{"id":6142,"date":"2019-08-13T14:53:26","date_gmt":"2019-08-13T13:53:26","guid":{"rendered":"http:\/\/www.www.ourbrightfuture.co.uk\/cy\/?p=6142"},"modified":"2019-08-13T14:54:44","modified_gmt":"2019-08-13T13:54:44","slug":"mynd-ag-ymgyrch-our-bright-future-i-countryfile-live","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/2019\/08\/13\/mynd-ag-ymgyrch-our-bright-future-i-countryfile-live\/","title":{"rendered":"Mynd ag ymgyrch Our Bright Future i Countryfile Live!"},"content":{"rendered":"
\"\"Aeth Cydlynydd Share Learn Improve, Abi Paine, i BBC Countryfile Live yn Blenheim Palace gyda chriw o bobl ifanc yn barod i herio\u2019r byd!\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0 <\/strong><\/span><\/h6>\n
Roedd pobl ifanc wrth galon y gweithredu yn ystod diwrnod cyntaf BBC Countryfile Live yr wythnos ddiwethaf, wrth i bobl deithio o bob rhan o\u2019r wlad i fynychu\u2019r digwyddiad. Hefyd defnyddiodd Ysgrifennydd newydd yr Amgylchedd, y Gwir Anrhydeddus Theresa Villiers, y digwyddiad fel llwyfan ar gyfer ei<\/span> haraith<\/a><\/span> gyntaf yn ei swydd.<\/span><\/h6>\n
Agorodd Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol,<\/span> Hilary McGrady<\/a><\/span>, Theatr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda thrafodaeth banel gyda thri o bobl ifanc,<\/span> Arjun Dutta<\/a>, Dara McAnulty<\/a> <\/span>a Bella Lack<\/a><\/span>. Trafodwyd materion amgylcheddol, ffyrdd o weithredu ynghylch yr argyfwng a sut i ailgysylltu pobl \u00e2 byd natur.<\/span><\/h6>\n
Wedyn yn y prynhawn, cynhaliodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol weithdy yn ei Phabell T\u0177 Gwydr, gan roi cyfle i bobl ifanc o holl brosiectau Our Bright Future gyflwyno eu gofynion polisi a thrafod syniadau gyda phobl ifanc eraill. \u00a0\u00a0<\/span><\/h6>\n
I ddechrau, cyflwynodd Daniel (<\/span>Growing Confidence<\/a><\/span>), Laurence<\/span> (Growing Confidence<\/a><\/span>) a Khadija<\/span> (Bright Green Future<\/a><\/span>) yr achos dros ofyniad un \u2013 galw am dreulio mwy o amser yn dysgu am fyd natur ac yng nghanol byd natur. Aethant ati i dynnu sylw at rai ystadegau am ddysgu yn yr awyr agored, gan gynnwys bod 90% o athrawon yn dweud bod plant yn cymryd mwy o ran yn y dysgu wrth dreulio eu gwersi yn yr awyr agored. Hefyd buont yn rhannu profiadau am gymryd rhan yn eu prosiectau a\u2019r effeithiau positif arnyn nhw ac ar eraill.\u00a0<\/span><\/h6>\n
Rhoddwyd cychwyn i\u2019r trafodaethau gyda phawb yn yr ystafell yn gofyn cwestiynau fel: beth sydd ei angen er mwyn ei gwneud yn ymarferol i dreulio awr yn dysgu yn yr awyr agored mewn ysgol h\u0177n? Sut gall athrawon gynyddu dysgu ac ymwybyddiaeth amgylcheddol drwy gwricwlwm ysgolion?\u00a0<\/span><\/h6>\n
Wedyn tynnodd Jayashree (Student Eats<\/a><\/span>) a Lisa (<\/span>Environmental Leadership Programme<\/a><\/span>) sylw at ofyniad dau \u2013 cefnogaeth i gael swyddi amgylcheddol \u2013 gan alw am gynllun swyddi yn y dyfodol a syniadau ar gyfer goresgyn rhwystrau sy\u2019n atal mynediad.<\/span><\/h6>\n
Aethant ati i ofyn i\u2019r ystafell drafod y rhwystrau a sut gallwn eu goresgyn, ac roedd rhai o\u2019r syniadau\u2019n cynnwys y canlynol:<\/span><\/h6>\n