{"id":6957,"date":"2020-04-15T12:45:33","date_gmt":"2020-04-15T11:45:33","guid":{"rendered":"http:\/\/www.ourbrightfuture.co.uk\/cy\/?p=6957"},"modified":"2020-04-20T09:13:39","modified_gmt":"2020-04-20T08:13:39","slug":"rhannu-dysgu-gwella-beth-yw-hyn-a-beth-rydyn-ni-wedii-ddysgu-hyd-yma","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/2020\/04\/15\/rhannu-dysgu-gwella-beth-yw-hyn-a-beth-rydyn-ni-wedii-ddysgu-hyd-yma\/","title":{"rendered":"Rhannu Dysgu Gwella \u2013 beth yw hyn a beth rydyn ni wedi\u2019i ddysgu hyd yma"},"content":{"rendered":"
<\/p>\n
\n\u201cMae\u2019n dda oherwydd rydych chi\u2019n gweld pobl ifanc eraill yn gweithredu ac yn meddwl i chi\u2019ch hun, mae gen i syniadau am yr amgylchedd hefyd. Os fedr y person yma sefyll a dweud rhywbeth, fe alla\u2019 i sefyll i fyny hefyd. Mae\u2019n cael mwy a mwy o bobl i gymryd rhan.\u201d Cyfweliad gyda chyfranogwr prosiect, 2018<\/em><\/h6>\n<\/blockquote>\n
<\/p>\n
Tu \u00f4l i\u2019r llenni, mae ein strategaeth Rhannu Dysgu Gwella wedi dechrau hefyd, gyda\u2019r nod o ychwanegu gwerth a sicrhau effaith orau bosib y rhaglen drwy ddarparu llwyfan i staff y prosiect ddod at ei gilydd. Ond sut gall 31 o brosiectau ar wasgar ledled y DU, gyda channoedd o staff a phartneriaid, gadw mewn cysylltiad a dysgu oddi wrth ei gilydd?<\/h6>\n
<\/p>\n
Yr allwedd i ddull o weithredu Rhannu Dysgu Gwella yw amrywiaeth yr elfennau sydd ar gael gennym ni. Nid yw pawb yn gallu dod i\u2019r digwyddiadau bob tro. Bydd rhai\u2019n hoffi edrych ar borthol ar-lein bob hyn a hyn ac wedyn cael y newyddion diweddaraf, bydd rhai\u2019n hoffi cyfarfod wyneb yn wyneb pan mae hynny\u2019n bosib, a bydd eraill eisiau gwrando\u2019n \u00f4l ar recordiadau gweminar os ydyn nhw\u2019n rhy brysur yn darparu gweithgareddau yn ystod y diwrnod gwaith i fynychu\u2019n \u2018fyw\u2019. Felly rydyn ni wedi darparu amrywiaeth eang o elfennau a\u2019u cadw\u2019n hyblyg, gan gynnwys y canlynol:<\/h6>\n
\n
- \n
gwefan<\/strong> i aelodau yn unig, gan weithredu fel storfa ddigidol o adnoddau, bwrdd trafod a\u2019r newyddion diweddaraf<\/h6>\n<\/li>\n
- \n
rhwydwaith cefnogi <\/strong>talu ffi yn cynnwys staff prosiect sy\u2019n gallu cefnogi prosiectau eraill gyda darnau penodol o waith<\/h6>\n<\/li>\n
- \n
gweminarau <\/strong>ar-lein rheolaidd yn rhoi sylw i them\u00e2u cyfoes neu anghenion dysgu<\/h6>\n<\/li>\n
- \n
gweithdai <\/strong>rhanbarthol wyneb yn wyneb yn ystod y gwanwyn a\u2019r hydref yn galluogi i brosiectau \u2018lleol\u2019 rannu syniadau<\/h6>\n<\/li>\n
- \n
seminar <\/strong>flynyddol i bob prosiect ddechrau\u2019r haf, gyda\u2019r rhaglen gyfan yn dod at ei gilydd ochr yn ochr \u00e2\u2019r Gr\u0175p Llywio, y Panel Gwerthuso ac aelodau\u2019r Fforwm Ieuenctid.<\/h6>\n<\/li>\n<\/ul>\n
\n\u201cRydyn ni\u2019n dysgu o\u2019r rhwydwaith. Pan nad yw pethau\u2019n mynd yn \u00f4l y disgwyl, rydych chi\u2019n cael gwybod am brofiad y prosiectau eraill a\u2019u bod nhw\u2019n profi heriau tebyg.\u201d Rheolwr Prosiect<\/em><\/h6>\n<\/blockquote>\n
<\/p>\n
Mae\u2019r strategaeth Rhannu Dysgu Gwella wedi parhau mor hyblyg \u00e2 phosib drwy gydol y rhaglen, gan olygu ei bod yn broses barhaus o ymgynghori, adlewyrchu a gweithredu er mwyn ymateb i anghenion y portffolio a rhoi sylw i faterion.<\/h6>\n
Rydyn ni wedi gallu defnyddio\u2019r adroddiadau prosiect chwarterol i weld pa brosiectau sydd yn y sefyllfa orau i rannu gwybodaeth am bwnc neu thema benodol \u2013 y budd o gael aelod penodol o staff yn mynd drwy bethau ac yn gwneud nodiadau am yr hyn a ddysgwyd, i fod yn ddefnyddiol i weddill y rhwydwaith efallai.<\/h6>\n
<\/p>\n
![]()
![]()
<\/h6>\n
\nDywedodd sawl rheolwr prosiect bod y cynnydd gyda ffyrdd newydd o weithio wedi bod yn gyflymach o gymharu \u00e2 phrosiectau\u2019n rhoi cynnig ar ffyrdd newydd o weithio ar eu pen eu hunain, gyda phrosiectau\u2019n cael eu hysbrydoli ac yn cael hyder i roi cynnig ar bethau newydd na fyddent wedi eu rhoi ar waith fel arall efallai na gwybod am yr adroddiad gwerthuso canol tymor.<\/em><\/h6>\n<\/blockquote>\n
<\/p>\n
Yn fwy na dim, mae\u2019r strategaeth Rhannu Dysgu Gwella wedi bod yn llwyddiant oherwydd y prosiectau eu hunain. Bydd dull o weithredu fel hyn yn gweithio os yw pawb sy\u2019n cymryd rhan yn agored ac yn fodlon rhannu eu profiadau; cydnabod er bod gennym ni amcanion sefydliadol unigol, ein bod ni i gyd yma am yr un rheswm a gyda\u2019r un nod yn y pen draw.<\/h6>\n
Mae staff prosiectau wedi cefnogi\u2019r dull o weithredu gan rannu eu gwybodaeth yn agored \u2013 heriau a llwyddiannau \u2013 ac, mewn rhai achosion, maen nhw wedi creu partneriaethau ar gyfer parhau i gydweithio yn y dyfodol. Mae sawl cyfeillgarwch wedi\u2019i ffurfio hefyd!<\/h6>\n
Gydag ychydig dros flwyddyn ar \u00f4l, mae\u2019n dod yn amlwg sut dylai strategaeth fel Rhannu Dysgu Gwella fod yn rhan orfodol o raglenni sy\u2019n cael eu cyllido am dymor penodol. Gyda ffenestr mor fyr i greu effaith fawr, does dim gwell ffordd i sicrhau\u2019r rhannu a\u2019r dysgu gorau posib ac ychwanegu gwerth at y ddarpariaeth.<\/h6>\n
Mae wir yn anhygoel beth all pobl ei gyflawni wrth gydweithio!<\/h6>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"
Lansiwyd Our Bright Future bedair blynedd yn \u00f4l \u2013 rhaglen genedlaethol gwerth \u00a333 miliwn yn buddsoddi mewn 31 o brosiectau amrywiol, gyda\u2019r nod o ddod \u00e2\u2019r sectorau ieuenctid ac amgylcheddol at ei gilydd. Mae\u2019r rhaglen yn cyllido prosiectau i wneud y canlynol: grymuso pobl ifanc i ddod yn ddinasyddion medrus a chyfranogol, boed drwy […]<\/p>\n","protected":false},"author":64,"featured_media":6958,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[44,1],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6957"}],"collection":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/64"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6957"}],"version-history":[{"count":12,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6957\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6995,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6957\/revisions\/6995"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6958"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6957"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6957"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6957"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}