{"id":6758,"date":"2020-01-03T14:20:46","date_gmt":"2020-01-03T14:20:46","guid":{"rendered":"http:\/\/www.www.ourbrightfuture.co.uk\/cy\/?p=6758"},"modified":"2020-01-03T14:21:23","modified_gmt":"2020-01-03T14:21:23","slug":"byddwch-y-newid-rydych-chi-eisiau-ei-weld","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/2020\/01\/03\/byddwch-y-newid-rydych-chi-eisiau-ei-weld\/","title":{"rendered":"Byddwch y newid rydych chi eisiau ei weld"},"content":{"rendered":"
Helo, Finn Jones ydw i. Rydw i\u2019n bedair ar ddeg oed, yn dod o Ogledd Cymru ac yn rhan o brosiect<\/span> <\/strong>Ein Glannau Gwyllt<\/strong><\/a><\/span>. Fe gefais i gais i ysgrifennu am fy mhrofiadau gydag Our Bright Future, er mwyn helpu pobl ifanc eraill efallai i allu cymryd rhan yn ein <\/span><\/strong>hymgyrch<\/strong><\/a><\/span> ni<\/span>.\"\"<\/strong><\/h6>\n
Sut i gysylltu ag ASau <\/strong><\/span><\/h6>\n
Dydi llawer o bobl fy oedran i ddim yn gyfforddus yn cysylltu \u00e2\u2019r bobl sy\u2019n gwneud penderfyniadau yn lleol; y bobl sy\u2019n gyfrifol am helpu eu cymuned leol. Rydw i eisiau helpu i newid hynny. Rydw i wedi bod yn y Senedd gydag Our Bright Future ac wedi siarad gydag ASau. Mae\u2019n hawdd iawn cysylltu \u00e2\u2019ch AS. Fe allwch chi anfon llythyr neu e-bost. Dechreuwch gyda chyflwyniad, gwneud eich pwynt yn glir a cheisio gwneud eich llythyr yn ddiddorol a hawdd ei ddarllen. I gael gwybod pwy yw eich AS lleol a dod o hyd i\u2019w fanylion cyswllt, ewch i<\/span> wefan<\/a> y Senedd a dylai\u2019r holl wybodaeth berthnasol fod ar gael yn hwylus.<\/span><\/span><\/h6>\n
Fe gefais i fy nghymell i ysgrifennu at fy AS lleol, Chris Ruane, gan fy mod i\u2019n teimlo\u2019n angerddol am un o dri Chais ymgyrch Our Bright Future. Rydw i\u2019n meddwl y dylai\u2019r Llywodraeth alluogi plant ysgol i gael awr o amser gwersi yn yr awyr agored bob dydd. Roedd Chris Ruane AS yn cytuno bod hyn yn bwysig ond dywedodd Llywodraeth Cymru mai dewis yr ysgolion yw a ydyn nhw eisiau gweithredu dysgu yn yr awyr agored ai peidio. Roedd ei ymateb yn llawn gwybodaeth ac roeddwn i\u2019n falch o gael deall mwy. Dydych chi ddim yn mynd i gael ateb bob tro, a byth o fewn diwrnod neu ddau. Yn \u00f4l gwefan y Senedd, os nad ydyn nhw wedi ymateb o fewn pythefnos, fe ddylech chi ystyried gwneud galwad ff\u00f4n i ddilyn y neges e-bost neu\u2019r llythyr. \u00a0\u00a0<\/span><\/h6>\n
Dweud eich stori <\/strong><\/span><\/h6>\n
Nesaf, roeddwn i eisiau siarad mwy am fy ymwneud ag Our Bright Future a pham rydw i wedi mwynhau cymaint. Ers dechrau gyda\u2019r prosiect, rydw i wedi gwneud ffrindiau da iawn a sylweddoli beth sy\u2019n bwysig mewn bywyd. Fy mhrif nod i yw cael swydd yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, a dyna beth rydw i\u2019n anelu ato. Wedi\u2019r cyfan, os cewch chi swydd rydych chi\u2019n ei mwynhau yn fawr, \u2019fydd dim un diwrnod yn teimlo fel gwaith. Rydw i wedi cael profiadau nad ydi llawer o bobl eraill wedi eu cael ac rydw i\u2019n dal i gael y cyfleoedd yma, hyd at heddiw hyd yn oed. Heb dreulio cymaint o amser yn yr awyr agored ag ydw i, dydw i ddim yn meddwl y byddwn i mor hapus ag ydw i nawr. Mae hapusrwydd yn dod o wneud pethau rydw i\u2019n hoff iawn ohonyn nhw. I mi, mae hynny\u2019n unrhyw beth cysylltiedig \u00e2\u2019r awyr agored, ac rydw i eisiau ysbrydoli pobl eraill i wneud pethau yn yr awyr agored hefyd.<\/span><\/h6>\n
Gwneud gwahaniaeth\u00a0 <\/strong><\/span><\/h6>\n
Rydw i\u2019n gobeithio y gwelwn ni newid ar sail beth rydw i wedi\u2019i wneud. Rydw i\u2019n gobeithio y gallaf i helpu i chwarae rhan mewn creu byd gwell. Efallai nid heddiw ac efallai nid yfory ond, yn y pen draw, rydw i eisiau gallu gweld bod rhywbeth pwysig wedi digwydd, gwenu, a dweud, \u2018Fi wnaeth hyn\u2019na. Fi oedd yn gyfrifol.\u2019 Rydw i\u2019n meddwl y dylai pawb geisio sicrhau manteision i bobl eraill, a\u2019r byd o\u2019u cwmpas nhw. Hyd yn oed os yw mor syml \u00e2 defnyddio bag siopa ailddefnyddiadwy, lleihau ein defnydd o dd\u0175r neu godi sbwriel, mae\u2019n bwysig ein bod ni\u2019n ceisio helpu cymaint ag y gallwn ni, mewn ffyrdd bychain hyd yn oed. Dysgu mwy am fyd natur a sut i\u2019w helpu, ac wedyn gweithredu ynghylch yr wybodaeth honno. Rydw i eisiau hybu byd hapusach a diogelach, gydag amgylchedd a hinsawdd iach. Dyna un o fy nodau mwyaf i, dod o hyd i ffordd o wneud newidiadau mawr i\u2019r byd a gwneud iawn am beth sydd o\u2019i le arno. Byddwch y newid rydych chi eisiau ei weld.<\/span><\/h6>\n
Ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan Finn? Ydych chi eisiau cysylltu \u00e2\u2019r bobl sy\u2019n gwneud penderfyniadau yn eich ardal leol chi i ofyn am dreulio mwy o amser yn dysgu ym myd natur ac amdano? Mae posib lawrlwytho neges e-bost wreiddiol Finn at ei AS<\/span> yma<\/a>\u00a0<\/span><\/em>ac mae\u2019r llythyr mae wedi\u2019i anfon at yr holl ysgolion uwchradd a cholegau yng Ngogledd Cymru ar gael i\u2019w lawrlwytho yma<\/span><\/a><\/em><\/span>. Mae posib defnyddio\u2019r rhain fel templed ar gyfer eich llythyrau a\u2019ch negeseuon e-bost chi. <\/span><\/em><\/h6>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"

Helo, Finn Jones ydw i. Rydw i\u2019n bedair ar ddeg oed, yn dod o Ogledd Cymru ac yn rhan o brosiect Ein Glannau Gwyllt. Fe gefais i gais i ysgrifennu am fy mhrofiadau gydag Our Bright Future, er mwyn helpu pobl ifanc eraill efallai i allu cymryd rhan yn ein hymgyrch ni. Sut i gysylltu […]<\/p>\n","protected":false},"author":62,"featured_media":6746,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[44],"tags":[54,78,306,307],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6758"}],"collection":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/62"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6758"}],"version-history":[{"count":2,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6758\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6762,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6758\/revisions\/6762"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6746"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6758"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6758"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6758"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}