{"id":6952,"date":"2020-04-15T12:15:28","date_gmt":"2020-04-15T11:15:28","guid":{"rendered":"http:\/\/www.ourbrightfuture.co.uk\/cy\/?p=6952"},"modified":"2020-04-16T11:28:25","modified_gmt":"2020-04-16T10:28:25","slug":"ymateb-our-bright-future-ir-coronafeirws","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/2020\/04\/15\/ymateb-our-bright-future-ir-coronafeirws\/","title":{"rendered":"Ymateb Our Bright Future i\u2019r Coronafeirws"},"content":{"rendered":"
Mae argyfwng digynsail y Coronafeirws yn argyfwng iechyd cyhoeddus sy\u2019n peri pryder rhyngwladol. Mewn ychydig ddyddiau, mae ein bywydau a\u2019n gwaith ni wedi newid yn llwyr. Rydyn ni\u2019n croesawu mesurau Llywodraeth y DU i atal lledaeniad y feirws. Mae eu gwir angen i\u2019n gwarchod ni i gyd, yn enwedig yr henoed a phobl fregus sydd \u00e2 chyflyrau sylfaenol.<\/h6>\n
Hefyd mae wedi gwneud i ni feddwl eto am ein hymddygiad a\u2019r ffordd rydym yn cymdeithasu, yn cysylltu \u00e2 natur, yn gwirfoddoli ac yn gweithio. Yn ystod cyfnod mor heriol, mae\u2019r r\u00f4l y mae\u2019r sector gwirfoddol yn ei chwarae o ran sicrhau bod cymunedau\u2019n parhau\u2019n wydn, yn unedig ac yn gysylltiedig \u00e2 byd natur yn hanfodol bwysig, drwy gydol y pandemig ac ymhell wedi iddo ddod i ben.<\/h6>\n
Wrth gwrs, mae prosiectau gwych Our Bright Future yn chwarae eu rhan drwy gefnogi pobl ifanc i gysylltu \u00e2\u2019i gilydd a gyda byd natur a\u2019r amgylchedd wrth iddyn nhw barhau i arwain newid positif ar gyfer eu cymunedau a\u2019u hamgylchedd lleol.<\/h6>\n

 <\/p>\n

<\/h2>\n

Newyddion pwysig gan ein cyllidwyr ni<\/h2>\n

Felly, mae\u2019n galonogol bod Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi addo parhau i ddarparu ei gwasanaethau i ymgeiswyr, deiliaid grantiau a chymunedau ar hyd a lled y DU mor normal \u00e2 phosib. Mae hyblygrwydd o\u2019r fath, a dealltwriaeth o\u2019r anawsterau y gall prosiectau Our Bright Future eu hwynebu yn ystod yr wythnosau a\u2019r misoedd sydd i ddod, yn hynod galonogol.<\/h6>\n
Darllenwch eu datganiad yma<\/a>.<\/h6>\n

 <\/p>\n

<\/h2>\n

Does dim angen i fyd natur fod yn ddieithr i ni<\/h2>\n

Nid gormodiaith yw dweud ein bod ni i gyd yn dal i geisio dod o hyd i lwybr drwy\u2019r cyfnod anodd yma. Mae llawer ohonom ni sy\u2019n gallu yn dechrau chwilio am ffyrdd newydd o fod yn ddyfeisgar ac yn greadigol. Yma yn nh\u00eem y rhaglen, fe fyddwn ni\u2019n parhau i gefnogi pob prosiect. Rydyn ni yma i\u2019ch helpu chi i feddwl am ffyrdd eraill o weithio gyda phobl ifanc a sicrhau bod pobl ifanc yn dal i chwarae r\u00f4l allweddol mewn cynllunio gweithgareddau, dylanwadu ar lunio polis\u00efau a gweithio fel catalyddion ar gyfer creu newid.<\/h6>\n

 <\/p>\n

<\/h2>\n
\n

Gall yr adnoddau hyn fod yn werthfawr hefyd i\u2019w rhannu gyda phobl ifanc a gweithwyr ieuenctid:<\/h2>\n

COVID-19 \u2013 Beth yw\u2019r feirws? Beth mae\u2019n ei olygu?<\/strong><\/h6>\n
Os hoffech chi holi rhai cwestiynau am COVID-19:<\/h6>\n