcheddol sy\u2019n cael ei gweithredu gan Gyfeillion y Ddaear (FOE) ac Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (NUS).<\/span><\/h6>\n
Rydw i eisiau mynd \u00e2 chi\u2019n \u00f4l i\u2019r cyfnod pan wnes i ddechrau ymgyrchu dros yr amgylchedd. Roedd yn un o fy nyddiau cyntaf i yn y Chweched Dosbarth pan gawson ni ffair gyfoethogi i ddewis clybiau a chymdeithasau oedd o ddiddordeb i ni. Cafodd fy llygaid i eu denu yn syth at aelod o staff FOE oedd yn gwisgo gwisg felen enfawr fel haul. Doedd dim posib ei fethu; roedd mor fawr! Fe gofrestrais i gyda My World My Home, nid dim ond am y cymhwyster mewn ymgyrchu cymunedol, y trip preswyl a\u2019r pwyntiau UCAS, ond yn syml am fy mod i\u2019n poeni am yr amgylchedd ac eisiau gwneud rhywbeth ynghylch hynny. \u00a0\u00a0<\/span><\/h6>\n
Mae prosiect My World My Home wedi\u2019i leoli yn Llundain, Dwyrain Canolbarth Lloegr, Cymru a De Orllewin Lloegr. Mewn blwyddyn gron, mae\u2019n cynllunio ac yn trefnu ymgyrch gymunedol leol sy\u2019n gwneud newid gwirioneddol er lles yr amgylchedd. Er enghraifft, yn ystod fy mlwyddyn i, fe wnaethon ni benderfynu brwydro (drwy ymgynghori \u00e2\u2019r myfyrwyr yn y coleg) dros finiau ailgylchu yn ein holl ystafelloedd dosbarth. Y flwyddyn cyn hynny ymgyrchodd y myfyrwyr dros gael paneli solar a bylbiau golau arbed ynni ar gyfer ein coleg. Gyda\u2019n ffocws ar wastraff plastig, fe wnaethon ni lwyddo i gael cyfarfod gyda\u2019r Cynghorydd Claudia Webbe, yr Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth, ac fe lofnododd hi ein haddewid ynghylch plastig a thrafod ffyrdd o gael gwared ar blastig defnydd sengl gyda ni yn ein coleg.<\/span><\/h6>\n
Fel unrhyw ymgyrch, doedd pethau ddim yn rhwydd. Roedd cyfnodau o fod eisiau rhoi\u2019r ffidil yn y to, o feddwl nad oedd yn mynd i unman ac roedd unrhyw gynnydd roedden ni\u2019n ei wneud yn cael ei ddifetha\u2019n aml gan rwystr arall. Ond, o edrych yn \u00f4l, dydw i ddim yn meddwl amdani fel ymgyrch aflwyddiannus. Mae\u2019n hawdd iawn mesur llwyddiant ar sail niferoedd, ond rydw i\u2019n meddwl bod pethau\u2019n fwy abstract na hynny. Fe wnaethon ni lwyddo i ddatblygu ein hunan-hyder, ein gallu i siarad yn gyhoeddus, a\u2019n gallu i drafod a chynnal cyfarfodydd gyda phobl mewn p\u0175er. Fe wnaethon ni ddysgu bod y p\u0175er yn ein coleg ni\u2019n fwy anodd na\u2019r disgwyl gan nad oedd gan Gyfarwyddwr y coleg gymaint o b\u0175er i wneud penderfyniadau ag yr oedden ni wedi\u2019i feddwl. Er hynny, fe wnaethon ni ddyfalbarhau i\u2019r diwedd un i ddod o hyd i ffordd o oresgyn ein rhwystrau. Ac i mi, roedd hynny\u2019n llwyddiant ynddo\u2019i hun.<\/span><\/h6>\n
Mae My World My Home yn bennod bwysig yn fy mywyd i. Fe roddodd i mi ac i lawer o fyfyrwyr eraill lwyfan yr oedden ni wir ei angen i ymwneud ag ymgyrch amgylcheddol. Fel pobl ifanc, dydyn ni ddim yn gwybod ble i ddechrau yn aml, na beth sydd allan yna i ymwneud ag o, ond fe wnaeth My World My Home ddarparu sylfaen yn sicr. Ers hynny, rydw i wedi dod yn gynrychiolydd My World My Home ar Fforwm Ieuenctid Our Bright Future.<\/span><\/h6>\n
Mae My World My Home yn un o 31 o brosiectau sydd, gyda\u2019i gilydd, yn ffurfio Our Bright Future, sy\u2019n cael ei gyllido gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Mae Our Bright Future yn bartneriaeth sy\u2019n cael ei harwain gan yr Ymddiriedolaethau Natur ac mae\u2019r prosiectau\u2019n dod \u00e2\u2019r sectorau ieuenctid ac amgylcheddol at ei gilydd. Mae bod yn rhan o rwydwaith mawr fel Our Bright Future wedi bod yn gyfle anhygoel i mi rannu a thrafod syniadau gyda phobl ifanc debyg i mi, i wneud ein dyfodol yn fwy disglair ac i arwain newid cynyddol yn ein cymunedau a\u2019n hamgylchedd lleol.\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0<\/span><\/h6>\n
Gyda\u2019n gilydd, rydyn ni wedi penderfynu ar dri nod i\u2019n hymgyrch:<\/span><\/h6>\n
    \n
  1. \n
    Treulio mwy o amser yn dysgu am fyd natur: Rydyn ni eisiau gweld ysgolion yn cael cyfarwyddyd sy\u2019n dweud y dylid treulio o leiaf awr y dydd yn cael gwersi yn yr awyr agored.\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0<\/span><\/h6>\n<\/li>\n
  2. \n
    Cefnogaeth i gael swyddi amgylcheddol: Rydyn ni eisiau gweld cynllun swyddi newydd yn y dyfodol sy\u2019n galluogi\u2019r sector amgylcheddol i gefnogi pobl ifanc i gael gyrfaoedd amgylcheddol, cadwriaethol, garddwriaethol ac eraill.\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0<\/span><\/h6>\n<\/li>\n
  3. \n
    Y Llywodraeth, cyflogwyr, busnesau, ysgolion ac elusennau i roi mwy o sylw i anghenion pobl ifanc a\u2019r amgylchedd: Rydyn ni eisiau gweld lle i bobl ifanc gael eu clywed a chyfle iddynt chwarae rhan weithredol mewn cymdeithas. Felly, rydyn ni\u2019n galw am y canlynol:<\/span><\/h6>\n<\/li>\n<\/ol>\n