{"id":6910,"date":"2020-03-13T11:28:22","date_gmt":"2020-03-13T11:28:22","guid":{"rendered":"http:\/\/www.www.ourbrightfuture.co.uk\/cy\/?p=6910"},"modified":"2020-03-13T11:28:22","modified_gmt":"2020-03-13T11:28:22","slug":"tyfu-mewn-hyder-cael-effaith-bositif-ar-bobl-ifanc-ar-amgylchedd","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/2020\/03\/13\/tyfu-mewn-hyder-cael-effaith-bositif-ar-bobl-ifanc-ar-amgylchedd\/","title":{"rendered":"Tyfu mewn hyder: cael effaith bositif ar bobl ifanc a\u2019r amgylchedd"},"content":{"rendered":"
Helo, Dan ydw i ac rydw i wedi bod yn gwirfoddoli fel rhan o Brosiect Growing Confidence gydag Ymddiriedolaeth Natur Sir Amwythig ers mis Chwefror 2017. Mae Growing Confidence yn un o\u2019r 31 o brosiectau sy\u2019n rhan o raglen Our Bright Future sy\u2019n cael ei chyllido gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.\"\"<\/strong><\/h6>\n
Fel rhan o\u2019r gweithgareddau gwirfoddoli yma, rydw i a phobl ifanc eraill yn dysgu sgiliau cadwraeth ymarferol er budd bywyd gwyllt a byd natur Sir Amwythig o\u2019n cwmpas ni \u2013 gan ein helpu i feithrin hyder y bydd y rhywogaethau a\u2019r cynefinoedd maen nhw\u2019n dibynnu arnyn nhw\u2019n parhau ar gyfer cenedlaethau\u2019r dyfodol. Rydw i hefyd wedi bod mewn sawl gweithgaredd yn Preston Montford lle rydw i wedi dysgu sgiliau, gan gynnwys dal ac adnabod gwyfynnod, cwblhau \u2018bioblitz\u2019 ac adnabod fflora brodorol.<\/h6>\n
<\/h6>\n
<\/h6>\n
Fel rhan o fy nghyswllt i \u00e2 Phrosiect Growing Confidence, fe gefais i a Laurence Kinnersley y cyfle i fod yn Gynrychiolwyr Ieuenctid y prosiect fel rhan o Fforwm Ieuenctid Our Bright Future. Mae Fforwm Ieuenctid Our Bright Future yn cynnwys pobl ifanc o brosiectau ar hyd a lled y DU. Mae pob un yn gallu enwebu un neu ddau o Gynrychiolwyr Ieuenctid sy\u2019n dod at ei gilydd i drafod materion cadwraeth, amgylcheddol a llais ieuenctid a sut i\u2019w datrys nhw.<\/h6>\n

 <\/p>\n

 <\/p>\n

Fel rhan o hyn, fe wnaethon ni feddwl am dri Chais; tri newid roedden ni\u2019n eu hawgrymu i bolisi\u2019r Llywodraeth a sut mae pobl ifanc yn ymwneud \u00e2 chymdeithas.<\/h6>\n
Cais 1 \u2013 Treulio mwy o amser yn dysgu ym myd natur ac amdano<\/strong><\/h6>\n
Cais 2 \u2013 Cefnogaeth i gael swyddi amgylcheddol<\/strong><\/h6>\n
Cais 3 \u2013 Y Llywodraeth, cyflogwyr, busnesau, ysgolion ac elusennau i roi mwy o sylw i anghenion pobl ifanc a\u2019r amgylchedd.\u00a0<\/strong><\/h6>\n
<\/h6>\n
Drwy ddatblygu\u2019r ceisiadau yma, ein nod ni yw y bydd pobl ifanc a\u2019r amgylchedd yn elwa\u2019n fawr.<\/h6>\n
Drwy ymwneud \u00e2\u2019r Fforwm Ieuenctid yma, fe wnes i a chriw bychan o bobl ifanc eraill o Ymddiriedolaeth Natur Sir Amwythig greu ein fforwm ieuenctid lleol ein hunain o\u2019r enw Youth for the Wild. Fel rhan o\u2019r fforwm, rydyn ni\u2019n cynnal cyfarfodydd trafod rhwng pobl ifanc a phanelwyr arbenigol am faterion amgylcheddol a bywyd gwyllt lleol. Ar sail y trafodaethau yma, bydd yr Ymddiriedolaeth yn cefnogi\u2019r bobl ifanc i greu\u2019r newid maen nhw eisiau ei weld yn digwydd yn eu hardal leol.<\/h6>\n
Fe fyddwn i\u2019n dweud bod cymryd rhan ym Mhrosiect Growing Confidence a mynd i weithgareddau yn Preston Montford wedi datblygu fy mywyd a \u2019nghyfleoedd i y tu hwnt i unrhyw beth fyddwn i wedi\u2019i ddychmygu. Rydw i\u2019n sylweddoli nawr \u2019mod i\u2019n gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau cadwraeth ymarferol er budd byd natur a\u2019r bywyd gwyllt o \u2019nghwmpas i \u2013 a \u2019fyddwn i ddim wedi datblygu hynny mewn unrhyw ffordd arall. Hefyd, mae fy ymwneud i ag eraill wedi gwella\u2019n fawr. Ychydig amser yn \u00f4l, \u2019fyddwn i ddim wedi gallu sefyll o flaen criw o bobl eraill a gwneud cyflwyniad a thrafod, ond rydw i\u2019n gwneud hynny\u2019n rheolaidd erbyn hyn. Mae\u2019r sgiliau yma nid yn unig wedi fy ngalluogi i i gael cynnig gan Brifysgol Rhydychen a dilyn gyrfa yn y sector amgylcheddol, ond hefyd maen nhw wedi bod o fudd i mi ym mhob rhan o fy mywyd bob dydd. Fe fyddwn i\u2019n annog unrhyw berson ifanc i gymryd rhan yn y prosiectau gwych yma!<\/h6>\n
<\/h6>\n

 <\/p>\n

Am Brosiect Growing Confidence \u00a0<\/em><\/strong><\/h6>\n
Mae Growing Confidence (GC) yn brosiect pum mlynedd sy\u2019n rhoi cyfle i bobl ifanc ddarganfod mwy am fywyd gwyllt a llefydd gwyllt a dysgu sgiliau\u2019n hwyliog yn eu hamgylchedd lleol. Mae FSC Preston Montford yn cydweithio ag <\/em>Ymddiriedolaeth Natur Sir Amwythig<\/em> a Menter Tir Cymunedol Fordhall i gynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd ysbrydoledig i bobl ifanc 11 i 25 oed.\u00a0 <\/em>Mae mwy o wybodaeth am brosiect Growing Confidence, prosiect amgylcheddol i bobl ifanc 11 i 25 oed, ar gael yn <\/em>https:\/\/www.shropshirewildlifetrust.org.uk\/growing-confidence<\/a><\/h6>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"

Helo, Dan ydw i ac rydw i wedi bod yn gwirfoddoli fel rhan o Brosiect Growing Confidence gydag Ymddiriedolaeth Natur Sir Amwythig ers mis Chwefror 2017. Mae Growing Confidence yn un o\u2019r 31 o brosiectau sy\u2019n rhan o raglen Our Bright Future sy\u2019n cael ei chyllido gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Fel rhan o\u2019r […]<\/p>\n","protected":false},"author":63,"featured_media":6905,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[44,1],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6910"}],"collection":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/63"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6910"}],"version-history":[{"count":3,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6910\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6913,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6910\/revisions\/6913"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6905"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6910"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6910"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6910"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}