{"id":7057,"date":"2020-06-17T15:49:56","date_gmt":"2020-06-17T14:49:56","guid":{"rendered":"http:\/\/www.ourbrightfuture.co.uk\/cy\/?p=7057"},"modified":"2020-06-17T15:53:01","modified_gmt":"2020-06-17T14:53:01","slug":"ton-o-newid-fy-mlwyddyn-i-ar-y-glannau","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/2020\/06\/17\/ton-o-newid-fy-mlwyddyn-i-ar-y-glannau\/","title":{"rendered":"Ton o Newid: Fy Mlwyddyn i ar y Glannau"},"content":{"rendered":"

\"\"Gan Jodie Holyoake<\/h4>\n

Nid gormodiaith yw dweud ei bod wedi bod yn gorwynt o flwyddyn i mi! Ar \u00f4l graddio gyda gradd mewn Ffotograffiaeth Forol a Byd Natur a gwneud ceisiadau di-ri am swyddi yn y sector cadwraeth am sbel dda, roeddwn i ar ben fy nigon yn derbyn *yr* alwad ff\u00f4n yna\u2019n dweud fy mod i\u2019n mynd i fod yn Brentis gydag Your Shore Beach Rangers yn \u00f4l ym mis Ebrill 2019.<\/h6>\n

 <\/p>\n

Drwy gydol fy mlynyddoedd yn tynnu lluniau rhyfeddodau\u2019r byd glas ac yn gwirfoddoli fy amser yn lleol yn fy ngr\u0175p morol, roeddwn i bob amser yn cael anhawster gweld SUT yn union oeddwn i\u2019n mynd i allu troi\u2019r angerdd yma yn yrfa. Mae\u2019r rhan fwyaf o \u2019nghyfoedion i wedi wynebu\u2019r un broblem ac nid dyma\u2019r diwydiant hawsaf i ddechau ynddo yn sicr, yn enwedig pan rydych chi\u2019n ifanc. Ond drwy ddyfalbarhau, ac yn llawn cymhelliant a thrwy ddod i adnabod cymuned Cernyw o ryfelwyr morol, byddai fy nghyfleoedd yn gwella ymhen amser. Ac wrth lwc i mi, fe ddaeth y cyfle hwnnw ar ffurf ymuno \u00e2 Th\u00eem Morol Ymddiriedolaeth Natur Cernyw (criw gwych o bobl a dweud y lleiaf).<\/h6>\n

 <\/p>\n

Wrth ddechrau ar y siwrnai yma, doeddwn i ddim yn sylweddoli faint oeddwn i wedi datblygu (er bod hynny\u2019n swnio\u2019n gawslyd)! Mae llawer o fy r\u00f4l i fel prentis yn cynnwys cyfryngau cymdeithasol, marchnata a hybu digwyddiadau, ac rydw i\u2019n mwynhau hynny yn fawr. Ond y cyfleoedd y tu allan i fy mhrif ddyletswyddau i sydd wedi cyfrannu fwyaf at fy natblygiad personol a phroffesiynol. Fel person ifanc yn gweithio ar y prosiect yma ac yn aelod o fforwm ieuenctid Our Bright Future, rydw i wir wedi gallu gwthio fy hun y tu hwnt i beth sy\u2019n gyfforddus i mi, wynebu heriau newydd a chael cyfoeth o wybodaeth gan y rhai o \u2019nghwmpas i \u2013 a\u2019r cyfan gyda chefnogaeth fy nh\u00eem. A dyna\u2019n UNION pam rydw i\u2019n teimlo bod y brentisiaeth yma\u2019n unigryw. Er nad yw\u2019r siwrnai wedi bod yn hawdd bob amser, rydw i wedi bod yn ddiolchgar am yr holl brofiadau rydw i wedi gallu gwneud cynnydd ohonyn nhw. Fe fyddwn i\u2019n hoffi rhannu tri uchafbwynt o fy mhrentisiaeth gyda chi, sy\u2019n cadarnhau faint o effaith all y prosiect yma ei chael ar berson ifanc fel fi …<\/h6>\n

 <\/p>\n

Mynd i Belfast!<\/h5>\n
\"\"Ychydig wythnosau ar \u00f4l dechrau fy mhrentisiaeth, gofynnwyd i mi fyddwn i\u2019n hoffi ymuno \u00e2 Jax a\u2019n cynrychiolwyr ni ar fforwm ieuenctid Our Bright Future, Adele a Laura, yn y seminar ar gyfer y prosiect cyfan \u2013 yn Belfast, Gogledd Iwerddon eleni! Fe ddaeth y 31 o brosiectau at ei gilydd i ddathlu cyflawniadau\u2019r rhaglen 5 mlynedd sy\u2019n grymuso ieuenctid ac i helpu i gymell ei gilydd ar gyfer y flwyddyn i ddod. Roedd yn eithriadol werthfawr dysgu mwy am y prosiectau eraill a beth oedd yn gwneud Our Bright Future mor unigryw yn gynnar yn y brentisiaeth. Roedd siarad gyda chynrychiolwyr amrywiol y fforwm ieuenctid a staff y prosiect yn ystod y deuddydd yn gr\u00eat, a hefyd y gweithgareddau gafodd eu darparu i ni gan griw Belfast Hills (does dim byd gwell na chreu eich pensil eich hun!). Ers dod adref yn \u00f4l, rydw i wedi mwynhau cael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr holl brosiectau a chysylltu \u00e2\u2019r bobl ifanc yn rhithiol, ac rydw i\u2019n edrych ymlaen yn fawr at weld pawb eto fis Hydref.<\/h6>\n

 <\/p>\n

Sgyrsiau Cynhadledd<\/h5>\n
\"\"<\/h6>\n
Gyda help Cydlynydd Fforwm Ieuenctid Our Bright Future, Lydia Allen, fe gefais i gyfle gwych i siarad yng nghynhadledd A Focus on Nature – \u2018Now for Nature\u2019 \u2013 yn y Natural History Museum yn Llundain (llun ar y chwith). A Focus On Nature yw\u2019r rhwydwaith natur i ieuenctid y DU, sy\u2019n gweithio gyda sefydliadau partneriaeth er mwyn datblygu mudiad cadwraeth ieuenctid, ac roedd yn anodd credu \u2019mod i\u2019n siarad yng nghanol pobl fel Chris Packham, Stephen Moss ac eraill o WWF-UK, y Marine Conservation Society a hyd yn oed y llywodraeth! Yn bwysicach na dim, roedd y gynhadledd yn gyfle i mi rwydweithio a chysylltu \u00e2 chymaint o gadwriaethwyr ifanc, ysbrydoledig; ac rydw i dal mewn cysylltiad \u00e2 rhai o\u2019r rhain ar gyfryngau cymdeithasol heddiw.<\/h6>\n

 <\/p>\n

Yn \u00f4l ym mis Chwefror eleni roedd cynhadledd fawr arall \u2013 Cynhadledd flynyddol Your Shore gyda mwy na 120 yn bresennol ar y diwrnod (llun ar y dde)! Mae wastad yn un o fy hoff ddigwyddiadau i yn ystod y flwyddyn oherwydd mae\u2019n gyfle i edrych yn \u00f4l ar beth mae Rhwydwaith Your Shore ac Academi Beach Ranger wedi\u2019i gyflawni a chyfarfod gyda\u2019r rhai dydych chi prin byth yn eu gweld (hyd yn oed mewn sir fechan fel Cernyw). I goroni\u2019r flwyddyn, fe gefais i gyflwyno ochr yn ochr \u00e2\u2019r wardeiniaid traeth eraill, Laura Thornton a Josh Symes, sy\u2019n parhau i fy ysbrydoli i gyda\u2019r gwaith maen nhw\u2019n ei wneud!<\/h6>\n

 <\/p>\n

Cysylltu Ar-lein<\/h5>\n
<\/h6>\n
Yn olaf ond nid y lleiaf, fe ddatblygais i hoffter mawr o gyfathrebu am ryfeddodau\u2019r byd tanddwr yma yng Nghernyw, drwy fy ngwaith ar ein platfformau digidol a\u2019n cyfryngau cymdeithasol ni. Rydw i\u2019n teimlo ei bod yn bwysig iawn ceisio denu pobl o\u2019r tu allan i\u2019r \u2018swigen gadwraeth\u2019, rhag pregethu wrth y rhai sy\u2019n deall popeth eisoes, ac annog pobl newydd i ymuno \u00e2 Rhwydwaith Your Shore a\u2019n helpu ni i warchod ein gofod glas lleol. Mae fy ngwaith i wedi cynnwys gwneud darpariaeth Instagram ar gyfer cynulleidfaoedd mawr yr Ymddiriedolaethau Natur ac Ymddiriedolaeth Natur Cernyw yn ystod yr Wythnos Forol Genedlaethol a Mis Siarcod YSBR, gan ddatblygu Map ein Wythnos Caru Eich Traeth 2020 a helpu i greu ein hymgyrch ar-lein, \u2018Every Body\u2019s A Beach Body\u2019, ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl y llynedd. Mae wedi bod yn anhygoel gweld yr adwaith i\u2019n presenoldeb ni ar-lein (yn enwedig yn ystod y cyfyngiadau symud) ac fe fyddwn i wrth fy modd yn parhau \u00e2\u2019r math yma o waith yn fy ngyrfa.<\/h6>\n

 <\/p>\n

\"\"<\/p>\n

 <\/p>\n

Diolch i chi i gyd am ddarllen! Os byddech chi\u2019n hoffi dod yn Brentis newydd gyda Your Shore Beach Rangers a dilyn gyrfa yn y sector cadwraeth forol yma yng Nghernyw, mae\u2019r ceisiadau ar agor nawr tan Fehefin 22ain 2020. Gwnewch gais yma.<\/a><\/h6>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"

Gan Jodie Holyoake Nid gormodiaith yw dweud ei bod wedi bod yn gorwynt o flwyddyn i mi! Ar \u00f4l graddio gyda gradd mewn Ffotograffiaeth Forol a Byd Natur a gwneud ceisiadau di-ri am swyddi yn y sector cadwraeth am sbel dda, roeddwn i ar ben fy nigon yn derbyn *yr* alwad ff\u00f4n yna\u2019n dweud fy […]<\/p>\n","protected":false},"author":64,"featured_media":7059,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[44],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7057"}],"collection":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/64"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7057"}],"version-history":[{"count":16,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7057\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":7080,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7057\/revisions\/7080"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/7059"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7057"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7057"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7057"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}